Cysylltiadau rhyngwladol a gwaddol chwaraeon
Pam Bydd Barod?
Roedd Stretford High School (Trafford, Gogledd Orllewin Lloegr) eisoes yn dal y Wobr Ysgolion Rhyngwladol lawn ac yn falch o'r nifer enfawr o genhedloedd oedd yn rhan o'r ysgol..
Gyda chwaraeon wrth galon popeth ac ystod lawn o weithgareddau chwaraeon yn cael eu cynnig i fyfyrwyr, roedd Stretford yn llawn cyffro ynglŷn â Llundain 2012 ac yn barod i ddathlu'r Gemau ac agoriad cyfleusterau chwaraeon newydd anhygoel yn yr ysgol.
Roedd Bydd Barod yn ffordd o feithrin brwdfrydedd yng nghymuned yr ysgol a chael pawb yn rhan o'r dathliadau.
Y Daith Hyd Yma
Roedd yr ysgol wrth ei bodd wrth ennill cystadleuaeth Breuddwydion Olympaidd y BBC a'r Cyngor Prydeinig, a nawr mae Stretford wedi ei chysylltu ag Ysgol Gyhoeddus Habib yn Karachi, Pacistan, a thîm Hoci Pacistan.
Mae Stretford wedi dod yn un o'r ychydig ysgolion newydd yn y DU i ddysgu rhyngwladoliaeth fel pwnc penodol, a chaiff un uned gwaith yn nhymor yr haf ei neilltuo'n llwyr i Lundain 2012. Mae pob pwnc ar draws y cwricwlwm yn gwneud cysylltiadau â'r Gemau.
Yn 2012 bydd pentref chwaraeon yn cael ei greu ar safle'r ysgol gyda chyfleusterau newydd a gwell cysylltiadau â chlybiau mewn 12 o chwaraeon allweddol; dewiswyd 2012 fel y flwyddyn agor gan ei bod yn gyfle i adeiladu ar falchder chwaraeon cenedlaethol a chyffro'r Gemau. Bydd ystod o gyfleusterau ar gyfer ymgysylltu'r gymuned yn cynnwys meysydd gwellt a 4G, neuadd chwaraeon a chyfleusterau hamdden newydd.
Gwerthoedd Positif
Mae'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd wrth wraidd popeth a wna'r ysgol. Defnyddir straeon am ddewrder a phenderfyniad i ysbrydoli myfyrwyr. Cyflwynir gwobr ysgol flynyddol i fyfyriwr sydd wedi concro rhwystrau er mwyn llwyddo.
Mae hyrwyddo eang ar ryngwladoliaeth yn dathlu amrywiaeth cyfoethog y myfyrwyr ac yn pwysleisio pwysigrwydd parch, cyfeillgarwch a chydraddoldeb. Roedd diwrnod chwaraeon yr haf yn cynnwys Gorymdaith y Cenhedloedd gyda chariwr baner ar gyfer pob cenedl.
A'r uchafbwynt i'r myfyrwyr?
- "Gwylio'r athletwyr gwych yn torri recordiau gan fy ngwneud i i feddwl y gallaf innau hefyd efallai lwyddo os gweithiaf yn galed"
- "Mae'r holl genhedloedd yn dod at ei gilydd gydag ysbryd ac angerdd yn wych - hollol gyffrous!
- "Roedd y terfysgoedd yn adlewyrchiad gwael ar y DU, ond nid pobl felly ydan ni Rydym yn wlad ragorol a bydd y byd yn ein gwylio a byddant yn gweld lle mor grêt sydd yma!"
Ymlaen at 2012
Mae cynnig amgylchedd i fyfyrwyr ble gallant lwyddo a phrofi llwyddiant yn bwysig i Stretford High a bydd agor y pentref chwaraeon newydd yn cyfoethogi hyn ymhellach. Mae Stretford eisiau dangos i'r holl fyfyrwyr y gellir gwireddu breuddwydion gyda gwaith caled a phenderfyniad, ac na all unrhyw beth eu rhwystro os byddant yn gweithio ac yn credu ynddynt eu hunain.
Bydd dathlu amrywiaeth hefyd yn parhau'n amcan ganolog i Stretford; mae'n arbennig eisiau i fyfyrwyr ddeall "eu bod yn rhan o gymuned arbennig a bod amrywiaeth yn rhodd."













