• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Ysgol Bryn Alyn

Cofleidio'r Freuddwyd Olympaidd

Pam Bydd Barod?

Gyda ffocws yr ysgol gyfan ar Lundain 2012, mae Ysgol Bryn Alyn eisoes wedi sefydlu pwyllgor Breuddwydion Olympaidd o fyfyrwyr a thrwy lwyddiant yng nghystadleuaeth Breuddwydion Olympaidd y BBC a'r Cyngor Prydeinig mae hi wedi cael ei chysylltu ag ysgol yn Iowa a fynychwyd gan y gymnastwr Americanaidd Shawn Johnson.

Ystyriwyd bod ymuno â Bydd Barod yn ffordd o annog myfyrwyr i fod yn falch o'u gwlad ac i ddefnyddio straeon am athletwyr i ysbrydoli myfyrwyr i wireddu eu breuddwydion eu hunain.

Y Daith Hyd Yma

Sefydlwyd amserlen ar gyfer cyfres lwyddiannus o ddyddiau Breuddwydion Olympaidd y Byd i weithio ar weithgareddau i hyrwyddo'r Gwerthoedd ac i ysbrydoli myfyrwyr i ddeall mwy am y byd. Roedd pob maes cwricwlaidd yn canolbwyntio ar un o dri thema, sef 'Byd', 'Gemau Olympaidd' a 'Breuddwydion'. Roedd amrywiaeth o weithgareddau ymgysylltiol a chyffrous yn cynnwys:

  • Creu dalwyr breuddwydion anferthol
  • Ymchwilio i gynaliadwyedd y Lleoliadau Olympaidd
  • Sesiynau blasu hyfforddi pêl-foli
  • Gweithdy drymiau Affricanaidd
  • Gwaith ar fab y Fflam Olympaidd

Mae grŵp COPE yn ysgol wedi trefnu i droi gardd ffrynt yr ysgol yn Ardd Olympaidd gydag ymgyrchoedd codi arian yn cael eu cynnal gan fyfyrwyr a rhoddion gan y gymuned leol.

Mae cyfeillgarwch yn parhau i gael ei feithrin trwy waith gyda'r ysgol gyswllt yn Iowa. Rhennir prosiectau cwricwlwm ac mae myfyrwyr wedi datblygu tudalen Facebook o'r enw 'Bryn Alun Southwoods' er mwyn cysylltu gyda'i gilydd a galluogi rhannu clipiau fideo a ffotograffau.

Gwerthoedd Positif

Roedd y Diwrnodau Breuddwydion Olympaidd yn ymgorffori dysgu testun ar draws y cwricwlwm gyda nifer o enghreiiftiau o wahanol ddulliau addysgu a dysgu; bu i'r myfyrwyr fwynhau profiadau na fyddant fel arall wedi eu cael a chafodd y Gwerthoedd eu hyrwyddo.

Mae'r myfyrwyr wedi dod yn fwy ymwybodol o'r aberth a wneir gan athletwyr er mwyn gwireddu eu breuddwydion, a bu i stori Shawn Johnson eu hysbrydoli'n fawr.

A'r uchafbwynt i'r myfyrwyr?

  • "Rydym yn fwy ymwybodol o ystyr y Gemau Olympaidd (nid chwaraeon yn unig!) a rydym eisiau gwireddu ein breuddwydion ein hunain beth bynnag fônt".
  • "Cydraddoldeb rhwng Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd"
  • "Bod mewn cysylltiad â Phencampwr Olympaidd oedd ond yn ddisgybl cyffredin fel ni."

Ymlaen at 2012

Trwy gysylltiadau rhyngwladol mae gwybodaeth y myfyrwyr am y byd yn cynyddu'n barod. Mae Ysgol Bryn Alyn yn amcanu at annog datblygiad y myfyrwyr fel dinasyddion y byd ac mae yna gynlluniau i ddatblygu'r Pwyllgor Breuddwydion Olympaidd yn Bwyllgor Rhyngwladol.

Y mae hefyd eisiau adeiladu ar lwyddiant y diwrnodau cwricwlwm gan amcanu at weld myfyrwyr yn trafod paratoadau Llundain 2012 gyda chyffro a brwdfrydedd, i fod â mwy o ddiddordeb yn 'eu' Gemau hwy nag mewn Gemau eraill a sylweddoli nad chwaraeon yn unig yw'r Gemau ond cyfle hefyd i wireddu breuddwydion.

"Yn y pen draw rydym eisiau i'n myfyrwyr sylweddoli bod unrhyw beth yn bosibl os gweithiwch yn galed a'ch bod yn benderfynol - rhywbeth y gallant ei barhau drwy weddill eu bywydau."