Cofleidio Llundain 2012 trwy AG a mwy
Pam Bydd Barod?
Roedd Kirk Hallam (Swydd Derby, Dwyrain Canolbarth Lloegr) eisiau adeiladu ar yr hyn oedd eisoes wedi cael ei gyflawni yn arbennig gan ei Llysgenhadon Ifanc, myfyrwyr Top Link a'r adran AG! Bu'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd yn cael eu hyrwyddo'n ymarferol yn ystod wythnos amrywiaeth, gwasanaethau ac arddangosfeydd.
Ar ôl derbyn statws Coleg Chwaraeon, nod yr adran AG oedd hyrwyddo'r 10 'Canlyniad Safon Uchel' ar gyfer addysg gorfforol a chodi ymwybyddiaeth o Lundain 2012 trwy ddefnyddio Bydd Barod i'w helpu i symud ymlaen.
Y Daith Hyd Yma
Mae Llysgenhadon Ifanc wedi arwain gwasanaethau ar gyfer myfyrwyr iau yn seiliedig ar y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd gan ddefnyddio fideo hyrwyddo Llundain 2012 ac adnoddau Bydd Barod i'w helpu i gyflawni hyn. Mae'r Llysgenhadon Ifanc hefyd wedi gweithio gyda disgyblion mewn ysgolion cynradd sy'n bartneriaid i greu baner Gwerthoedd a Llw Olympaidd i'w defnyddio mewn gŵyl Gemau bach Blwyddyn 4.
Yna, gwnaeth y Coleg gysylltiad ag ysgol yn Vancouver yn ystod paratoadau Gemau'r Gaeaf 2010 a'r myfyrwyr yn cael cyfle i wneud ffrindiau newydd! Roedd cael cyfle i anfon cwestiynau at athletwyr yn achlysur cyffrous i aelodau'r Cyngor Myfyrwyr wrth iddynt wylio gweddarllediad byw gan Baralympiad yn ystod noson ar thema Canada yn Kirk Hallam.
Fel rhan o wythnos amrywiaeth yn yr ysgol, bu'r myfyrwyr yn meddwl am y Gwerthoedd yn ystod eu gwersi AG a chreu posteri yn seiliedig arnynt. Dewisodd yr adran AG y posteri buddugol i'w defnyddio fel sail i arddangosfa drawiadol yn amlinellu'r Gwerthoedd.
Cafodd y myfyrwyr eu rhyddhau o amserlen arferol y dydd er mwyn cymryd rhan mewn cyfres o weithdai thematig yn ystod diwrnod Menter Llundain 2012 Kirk Hallam, a chawsont gyfle i gymryd rhan mewn:
- dylunio a chreu'r stadiwm Olympaidd yn seiliedig ar 'Dreftadaeth Lloegr';
- dylunio a hysbysebu cynnyrch newydd oedd i'w werthu yn ystod Llundain 2012;
- cyfrifo cost y Gemau; a
- sesiynau ymarferol gydag offer gwyddoniaeth chwaraeon yn y gampfa.
Gwerthoedd Positif
Cafwyd llwyddiannau pendant yn dilyn diwrnod Menter Llundain 2012, gyda'r myfyrwyr yn arddangos y Gwerthoedd ac yn wirioneddol adeiladu ar eu gwybodaeth. Roedd y diwrnod yn cynnwys ymdrin â nifer o feysydd y cwricwlwm yn cynnwys dinasyddiaeth, technoleg, mathemateg, Saesneg a chelfyddydau mynegiannol. Roedd y myfyrwyr wedi ei fwynhau yn fawr.
Mae grŵp gwaith staff wedi cael ei sefydlu er mwyn annog pob cyfadran yn y coleg i weithio ar y Gwerthoedd yn y gwersi ac yn ystod gweithgareddau all-gwricwlaidd. Mae aelod o'r uwch dîm rheoli yn mynychu pob cyfarfod ac mae'r grŵp ar hyn o bryd yn gweithio ar 'wythnos Bydd Barod Llundain 2012' fydd yn digwydd yn y flwyddyn newydd.
A'r uchafbwynt i'r myfyrwyr?
Mae'r myfyrwyr wedi mwynhau gwrando ar straeon am Olympiaid a Pharalympiaid sy'n dangos sut y bu iddynt orchfygu caledi. Mae'n ymddangos bod y syniad bod unrhyw beth yn bosibl wedi bod yn ysbrydoledig iawn i'r myfyrwyr.
Mae cymryd rhan yn Bydd Barod eisoes yn cynyddu diddordeb y myfyrwyr mewn gweithgareddau AG ac mae'n arbennig yn tanio diddordeb myfyrwyr nad oedd o'r blaen yn cymryd rhan mewn clybiau.
Ymlaen at 2012
Llinyn mesur o lwyddiant yn y pen draw fyddai gweld y Coleg yn cofleidio Llundain 2012 yn llwyr gyda phob myfyriwr ac aelod o staff yn ymwybodol o ystyr y Gwerthoedd.
Y cam nesaf fydd ceisio cymhwyso'r Gwerthoedd i fywyd bob dydd yr ysgol. Gyda hyn mewn golwg mae Kirk Hallam wedi dechrau cysylltu'r Gwerthoedd â'u system o gosbi a gwobrwyo.
Gan adeiladu ar y llwyddiant cychwynol, nod y coleg yw i fyfyrwy gael profi mwy o ddyddiau gyda Llundain 2012 yn thema, a pharhau y gwaith gwych gaiff ei wneud gydag ysgolion cynradd lleol.













