• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Totton College

Hyrwyddo cyfleoedd chwaraeon cynhwysol

Pam Bydd Barod?

Roedd Totton College (De Ddwyrain Lloegr, Hampshire) eisiau i staff a myfyrwyr fwynhau pob budd posibl allai'r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd eu cynnig a chyfoethogi y profiad o ddysgu a gynigir gan y coleg. Roedd eisoes yn falch o fod yn goleg cynhwysol gyda myfyrwyr nad ydynt yn anabl yn derbyn addysg ynghyd â myfyrwyr ag ystod o anableddau.

Y Daith Hyd Yma

Nodwyd 500 diwrnod hyd at ddechrau Llundain 2012 gyda digwyddiad Sêr Ysgolion New Forest gyda gweithgareddau'n cynnwys rhwyfo, deuathlon, profi ffitrwydd a golff. Mae myfyrwyr yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn cystadlaethau chwaraeon yn cynnwys Twrnameint Athletau Colegau Hampshire sy'n hyrwyddo'r Gwerthoedd Olympaidd ac sy'n cynnwys cystadlaethau Olympaidd.

Sefydlwyd clwb pêl-fasged cadair olwyn Change 4 Life ac mae cyfranogwyr wedi cymryd rhan mewn gŵyl bêl-fasged cadair olwyn. Derbyniwyd arian hefyd i ddarparu hyfforddiant grŵp i'r myfyrwyr sylfaen hynny sy'n nofwyr gwan.

Cynigir cyfleoedd arwain cynhwysol trwy Mission Impossible sy'n cynnwys myfyrwyr anabl yn mynd ar gwrs arwain cyffredinol a gwobr arweinwyr pêl-fasged cadair olwyn; canlyniad y prosiect hwn yw bod y myfyrwyr hyn yn cynnal twrnameint bychan.

Mae yna gynlluniau ar gyfer rhaglen gyfoethogi seiclo newydd ar gyfer myfyrwyr nad ydynt erioed wedi gallu cael mynediad i seiclo o'r blaen oherwydd anabledd. Gan weithio gyda Pavilion in the Park byddant yn gallu cael mynediad i feiciau sydd wedi eu dylunio'n benodol ar gyfer pob gallu er mwyn dysgu seiclo.

Gwerthoedd Positif

Mae prif ymgysylltiad y myfyrwyr wedi bod drwy gyfrwng chwaraeon, a nawr mae yna gynlluniau i seilio peth cynnwys tiwtorial ar y Gemau a'r Gwerthoedd Olympaidd. Hefyd sefydlir e-broffiliau ar gyfer myfyrwyr, gyda chyfleoedd i ysgrifennu blogiau dan is-benawdau Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd. Y nod fydd creu datganiadau personol positif yn barod ar gyfer camu ymlaen i gyflogaeth neu brifysgol.

A'r uchafbwynt i'r myfyrwyr?

  • "Mae'n ein hysbrydoli i gymryd rhan mewn chwaraeon fel chwaraewyr a gwirfoddolwyr yn ogystal â rhoi teimlad i mi o falchder yn fy ngwlad"
  • "Mae'n rhoi cyfleoedd i chi wneud pethau na fyddech efallai fel arall yn cael cyfle i'w gwneud, nid yn unig mewn chwaraeon ond yn ddiwylliannol hefyd"
  • "Rwy'n hoffi gwylio athletwyr talentog iawn yn gwneud yn dda, nid oes dim yn well na gwylio record byd"
  • "Mae'n symboleiddio'r ymdrech, ymroddiad a'r aberth y wna athletwyr i fod yn llwyddiannus"
  • "Mae'n ymwneud â Balchder Cenedlaethol."

Ymlaen at 2012

Mae cynlluniau'n cynnwys diwrnod i'r teulu wedi ei seilio ar thema'r Gemau yn gosod Totton College yng nghanol y gymuned. Bydd y myfyrwyr yn gallu dod â'u teuluoedd a bydd cyfleoedd iddynt ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau i sicrhau bod y diwrnod yn llwyddiannus. Mae yna gyffro hefyd ynglŷn â thaith gyfnewid y fflam a sut all y coleg gael cyfle i fod yn rhan o hynny.