• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Liverpool Community College

Dathlu amrywiaeth trwy gydol bywyd yn y coleg

Pam Bydd Barod?

Roedd Liverpool Community College (Lerpwl, Gogledd Orllewin Lloegr) wedi synnu at sut yr oedd y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd yn gweddu i fywyd pob dydd y coleg. Gan adeiladu ar yr hyn oedd eisoes yn cael ei wneud drwy'r coleg penderfynwyd y gellid seilio wythnos amrywiaeth y coleg ar y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd. Yn ystod yr wythnos proffil uchel hon roedd y myfyrwyr a'r staff i gael cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau.

Y Daith Hyd Yma

Dathlwyd wythnos amrywiaeth gydag ystod eang o weithgareddau yn cynnwys diwrnod chwaraeon anabl, dathlu diwrnod rhyngwladol merched, sesiynau dan arweiniad Refuge Action ac enghreiifftiau o fwydydd ar draws y byd wedi eu paratoi gan fyfyrwyr arlwyo'r coleg. Roedd y siaradwyr gwadd yn cynnwys pêl-droedwraig Everton a Lloegr, Rachel Brown. Roedd yr adran chwaraeon yn hyrwyddo'r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd ac yn cyflwyno'r myfyrwyr i gêm o 'crazy catch'!

Cynhaliodd Brightside, grŵp lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol dan arweiniad myfyrwyr, gyfres o weithgareddau yn seiliedig ar chwaraeon a'r Gwerthoedd i hyrwyddo mis hanes LGBT. Cynigir sesiwn galw heibio wythnosol i fyfyrwyr yn ogystal â chyfleoedd i drafod materion LGBT cyfredol.

Nodwyd diwrnod AIDS y byd gyda chyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau; gwerthwyd rhubannau coch a chacennau i godi arian tuag at yr Ymddiriedolaeth AIDS Genedlaethol ac roedd stondinau yn cynnwys gemau chwalu mythau ac arddangosfeydd o wybodaeth am AIDS.

Mae yna bencampwriaeth bêl-droed flynyddol sy'n cefnogi'r Anthony Walker Foundation sy'n canolbwyntio ar 'ddangos y cardyn coch i hiliaeth' tra bod sioe dalentau flynyddol yn codi arian tuag at elusen ac yn dathlu talentau myfyrwyr a staff! Mae myfyrwyr hefyd wedi bod yn ymwneud â phrosiect sy'n anelu at adfywio rhannau o Lerpwl ac at helpu i adeiladu delwedd bositif o fyfyrwyr yn y gymuned leol.

Cynhyrchwyd DVD gan Bwylllgor Undeb y Myfyrwyr i nodi ail-lansio gwerthoedd y coleg; mae'r rhain nawr yn ymgorffori'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd.

Gwerthoedd Positif

Mae'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd wedi helpu'r coleg i ganolbwyntio ar ei werthoedd ei hun ac i hyrwyddo'r rhain yn eang drwy'r coleg yn arbennig drwy weithgareddau a digwyddiadau wythnos amrywiaeth. Trwy gydol y flwyddyn mae myfyrwyr wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau sydd yn gwella eu gwybodaeth am amrywiaeth a chydraddoldeb.

A'r uchafbwynt i'r myfyrwyr?

Mae'r myfyrwyr wedi uniaethu'n hawdd â'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd ac wedi mwynhau'n fawr clywed siaradwyr gwadd yn adrodd eu straeon ysbrydoledig.

"Roedd straeon y siaradwyr gwadd yn y sioe dathlu amrywiaeth wedi fy nghyffwrdd, roeddynt yn dangos i mi y gallwch lwyddo beth bynnag fo'ch sefyllfa."

Ymlaen at 2012

Bydd myfyrwyr yn parhau i gael profi amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau wedi eu hysbrydoli gan y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd. Y nod fydd cynyddu gwybodaeth myfyrwyr a staff mewn meysydd megis cydraddoldeb ac amrywiaeth a pharhau i serio'r rhain i bob gwedd o fywyd y coleg.

Bydd y myfyrwyr yn cymryd rhan mewn prosiectau a chystadlaethau Bydd Barod a bydd rhai yn gallu cael blas ar y Gemau go iawn trwy fynd i weld cystadleuaeth.