Ymdrochi yn Llundain 2012 ac ysbrydoli plant
Pam Bydd Barod?
Roedd ymuno â rhwydwaith Bydd Barod yn golygu cydnabyddiaeth am weithgareddau sydd eisoes yn cael eu cynnal ac yn gymhelliad ychwanegol i barhau i baratoi ar gyfer Llundain 2012. Roedd Ysgol Gynradd Heath (Suffolk, Dwyrain Lloegr), yn anelu at ehangu cyfranogiad yr ysgol gyda'r Gemau a llwyddo i gael dylanwad hir-dymor ar ymwneud y plant gydag eraill.
Roedd cynlluniad wedi eu gwneud i rannu profiadau gyda phlant mewn ysgolion eraill trwy flog Bydd Barod, ac i gynyddu'r cysylltiadau gydag athletwyr Olympaidd a Pharalympaidd a phlant mewn gwledydd eraill.
Y Daith Hyd Yma
Mae plant ac oedolion yn cynnwys athletwyr Olympaidd a Pharalympaidd wedi creu teils ac arnynt heriau personol y maent yn gobeithio eu cyflawni erbyn 2012; a'r canyliad yw 'Mur Heriau' trawiadol o 600 o deils ceramig! Cynhaliwyd yr agoriad mawreddog ar ffurf diwrnod cymunedol a gefnogwyd gan glybiau a sefydliadau chwaraeon lleol ac fe'i mynychwyd gan Sir Keith Mills, Is-Gadeirydd LOCOG.
Bu ymweliadau rheolaidd gan athletwyr yn elfen gref. Er enghraifft, ar ôl ennill 'Medal Aur Syniad y Pythefnos' ar safle'r Trosglwyddiad Paralympaidd, cafodd Ysgol Heath ymweliad gan y cleddyfwr Richard Kruse.
Mae adran o blatform dysgu'r ysgol wedi ei neilltuo i Lundain 2012, ac mae defnydd da wedi cael ei wneud o flog Bydd Barod fel cofnod ysbrydoledig o'r hyn sydd wedi bod yn digwydd yn yr ysgol ac yn genedlaethol.
Caiff medalau eu rhoi i'r plant hynny sy'n dangos Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd yn eu bywydau bob dydd.
Gwerthoedd Positif
Cynhyrchwyd cyffro ac ysbrydoliaeth gan ymweliadau gan athletwyr sydd wedi rhoi'r un neges ond mewn ffyrdd gwahanol - ceisiwch rywbeth yr ydych yn dda ynddo a dal ati, peidiwch ag ildio! Mae ymwybyddiaeth o anabledd wedi cynyddu trwy i blant gyfarfod â Pharalympiaid a thrwy weithio gydag ysgol arbennig leol a chlybiau chwaraeon i'r anabl.
Mae plant wedi cael blas ar gampau newydd trwy gyfarfod ag athletwyr a mynychu diwrnod cymunedol. Mae clybiau lleol eisoes wedi adrodd am gynydd mewn diddordeb ac mewn aelodau newydd o ganlyniad i'r diwrnod.
Cafwyd effaith bositif ar y cwricwlwm oherwydd y cwmpas enfawr o gyfleon traws-gwricwlaidd.
A'r uchafbwynt i'r myfyrwyr?
- 'Rydym wedi cael nifer o bobl enwog yn arwyddo teils fel y gallwn eu rhoi ar ein mur.'
- 'Mae'n mur teils yn rhywbeth i fod yn falch ohono. Gwnaethom y prosiect hwn ar ôl cael ein hysbrydoli gan Gemau Olympaidd Llundain 2012. Mae pawb yn hapus gyda'r ymdrech a ddangoswyd ac rydym yn gogeithio y daw llawer o Olympiaid eraill i wneud eu teils hwy hefyd!'
- 'Beth bynnag eich ymddangosiad, neu beth bynnag fo'ch anabledd, gallwch ddal i wireddu eich breuddwydion.'
Ymlaen at 2012
Mae Ysgol Gynradd Heath eisiau adeiladu ar y llwyddiant a gafwyd wrth greu ymwybyddiaeth o'r cyfleon a gynigir gan y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, gan amcanu i blant:
- Gymryd rhan mewn ystod ehangach o chwaraeon nag erioed o'r blaen
- Gwylio athletwyr yn cymryd rhan yn Llundain 2012
- Gwireddu amcanion personol.
Mae cael cydnabyddiaeth leol a chenedlaethol am gyfranu at baratoadau a gwaddol Llundain 2012 yn parhau i fod yn wirioneddol bwysig.













