• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

St Aidan’s CE Primary School

Meithrin brwdfrydedd pob plentyn mewn chwaraeon

Pam Bydd Barod?

Yn ogystal â chwaraeon mwy traddodiadol megis pêl-droed, rygbi, gymnasteg a chriced, roedd St Aidan's (St Helens, Gogledd Orllewin Lloegr) eisoes y cynnig cyfleoedd i blant mewn bwrdd-egni, gweithgareddau dringo waliau, beicio mynydd, Boccia a Gemau'r Ucheldir dan do! Roedd gan yr holl blant gyfle i gynrychioli'r ysgol mewn cystadleuaeth chwaraeon yn ystod pob blwyddyn ysgol ac roedd St Aidan eisoes yn rhan o raglen Olymkids.

Roedd rhaglen arwain hefyd wedi cael ei sefydlu gan arweinwyr gweithgareddau a rhaglenni 'Wake up, Shape up'.

Roedd St Aidan yn teimlo y gallai bod yn rhan o Bydd Barod a defnyddio hyn i hyrwyddo Gemau Olympaidd a Pharalympaidd 2012 feithrin mwy o frwdfrydedd yn eu plant mewn chwaraeon.

Y Daith Hyd Yma

Gan ddechrau gyda gwasanaeth oedd yn cyflwyno'r Gwerthoedd i'r plant, mae gwasanaethau pellach wedi canolbwyntio ar athletwyr Olympaidd amlwg a defnyddiwyd fideos o'r masgotiaid Olympaidd a Pharalympaidd i barhau i hyrwyddo'r Gwerthoedd.

Mae ymwneud â Bydd Barod wedi cael ei ddefnyddio i helpu i yrru chwaraeon cystadleuol. Canolbwyntiwyd ar sut mae pob athletwr yn gwrando ar eu hyfforddwyr ac yn eu parchu, a chysylltwyd hyn â pherthynas plant a staff yn yr ysgol.

Bu i bob plentyn gymryd rhan yn y gystadleuaeth ysgrifennu genedlaethol yn seiliedig ar y Gwerthoedd, gan ysgrifennu straeon oedd yn ymwneud ag o leiaf un o'r Gwerthoedd mewn dull 'moeswers'. Roedd y rhain yn llwyddiannus iawn a rhoddwyd gwobrau mewn gwasanaeth eglwys i'r ysgol gyfan a'r rhieni.

Mae taith gyffrous gyfnewid y Fflam Olympaidd yn cael ei chynllunio. Bydd St Aidan ac ysgolion eraill yn logio manylion ar wefan tagzania.com i weld pa mor bell y mae'r fflam wedi teithio; bydd manylion eu trosglwyddo rhwng ysgolion i gyfrifo cyfanswm y pellter yn ystod y flwyddyn.

Gwerthoedd Positif

Mae St Aidan yn parhau i hyrwyddo'r Gwerthoedd drwy'r ysgol, gyda ffocws pendant ar eu defnyddio i annog a gwella cyfranogiad mewn chwaraeon.

Mae arddangosfa Gwerthoedd amlwg yn cynnwys lluniau o ddigwyddiadau o gwmpas yr ysgol sy'n gysylltiedig â Gwerthoedd penodol.

A'r uchafbwynt i'r myfyrwyr?

Mae straeon unigol am athletwyr wedi bod yn ysbrydoledig a'r ffordd y maent yn gorfod neilltuo cymaint o'u hamser i'w camp. Mae plant wedi mwynhau'n arbennig ymweliadau gan y chwaraewr Boccia anabl, Ryan Paladino ac wedi bod yn dilyn ei yrfa gyda brwdfrydedd.

Enghraifft arall o'r rmath hwn o brofiad real yn ysbrydoli plant oedd pan fu i'r plant gael cyfle i gymryd rhan mewn digwyddiad Pool 4 Schools ang Nghanolfan Chwaraeon Dŵr Manceinion a chael cyfle i nofio gyda Mel Marshall a Chris Cook.

Cafodd y plant hyd yn oed ymweliad gan Wenlock a ymunodd â hwy ar gyfer sesiwn 'Wake Up, Shape Up' ac athletau Cyfnod Allweddol 1.

Ymlaen at 2012

Mae St Aidan yn bwriadu parhau gyda'r holl raglenni chwaraeon ac mae yna gynlluniau cyffrous ar y gweill ar gyfer cwrs cyfeiriannu ar leoliad. Mae'r ysgol eisiau defnyddio gweithgareddau Bydd Barod i adeiladu ar ei ethos chwaraeon gwych a pharhau i ysbrydoli plant gyda chwaraeon ac addysg gorfforol. Byddai wrth ei bodd gweld rhai o'r plant yn cael cyfle i weld cystadlaethau Olympaidd neu Baralympaidd yn Llundain 2012.

Bydd y gweithgareddau'n parhau yn yr ysgol wrth i'r Gemau agosau; bydd y rhain yn cynnwys digwyddiad her y Fflam Olympaidd fydd yn ywneud â gweld pa mor bell y gellir cario 'fflam' o gwmpas tir yr ysgol!