• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Ysgol John Bright

Hyrwyddo'r Gwerthoedd yn yr ysgol ac yn fyd-eang

Pam Bydd Barod?

Fel rhan o amcan rhagoriaeth yr ysgol, roedd Ysgol John Bright (Conwy, Cymru) eisoes yn ymwneud â hyrwyddo rhagoriaeth mewn chwaraeon a dinasydddiaeth byd-eang. Roedd Gemau Olympaidd a Pharalympaidd 2012 yn gyfle gwych i hyrwyddo, datblygu ac addysgu yn y meysydd hyn gan ddefnyddio digwyddiad fyddai'n cael ei gynnal yn y DU.

Gyda'r Gemau mor agos atom, roedd yna lawer o gyfleoedd i hyrwyddo'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd ac i addysgu myfyrwyr ar lefel fyd-eang.

Y Daith Hyd Yma

Siaradodd yr athletwr Olympaidd Jamie Baulch â'r myfyrwyr fel rhan o ymgyrch iNet Cymru i ddenu diddordeb ysgolion yng Ngemau 2012. Disgrifiodd ei brofiadau ei hun wrth gystadlu'n y gemau Olympaidd a'r penderfyniad sydd ei angen i lwyddo ar y lefel uchaf.

Mae cynlluniau gwaith AG wedi ymgorffori elfennau megis cynhwysedd a gwobrwyo ymroddiad. Trwy'r Wythnos Chwaraeon Ysgol Genedlaethol bydd myfyrwyr yn cofnodi eu gorau glas mewn amrywiaeth o gampau a bydd wythnos Gemau Olympaidd yn ymgorffori ystod o weithgareddau yn seiliedig ar y Gwerthoedd.

Mae gweithgareddau eraill ar draws y cwricwlwm wedi cynnwys:

  • Portffolios 'Gelli lwyddo' mewn TGC yn seiliedig ar y Gwerthoedd ac anelu at annog eraill i wella eu ffyrdd o fyw.
  • Daearyddiaeth modiwl chwaraeon
  • Creu rysetiau ar gyfer cystadleuaeth Bydd Barod i ymarfer blasu.
  • Dylunio cynhyrchion coffa Llundain 2012
  • Cymryd rhan yng Ngwobr posteri Inspire Aspire
  • 'Arwyr Chwaraeon' 6ed Dosbarth yn gweithio â chwaraeon ysgolion cynradd.

Bydd Ysgol John Bright yn cefnogi Malawi a De Affrica yn ogystal â Phrydain yn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd. Gyda chysylltiad â phartner-ysgolion yn y ddwy wlad, mae sesiynau Skype yn cadw pawb mewn cysylltiad.

Gwerthoedd Positif

Gan eu bod wedi cael eu harddangos yn amlwg o gwmpas yr ysgol, mae'n hawdd i staff gyfeirio at y Gwerthoedd mewn gwersi ac mewn bywyd o ddydd i ddydd gyda'r myfyrwyr; gellir perthnasu'r Gwerthoedd yn hawdd i bopeth a wna'r myfyrwyr, o berfformio ar y diwrnod mewn arholiad i resymau y tu ôl i reolau'r ysgol.

Mae defnyddio'r Gemau a chwaraeon i gyflwyno'r Gwerthoedd wedi gylygu bod myfyrwyr wedi cymryd rhan yn y gweithgareddau ac yn sylweddoli sut mae'r Gwerthoedd yn bwysig i'r Gemau ac mewn bywyd bob dydd.

A'r uchafbwynt i'r myfyrwyr?

Mae myfyrwyr wedi cael eu hysbrydoli gyda'r syniad o fod y gorau am wneud rhywbeth a gweld pobl sy'n byw yn eu gwlad hwy yn paratoi i fod ar eu gorau yn y Gemau.

  • "Nid oeddwn erioed wedi meddwl y gallai bachgen ysgol (Tom Daley) fod yn y Gemau Olympaidd."
  • "Rwyf wedi defnyddio Gwerthoedd y Gemau Olympaidd i feddwl am wneud fy ngorau yn fy arholiadau"
  • "Mae'n wych eu bod yn cael eu cynnal yma ac y gallwn fod yn rhan o'r paratoadau."

Ymlaen at 2012

Mae ysgol John Bright eisiau i fyfyrwyr ddeall y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd yn iawn, i sylweddoli sut y gallant weithredu arnynt yn eu bywydau bob dydd a gweld sut mae'r Gwerthoedd hyn yn helpu amrywiaeth o bobl i fod yn rhan o gymuned gref.

Wrth i 2012 agosau mae'r ysgol yn amcanu i fyfyrwyr gael profiad cyflawn o baratoadau'r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd er gwaethaf bod cryn bellter o Lundain.