• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Sturry CE Primary

Codi proffil chwaraeon ysgol

Pam Bydd Barod?

Roedd Sturry (Caint, De Ddwyrain Lloegr) yn bwriadu cynnwys yr ysgol gyfan mewn prosiectau'n ymwneud â'r Gemau a byddai cael mynediad i adnoddau safonol yn hwb mawr i'r gwaith hwnnw. Roedd gan Sturry draddodiad chwaraeon cryf eisoes ac yn teimlo y byddai cyfle i gynnwys yr holl blant mewn prosiect ysgol gyfan yn rhoi proffil uchel i AG a chwaraeon am amser hir.

Y Daith Hyd Yma

Mae plant wedi ymchwilio i leoliadau posibl ar gyfer Gemau 2020 ac wedi penderfynu ar feini prawf y dylent eu defnyddio wrth ddewis dinas gynnal. Mae gwaith ymchwil hefyd wedi cynnwys edrych ar Gemau Olympaidd y gorffennol a dysgu am ddatblygiadau mewn dillad chwaraeon dros y blynyddoedd, ac edrych ar sut mae recordiau wedi cael eu torri er 1896. Trefnwyd Gemau Olympaidd bach a'r canlyniadau'n cael eu defnyddio fel sail i waith TGCh, ac mae plant wedi creu tortshys, masgotiaid a logos Olympaidd.

Mae gweithgareddau cyffrous eraill ar draws y cwricwlwm wedi cynnwys adeiladu llethrau luge bychan, dylunio cychod rhwyfo, defnyddio rhwyfau, dysgu am guriad calon, defnyddio profion blîp a chymryd rhan mewn gweithgareddau campfa a dawnsdrefn a ddyluniwyd gan y plant ac a feirniadwyd gan aelodau o'r clwb lleol.

Bydd yr holl blant yn cael gêm fwrdd Monopoli Olympaidd; yna byddant yn casglu sticeri o arwyr Olympaidd i'w rhoi ar eu bwrdd. I ennill sticeri mae'n rhaid i'r plant ddangos tystiolaeth o ragoriaeth personol, parch, cyfeillgarwch, penderfyniad, dewrder, ysbrydoliaeth a chydraddoldeb.

Bydd y flwyddyn fydd yn arwain at y Gemau yn cael ei rhannu'n bedair rhan:

  • Gwyliwr gwybodus - dysgu am y Gemau;
  • Archwiliwr creadigol - cael ysbrydoliaeth gan arwr chwaraeon a rhywun arall o gefndir gwahanol;
  • Rhagoriaeth personol - y plant yn creu digwyddiadau eu hunain ac yn dylunio tablau sgorio; a
  • Gwaddol - cofnodi'r gwaith a wnaethpwyd gan ddefnyddio gwahanol gyfryngau.

Gwerthoedd Positif

Mae'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd wedi cael eu hymgorffori i gynllun gwaith Addysg Bersonol, Gymdeithasol a Iechyd Churry Primary. Trwy ymwneud â gwaith testun mewn perthynas â'r Gemau, bu cynnydd nodedig o ran ymgysylltiad y disgyblion, yn arbennig ymysg y bechgyn; mae nifer o bynciau megis technoleg dylunio, celf, gwyddoniaeth ac AG wedi cael eu hymgorffori i ddysgu'r plant fel rhan o thema gyffredinol y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd.

A'r uchafbwynt i'r myfyrwyr?

  • "Ni yw'r wlad gynnal ac mae Llundain yn agos i ni"
  • "Mae'n helpu pobl i gredu ynddyn nhw'u hunain"
  • "Yr holl straeon ysbrydoledig am ennill er gwaetha caledi."

Ymlaen at 2012

Wrth i Lundain 2012 agosau mae Sturry yn awyddus i barhau i ganfod ffyrdd o gynnwys ac ysbrydoli pawb. Bydd llwyddiannau yn cael eu rhannu a'u dathlu, a bydd arddangosfeydd disglair yn amlwg o gwmpas yr ysgol.

Mae Sturry yn amcanu at hyrwyddo cynnydd mewn cyfranogiad chwaraeon drwy'r ysgol gyfan ac at annog mwhynhâd gwirioneddol mewn chwaraeon. Byddai'n hoffi gweld pob plentyn yn cymryd rhan mewn camp nad ydynt wedi rhoi cynnig arni o'r blaen ac yn deall sut y gall chwaraeon a'r Gemau uno'r holl fyd.