• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Ysgol Gynradd Princeville

Ysbrydoli plant i wireddu eu breuddwydion

Pam Bydd Barod?

Roedd Princeville yn gweld Bydd Barod fel cyfle gwych i gyffroi plant ynglŷn â'r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd ac ynglŷn â dysgu ei hun. Roedd hyn yn ffordd o wneud dysgu yn berthnasol, i blant ddarganfod mwy am y Gemau a'r athletwyr, a theimlo ysbrydoliaeth i wneud eu gorau glas.

Roedd bod mewn rhwydwaith gydag ysgolion eraill yn cael ei ystyried yn bwysig gan Princeville fel ffordd o rannu eu llwyddiannau eu hunain ac o gael syniadau newydd.

Y Daith Hyd Yma

Gan ddefnyddio gwasanaeth o wefan Bydd Barod, cyflwynwyd y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd a rhoddwyd medalau aur i blant oedd yn eu harddangos.

Bu i Usain Bolt fod yn ffocws ysbrydoledig ar gyfer amryw weithgareddau ac i gael plant i feddwl am fyrdd o fyw'n iach. I hyrwyddo rhedeg, creodd y plant ymgyrchoedd hysbysebu bywiog yn cynnwys posteri a hysbysebion radio/teledu.

Bu un grŵp yn ddigon ffodus o gael mynd i'r Cwpan y Byd Paralympaidd. Gyda nifer cyfyngedig o docynnau ar gael ar gyfer yr ymweliad, bu'n rhaid i'r plant ddefnyddio eu sgiliau ysgrifennu perswadiol gorau, gan egluro pam eu bod yn haeddu mynd a pha rai o'r Gwerthoedd maent wedi eu harddangos.

Gyda Seb Coe fel gwestai arbennig, ymunodd y plant gydag ysgolion eraill yn Bradford i gyflwyno gwaith yr oeddynt wedi ei wneud fel rhan o Bydd Barod, rhai hyd yn oed yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth athetau gydag enillydd medal aur yn gwylio!

Gwerthoedd Positif

Mewn dosbarthiadau sydd wedi bod yn astudio'r Gwerthoedd, mae gwell ymddygiad wedi bod ynghyd ag agwedd mwy penderfynol i lwyddo; mae'r plant yn cael eu cyffroi i wthio'u hunain i lwyddo mewn pethau newydd.

Mae plant wedi derbyn testun traws-gwricwlaidd cyffrous fel ffordd o ddysgu ac maent wedi dangos mwy o ddiddordeb mewn chwaraeon. Wedi cael ysbrydoliaeth gan athletwyr, mae plant wedi dysgu i fod y gorau y gallant fod, wedi trafod yn hyderus eu breuddwydion am y dyfodol ac maent i gyd wedi gosod nod personol ar gyfer y flwyddyn.

'Daw plant yn rheolaidd i'r dosbarth yn y bore eisiau rhannu'r hyn y maent wedi ei weld ar y newyddion am Usain Bolt neu Chris Hoy neu Tom Daley.'

A'r uchafbwynt i'r myfyrwyr?

  • 'Rwy'n caru gweld chwaraeon newydd.'
  • 'Mae'n wych gweld llawer o bobl yn cystadlu.'
  • 'Rydym yn cael gweld gemau y gallwn roi cynnig arnynt.'
  • 'Rwy'n caru gweld Usain Bolt yn rhedeg ac yn torri record!'

Ymlaen at 2012

Mae Princeville yn bwriadu cynllunio rhaglen o weithgareddau ar gyfer yr ysgol gyfan, yn cynnwys cynnal digwyddiadau chwaraeon a defnyddio gwasanaethau unwaith eto i drafod y Gwerthoedd. Ffon fesur llwyddiant fyddai gweld plant yn cyfeirio at y Gwerthoedd ac yn deall pan fyddant yn eu harddangos.

Bydd y plant yn cael cyfle i:

  • Brofi eu Gemau Olymaidd Bychain eu hunain
  • Gosod amcanion yn yr ysgol a thu allan
  • Datblygu gwybodaeth am y Gemau a'u hanes.

Wrth i 2012 agosau, mae Princeville yn amcanu at barhau i annog plant i fod yn fwy ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd y tu hwnt i Bradford ac i ddeall pa mor wych yw cael y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn Llundain!