Defnyddio'r Gwerthoedd i ddathlu llwyddiant
Pam Bydd Barod?
Roedd Collegiate High School (Blackpool, Gogledd Orllewin Lloegr), eisiau datblygu ymwybyddiaeth, mwynhad a chyfranogiad y myfyrwyr yn Llundain 2012 a defnyddio'r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd i alluogi'r myfyrwyr i weld buddion cymryd rhan mewn ffyrdd o fyw'n iach ac egnïol.
Gwelwyd bod y Gwerthoedd yn ffordd o hyrwyddo cenhadaeth gyffredinol yr ysgol gan anelu at serio'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd trwy wasanaethau, prosiectau traws-gwricwlaidd, system wobrwyo, Diwrnod Chwaraeon Olympaidd arbennig a digwyddiadau eraill.
Y Daith Hyd Yma
Mae Collegiate wedi defnyddio'r cylchoedd Olympaidd fel symbol o lwyddiant gan ddefnyddio'r cylchoedd i gynrychioli:
- Presenoldeb
- Agwedd
- Llwyddiant
- Egnïol a iach
- Gweithgar yn ein cymuned.
Gyda myfyrwyr yn ennill cylchoedd ac yn datblygu drwy'r lefelau llwyddiant sy'n cyfateb i wobrau aur, arian ac efydd, y nod fu gosod lefelau llwyddiant sydd yn realistig ac yn sbardunol.
Roedd i'r Diwrnod Chwaraeon thema Olympaidd yn sail i dimau, campau a chyflwyniadau a bu i Collegiate gynnwys ei Goleg Anabl arbenigol yn y gweithgareddau. Bwriedir cynnal digwyddiadau tebyg gyda 'cydweithio', 'chwarae teg' a 'pharchu gwrthwynebwyr wrth gystadlu' wedi eu hymgorffori i'r drefn sgorio a beirniadu.
Cafodd myfyrwyr hanes hefyd brofi digwyddiad blasu Olympaidd a chyfle i gymryd rhan mewn rhai o'r campau Olympaidd cyntaf megis reslo, rasio carbydau rhyfel a thaflu cerrig!
Gwerthoedd Positif
Yn gyffredinol mae'n ymddangos bod myfyrwyr wedi cael eu sbarduno gan y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd a maint yr holl ddigwyddiad. Roedd ymateb y myfyrwyr i'r digwyddiad hanes yn dda iawn gydag adroddiadau am well ymddygiad a mwy o ddiddordeb mewn dysgu.
Bydd y Gwerthoedd yn parhau i gael eu hyrwyddo trwy system wobrwyo Collegiate gan amcanu at gynyddu llwyddiant y myfyrwyr o ran y Gwerthoedd a gynhwysir ynddi.
A'r uchafbwynt i'r myfyrwyr?
- "Gwylio pobl eraill yn dod yn bencampwyr ac yn hapus"
- "Sut mae pawb bob amser yn credu y gallant ennill ac yn ymdrechu'n galed"
- "Maent yn fy ysbrydoli fi oherwydd mae'n ffordd o ddangos sgiliau athletig pobl"
- "Y ffordd mae pobl yn cymryd rhan ac yn cydweithio."
Ymlaen at 2012
Mesur o lwyddiant i Collegiate fyddai cynyddu llwyddiant, gweld mwy o fyfyrwyr yn cyrraedd aur, arian ac efydd yn y system wobrwyo yn ystod y flwyddyn a mwy o fyfyrwyr yn cael eu gwobrwyo am y categoriau 'agwedd' a 'gweithgar yn ein cymuned'.
Arwydd arall o lwyddiant fyddai gweld mwy o fyfyrwyr yn ceisio efelychu eu harwyr Olympaidd a Pharalympaidd ac yn cymryd rhan mewn mwy o chwaraeon eu hunain yn yr ysgol ac yn ymuno â chlybiau chwaraeon lleol. Bydd y myfyrwyr yn cael eu hannog i arwain digwyddiadau yn yr ysgolion, i ymweld â'r lleoliadau Olympaidd a Pharalympaidd a hyd yn oed i wirfoddoli ar gyfer Llundain.
Mae gweld myfyrwyr yn siarad am, holi cwestiynnau am ac yn ymwneud mwy â'r Gemau yn bwysig i Collegiate.
"Rwyf yn wirioneddol eisiau i'n myfyrwyr fwynhau yr holl ddigwyddiad Olympaidd a gweld sut y gall chwaraeon ddod â phobl at ei gilydd i ddathlu llwyddiant a chystadleuaeth."













