• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

St Mary’s Grammar School

Gweithio gyda'n gilydd yr holl ffordd i Lundain 2012

Pam Bydd Barod?

Roedd St Mary’s Grammsr school (Gogledd Iwerddon) eisoes yn defnyddio'r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd fel ffordd i roi grym i'r disgyblion ac roedd ganddi nifer o Lysgenhadon Ifanc yn gweithio ar syniadau i godi proffil y Gemau tra'n gweithio gyda phlant mewn partner-ysgolion cynradd lleol.

Hefyd roedd prosiect cyffrous ar y cyd yn cael ei gynnal oedd yn amcanu yn y diwedd at gynnig cyfle i fyfyrwyr i fynychu'r Gemau yn 2012.

Roedd ymuno â Bydd Barod yn golygu bod yn rhan o rwydwaith cyflawn o ysgolion a chael mynediad i adnoddau i hyrwyddo'r Gemau a darparu cyfleon ar gyfer datblygiad personol a gwell dinasyddiaeth.

Y Daith Hyd Yma

Mae myfyrwyr o St Mary's wedi bod yn ymwneud â phrosiect pedair blynedd gyda chyfoedion mewn ysgolion eraill, sydd wedi cael ei ddatblygu gydag ysgol leol o'r gymuned Brotestanaidd fydd yn diweddu gyda thaith i Lundain 2012. Mae myfyrwyr o'r ysgolion wedi cyfarfod ei gilydd sawl tro ac wedi cymryd rhan mewn llu o weithgareddau yn seiliedig ar y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd.

Wrth fynychu taith breswyl gyda'i gilydd cafodd y myfyrwyr brofi gweithgareddau yn amrywio o ddylunio crysau T Olympaidd i ystyried materion mewn perthynas â rhagfarn a gwahaniaethu.

Mae St Mary's wedi cynnal gweithdy Olympaidd ynglŷn ag Olympiaid Gwyddelig o fri. Bu'r cyn-Olympiad Gwyddelig, Maeve Kyle, yn siarad am ei phrofiadau mewn pedwar o Gemau Olympaidd ac roedd myfyrwyr hefyd wedi cael eu hysbrydoli gan y gymnastwr Albanaidd Steve Frew fu'n ymweld â hwy yn yr ysgol.

Mae Llysgenhadon Ifanc yn brysur yn cynllunio amrywiaeth o weithgareddau yn cynnwys 'Gemau Olympaidd Bychain' y maent yn bwriadu gwahodd nifer o ysgolion cynradd y dalgylch iddynt.

Gwerthoedd Positif

Mae gwaith wedi ei seilio ar y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd wedi helpu i atgyfnerthu ethos yr ysgol - parch, ymrwymiad, cymuned a disgyblaeth. Mae pob disgybl yn St Mary's yn ymwybodol o'r gwaith ond yn arbennig y grŵp Blwyddyn 10 presennol sydd wedi bod yn ymwneud â'r prosiect Olympaidd ers tair blynedd.

Mae cydweithio ag ysgolion eraill ar y prosiect wedi helpu i hyrwyddo cyfeillgarwch a pharch mewn ffordd gwirioneddol bwrpasol.

A'r uchafbwynt i'r myfyrwyr?

Mae cynnal prosiect ynglŷn â thaith i'r Gemau wedi bod yn hynod ysbrydoledig i'r myfyrwyr. Mae amrywiaeth eang o gyfleoedd datblygu personol wedi cael eu cynnig i fyfyrwyr yn cynnwys cyfle i gyfarfod ag athletwyr Olympaidd a chyfle i roi cynnig ar chwaraeon Olympaidd.

Mae cyfle i gymdeithasu a gweithio gyda'u cyfoedion o'r gymuned Brotestanaidd hefyd wedi ysbrydoli myfyrwyr.

Ymlaen at 2012

Mae St Mary's yn amcanu at gynnal cyfeillgarwch parhaus rhwng myfyrwyr ac ysgolion o ganlyniad i'r prosiect cydweithredol ac i fywydau'r myfyrwyr adlewyrchu'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd. Wrth i 2012 agosau, mae cynlluniau i ymweld â'r Gemau yn parhau.

Mae ymwneud â chwaraeon yn y dyfodol hefyd yn bwysig ac mae St Mary's yn gobeithio y bydd y prosiect cyfan yn helpu i danio brwdfrydedd y myfyrwyr o ran bod yn fwy egnïol a chymryd rhan. Mae'r ysgol eisiau darparu profiadau eang o gyfleoedd chwaraeon wedi eu dylunio i annog, cymell, ysbrydoli a chryfhau myfyrwyr.