Ymuno â thîm cenedlaethol
Pam Bydd Barod?
Roedd Kingfisher Pupil Referral Unit (De Ddwyrain Lloegr, Gorllewin Berkshire) yn teimlo cyffro ynglŷn â Llundain 2012 gan y byddai'n rhoi'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd o fewn cyrraedd i'w cymuned eu hunain. Byddai myfyrwyr yn cael profi chwaraeon gwych â'u llygaid eu hunain a'r penderfyniad sy'n rhan o hynny.
Byddai ymuno â rhwydwaith Bydd Barod yn rhoi cyfleoedd i gael mynediad i fwy o adnoddau a gweithgareddau sy'n seiliedig ar y Gwerthoedd, gan wneud i fyfyrwyr a staff deimlo'n rhan o'r tîm ehangach ar hyd a lled y wlad, a phawb yn gweithio tuag at yr un amcanion.
Y Daith Hyd Yma
Mae Kingfisher wedi defnyddio Addysg Bersonol, Gymdeithasol a Iechyd fel man cychwyn gwych ar gyfer adeiladu ar y Gwerthoedd sydd eisoes wedi cael eu serio ar y cwricwlwm ac yn creu cysylltiadau â thargedau agweddau cymdeithasol ac emosiynol ar ddysgu. Mae adnoddau Bydd Barod wedi cael eu defnyddio ar gyfer gweithgareddau yn seiliedig ar gynnal tîm Paralympaidd. Roedd Sbaen a phêl-droed yn ddewisiadau arbennig o boblogaidd!
Gwnaethpwyd cysylltiadau ag archwilio diwylliannau gwahanol a bwyta bwydydd cenedlaethol megis paella. Mae myfyrwyr hefyd wedi bod yn brysur yn ymchwilio i hanes y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd.
Mae cyfleoedd traws gwricwlaidd eraill hefyd yn cael eu cynllunio gydag adnoddau a fideos Bydd Barod yn cael eu defnyddio fel mannau cychwyn. Bydd myfyrwyr yn:
- Ysgrifennu llythyrau at arwyr chwaraeon ac yn ystyried sut y gall pob un ohonom fod yn arwyr
- Trafod y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd mewn athroniaeth
- Rhoi cynnig ar wahanol gampau Paralympaidd
- Hyfforddi'r naill a'r llall mewn sesiynau AG
Gwerthoedd Positif
Mae Kingfisher yn teimlo bod ei gwaith gyda Bydd Barod yn help tuag at gydlynu cymunedol ac yn galluogi ei myfyrwyr i feddwl am eraill yn ogystal â hwy eu hunain yn arbennig wrth ddefnyddio'r Gemau Paralympaidd fel ffocws.
Mae'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd wedi cael eu harddangos yn amlwg o gwmpas yr ysgol fel y gellir cyfeirio atynt a'u cysylltu â gwahanol bynciau. Mae hyn hefyd wedi helpu myfyrwyr a staff i weithio tuag at dargedau agweddau cymdeithasol ac emosiynol ar ddysgu.
A'r uchafbwynt i'r myfyrwyr?
Mae'r awch i ennill a'r ymdrech a ddangosir gan yr athletwyr wedi creu argraff fawr ar y myfyrwyr; roeddynt yn rhyfeddu at faint o amser roedd yn rhaid i Tom Daley ei dreulio yn ymarfer yn ogystal â mynd i'r ysgol a faint o ymroddiad oedd ei angen.
- "Waw, ydyn nhw'n wirioneddol yn treulio gymaint â hynny o amser yn ymarfer?"
- "Maent yn gweithio'n galed"
- "Mae'r Gemau Paralympaidd yn swnio fel y Gemau pwer-Olympaidd i fi."
Ymlaen at 2012
Mae'n bwysig i Kingfisher bod gweithgareddau'n gallu arwain at gynyddu hunan-werth y myfyrwyr. Mae Kingfisher eisiau ysbrydoli myfyrwyr i lwyddo i gyrraedd pa bynnag amcanion a osodent iddynt eu hunain ac i ysbrydoli eraill. Ar y cychwyn, gall fod yn rhan o Uned Cyfeirio Disgyblion ladd brwdfrydedd; hoffai Kingfisher annog agwedd bositif a hyder i roi cynnig ar unrhyw beth.
Erbyn 2012 mae Kingfisher yn anelu i'w myfyrwyr gael cyfle i ymweld â'r stadiwm a theimlo gwir ysbrydoliaeth o weld y lle fydd yn gwireddu breuddwydion. Mae cynlluniau hefyd yn cael eu datblygu ar gyfer diwrnod Gemau Paralympaidd yn yr ysgol i helpu myfyrwyr ddychmygu sut brofiad mae eraill yn ei gael ar fywyd.













