Hyrwyddo cydweithio byd-eang
Pam Bydd Barod?
Roedd St. Mary's (Leeds, Swydd Efrog a Humber) wedi cael ei sefydlu fel Coleg Chwaraeon ers un ar ddeg o flynyddoedd, ac eisoes yn ymrwymedig i ddefnyddio chwraeon i addysgu pobl ifanc, ac roedd yn gweld Llundain 2012 fel ffordd wych o ysbrydoli pob myfyriwr, yn arbennig trwy gysylltiadau byd-eang. Roedd ymuno â rhwydwaith Bydd Barod yn gyfle i ymgysylltu myfyrwyr, rhieni a staff ymhellach ag ystod ehangach o gyfleoedd dysgu.
Y Daith Hyd Yma
Mae St. Mary's yn ymwneud â chydweithio unigryw a chyffrous gydag Ysgol Mnyakanya yn Ne Affrica.. Mae'r bartneriaeth hon wedi derbyn cymerdwyaeth ryngwladol am y ffordd y mae wedi defnyddio chwraeon a Llundain 2012 yn arbennig i hyrwyddo addysg, iechyd, arweiniad a dysgu rhyngwladol. Mae Arweinwyr Chwaraeon o St. Mary's yn ymweld ag Ysgol Mnyakanya i fentora myfyrwyr, a bydd Gŵyl Olympaidd yn cael ei chynnal ar gyfer plant ysgol cynradd yn Ne Affrica gan myfyrwyr o'r ddwy ysgol.
Mae'r ddwy ysgol hefyd ar gychwyn cystadleuaeth gelf ac ysgrifennu creadigol ar thema 'Ysbryd y Gemau Olympaidd/Grym Chwaraeon', a bydd y gwaith gorau'n cael ei gyhoeddi cyn y Gemau.
Mae gwyliau chwaraeon a diwrnodau chwaraeon 'Olympaidd' wedi cael eu hen sefydlu yn St. Mary's a defnyddiwyd gwasanaethu gwobrwyo i hyrwyddo delfrydau a Gwerthoedd Olympaidd. Roedd 'Her Olympaidd' ysgol gyfan yn golygu bod pob maes pwnc yn defnyddio Llundain 2012 fel catalydd i ddysgu ac ysbrydoliaeth drwy gydol y flwyddyn.
Gwerthoedd Positif
Mae'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd yn adlewyrchu rhai'r ysgol, a defnyddir Llundain 2012 i gefnogi gwerthoedd St. Mary's tra'n darparu ffocws ganolog ar gyfer dysgu ac addysgu. Mae'r 'Her Olympaidd' wedi cael ei chynnwys yng Nghynllun Datblygu'r Ysgol.
Bu i ymarferiad 'llais myfyrwyr' diweddar ddangos myfyrwyr yn mynegi'n eglur iawn y potensial enfawr sydd gan chwaraeon i greu daioni mewn unigolion a chymdeithas.
A'r uchafbwynt i'r myfyrwyr?
- "Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at bob maes pwnc yn defnyddio'r Gemau Olympaidd yn ein gwersi. Rydym wedi gwneud hyn o'r blaen ar gyfer Cwpan y Byd FIFA, ac roedd hynny'n wych"
- "Rwyf am gymryd rhan yn y gystadleuaeth gelf. Mae gen i syniad cychwynol am yr 'hil ddynol' yr wyf yn gweithio arno"
- "Bydd astudio'r Gemau mewn gwersi Hanes yn beth da a chael tro ar gampau Olympaidd yn AG"
- "Ni allaf ddisgwyl i ysgrifennu am bobl sydd wedi fy ysbrydoli mewn chwaraeon."
Ymlaen at 2012
Bydd ymweld ag Ysgol Mnyakanya yn hynod bwysig a gweithio â myfyrwyr eraill.
"Mae myfyrwyr sydd wedi bod i Dde Affrica o'r blaen wedi dweud wrthyf bod y profiad wedi newid y ffordd y maent yn edrych ar y byd. Rwy'n edrych ymlaen gymaint at hyn ac at ddefnyddio chwaraeon mewn ffordd mor bositif ar gyfer cymdeithas.
Mae'r Her Olympaidd hefyd i barhau a bydd yn dod i ben yn ystod Wythnos Olympaidd yng Ngorffennaf 2012 gyda Gwyliau Olympaidd a chyfleoedd dysgu ar gyfer yr ysgol gyfan.
Mae St. Mary's eisiau i'w myfyrwyr ddefnyddio ysbrydoliaeth Lludain 2012 i ddysgu, i ymgysylltu â chwaraeon ac i ddefnyddio chwaraeon er daioni i bawb. Tra'n rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr ddysgu am y Gemau, mae eisiau rhoi pwyslais mawr ar ddysgu trwy gyfrwng y Gemau.













