Ysbrydoli plant i wireddu eu breuddwydion
Pam Bydd Barod?
Mae Herbert Thomson wedi ei hymrwymo'n gadarn i AG a chwaraeon, yn hyrwyddo gweithgaredd gorfforol a ffyrdd o fyw'n iach yn llawn i blant ac oedolion yng nghymuned yr ysgol.
Roedd ymuno â Bydd Barod yn ddatblygiad naturiol o'r hyn yr oedd eisoes wedi cael ei gyflawni'n llwyddiannus, a gall helpu'r ysgol yn ei nod o barhau i annog plant i fabwysiadu agwedd bositif tuag at ymarfer corff, AG a bwyta'n iach.
Y Daith Hyd Yma
Roedd Herbert Thomson wedi ei gefeillio ag ysgol yn Iowa trwy ymwneud â Breuddwydion Olympaidd. Mae plant yn eiddgar yn dilyn datblygiad y Gymnastwr Olympaidd Shawn Johnson, cyn ddisgybl yn eu hysgol bartner, a byddant yn defnyddio TGC yn cynnwys cynadledda fideo i helpu cyfathrebu gyda'u cyfoedion yn Iowa.
Mae cysylltiadau hefyd wedi cael eu gwneud ag ysgol yn Indonesia, ac o ganlyniad i'r ysbrydoliaeth a geir o'r bartneriaeth mae Herbert Thomson wedi cynnal Gŵyl Ysgolion Iach Indonesiaidd. Roedd gweithgareddau yn cynnwys dylunio a chreu pryd bwyd reis iach ar gyfer y Frenhines Sita, a chreu lloches iddi fyw ynddo tra yn y goedwig.
Cychwynodd wythnos chwaraeon gwirioneddol gofiadwy gyda seremoni agor fawreddog yn ogystal â fflam Olympaidd yn cael ei throsglwyddo i bob plentyn. Roedd yr wythnos yn cynnwys diwrnod chwaraeon rhyfeddol a gynhaliwyd yng Nghanolfan Athletau Dan Do Genedlaethol Cymru a chlywyd bonllefau dros Gaerdydd gyfan pan ymunodd Wenlock â'r plant ar gyfer y Seremoni Gloi i helpu cyflwyno'r medalau a'r tlysau. Pan ddiffoddwyd y fflam Olympaidd cyflwynwyd baner i Flwyddyn 5 ar gyfer cynnal yr Wythnos Chwaraeon y flwyddyn nesaf.
Mae pob disgybl a phob aelod a staff wedi rhoi Adduned Chwaraeon a'r staff hefyd yn addunedu dringo Pen-y-Fan, copa uchaf Bannau Brycheiniog.
Gwerthoedd Positif
Gyda'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd yn sail i holl ethos yr ysgol mae Herbert Thomson yn teimlo bod ymwneud â rhwydwaith Bydd Barod, Ysbrydoliaeth Ryngwladol a Breuddwydion Olympaidd Byd Eang wedi bod yn rhyfeddol!
"Mae wedi agor drws y byd i'n myfyrwyr ac yn eu hysbrydoli i gredu ynddynt eu hunain a dyheu i wireddu eu breuddwydion."
A'r uchafbwynt i'r myfyrwyr?
Mae plant wedi mwynhau straeon am athletwyr sy'n gobeithio cystadlu yn Llundain 2012 ac wedi cael eu hysbrydoli'n arbennig gan ddilyn Shawn Johnson a gweld sut mae hi'n goresgyn anaf er mwyn cystadlu. Roedd cyfarfod â Rob Chapman a hyfforddodd Shawn yn Iowa yn gwneud y profiad yn un real.
"Pa bryd fydd Shawn yn dod i Herbert Thomson? Rwyf eisiau bod fel hi."Ymlaen at 2012
Mae Herbert Thomson eisiau ymestyn disgwyliadau'r plant ar gyfer eu bywydau yn y dyfodol, gan roi hyder i blant ddilyn eu breuddwydion, defnyddio a datblygu eu talentau a deall y gallant gyrraedd eu gorau glas trwy waith caled ac ymroddiad.
Bydd ystod o gyfleoedd cyffrous yn cael eu cynnig wrrth i Lundain 2012 agosau fydd yn amcanu at ysgogi ac ysbrydoli plant i gredu ynddynt eu hunain a dangos parch ac empathi tuag at ddiwylliannau eraill.
Erbyn 2012 mae Herbert Thomson yn benderfynol y bydd plant yn "gwerthfawrogi ac yn deall bod yna fyd rhyfeddol allan yna, a phobl ryfeddol i'w cyfarfod!"













