Rhoi'r Gwerthoedd wrth galon eu hethos
Pam Bydd Barod?
Mae Malbank (Dwyrain Sir Caer, Gogledd-orllewin Lloegr) wedi gweithio'n galed i sicrhau bod y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd yn rhan integreiddiedig o brofiad eu disgyblion yn yr ysgol. Mae'r ethos cyfredol o 'Ddisgwyliadau Cyffredin' a ddyluniwyd gan fyfyrwyr, staff a llywodraethwyr yn gweddu i'r dim i'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd.
Gyda'i Phwyllgor Olympaidd a Pharalympaidd ei hun eisoes wedi ei sefydlu, roedd Malbank eisiau codi proffil y Gwerthoedd. Roedd aelodaeth o Bydd Barod yn golygu gwell cyfleon i fod yn rhan o baratoadau Llundain 2012.
Fel Coleg Arbenigol Celfyddydau Perfformio, eu hamcan oedd creu cysylltiad rhwng chwaraeon a pherfformio, gan ddangos i fyfyrwyr bod pob rhan o Gelfyddydau Perfformio yn amlygu'r un sgiliau a phenderfyniad sydd eu hangen ar gyfer chwaraeon Olympaidd a Pharalympaidd.
Y Daith Hyd Yma
Trwy brosiect cyffrous TGC o'r enw 'Ar Eich Marciau' bu'r myfyrwyr yn ymchwilio i arwyr Prydeinig presennol ac o'r gorffennol a chael cyfle i:
- greu cronfeydd data;
- dylunio deunyddiau hysbysebu ar gyfer Llundain 2012; a
- gwneud canllawiau ar ffurf llyfrau comig ar gyfer plant ifanc gyda throslais mewn Saesneg a iaith dramor!
Roedd ffilm Blwyddyn 11 'Jumping hurdles, removing barriers . . . being inspired!' yn amlygu'r cysylltiadau rhwng perfformio a'r Gwerthoedd, ac arweiniodd at y cyfle i gael ymweld â'r Pentref Olympaidd a Pharalympaidd.
Cynhaliwyd diwrnod cyfoethogi i ysbrydoli myfyrwyr blwyddyn 11 cyn eu haroliadau, gyda myfyrwyr yn cynhyrchu bwrdd graffiti o'u dyheadau a'u harwyddeiriau bywyd i'w harddangos yn y neuadd arholi. Bu i'r hunan-werth a'r ysbryd tîm a gynyrchwyd chwarae rhan wrth i'r ysgol lwyddo i gael ei chanlyniadau arholiad gorau erioed yr haf hwn.
Mae Malbank hefyd yn adeiladu Rhodfa Olympaidd, fydd yn cynnig ystod enfawr o adnoddau yn cynnwys swît addysg teulu, canolfan galw i mewn i rieni, swît iechyd a ffitrwydd, gofod dysgu hyblyg Agor Meddyliau, adnoddau bwyta'n iach, gofod arddangos, canolfan ddatblygu trampolinio, a chanolfan ar gyfer cyrsiau diwylliant rhyngwladol!
Gwerthoedd Positif
Mae diddordeb mewn dysgu wedi gwella ac mae presenoldeb wedi gwella o ran grwpiau neilltuol o fyfyrwyr. Mae Malbank yn optimistaidd ynglŷn â gwelliant parhaus mewn cyraeddiadau.
Datblygir targedau dysgu efydd, arian ac aur er mwyn hyrwyddo ymdriniaeth bositif â'r cwricwlwm ac ymddygiad.
Ysbrydolwyd myfyrwyr gan y Gwerthoedd wrth iddynt sylweddoli eu bod yn berthnasol i bawb, nid athletwr elît yn unig. Gan ddangos y ffordd gyda'r Gwerthoedd, arweiniodd llysgenhadon ifanc Gemau Olympaidd bach ar gyfer ysgolion cynradd sy'n bartneriaid.
Mae pob aelod o'r ysgol yn cynnwys myfyrwyr, athrawon, staff cefnogi, llywodraethwyr, ymgynghorwyr ac ymwelwyr wedi llofnodi bwrdd ymrwymo Olympaidd a Pharalympaidd.
Mae'r ysgol hefyd wedi cynnal cynhadledd Gwaddol Olympaidd ar gyfer 150 o fyfyrwyr cynradd.
A'r uchafbwynt i'r myfyrwyr?
Wrth gael eu holi am yr hyn maent yn fwyaf balch ohono am yr ysgol, mae nifer o fyfyrwyr wedi dweud mai eu gwaith Olympaidd yw hwnnw.
Ysbrydolwyd myfyrwyr a ymwelodd â Stratford gan yr adnoddau a adeiladir a gan y ffaith bod y cyfan yn brydlon.
Mae myfyrwyr blwyddyn 11 wedi ysgrifennu areithiau ysbrydoledig y gellid eu darllen yn y seremoni agor neu gloi, ac fe'u crynhoir gan 'Peidiwch â derbyn gwaddol, byddwch yn un!'
Ymlaen at 2012
Mae Malbank eisiau parhau i hyrwyddo'r Gwerthoedd ym mhob maes yn yr ysgol ac eisiau i bob myfyriwr barhau i brofi digwyddiadau a gweithgareddau cyffrous ym mhob pwnc ar draws y cwricwlwm a thu hwnt.
Mae cynllunio diwrnod cyfoethogi, cydweithio gydag athletwr ysbrydoledig a phrosiect arwain i fyfyrwr i gyd yn amcanion, gyda phob myfyriwr yn ymwneud ag o leiaf un profiad Olympaidd a Pharalympaidd cofiadwy.













