Coleg yn dathlu Llundain 2012 gydag ymroddiad helaeth
Pam Bydd Barod?
Golygai ymuno â Bydd Barod bod Chweched Dosbarth Hartlepool (Hartlepool, Gogledd-ddwyrain) yn gallu rhannu arfer dda ag ysgolion a cholegau trwy'r wlad a manteisio ar gynlluniau a phrosiectau eraill i godi proffil y Gemau yn yr ardal leol. Gan fod gwersyll ymarfer ar gyfer hwylio yn y Gemau yn cael ei sefydlu yn Hartlepool, roedd yma gyfle gwirioneddol i ysbrydoli pobl leol.
Roedd hwn hefyd yn gyfle i gydlynu ymgyrch trawsgolegol yn hytrach na chynnal gweithgareddau mewn adrannau unigol yn unig.
Y Daith Hyd Yma
Mae myfyrwyr chwaraeon yn y coleg yn rhan o fenter Fflamau Loughborough ac yn gweithio gydag ysgolion cynradd lleol, prif ffrwd ac anghenion arbennig, i gynnal sesiynau chwaraeon sy'n hyrwyddo'r Gwerthoedd. Bydd hyn yn gorffen mewn gŵyl Olympaidd pryd y bydd plant o ysgolion sy'n cymryd rhan yn dod ynghyd. Fel rhan o'r ŵyl, bydd timau yn cario baneri sy'n arddangos y Gwerthoedd.
Mae myfyrwyr busnes yn cydlynu her farchnata mewn cydweithrediad â'r tîm datblygu chwaraeon lleol. Golyga hyn drefnu diwrnod o hwyl fydd yn cynnwys sesiynau blasu ystod eang o gampau Olympaidd a Pharalympaidd i blant ac oedolion lleol. Cymerodd y myfyrwyr y cyfrifoldeb o farchnata, gwerthu nwyddau, mynd i gyfarfodydd cyngor a chadw llygad ar y gyllideb.
Ymgorfforir y Gwerthoedd yn rhaglen fugeiliol y coleg; bydd pob grŵp tiwtorial yn dewis un o'r Gwerthoedd ac yn dangos sut maen nhw wedi ei fyw gydol y flwyddyn academaidd.
Mae wythnos amrywiaeth flynyddol yn hyrwyddo cydraddoldeb ac fe anogir yr holl fyfyrwyr i gymryd rhan. Neilltuir pob diwrnod i hyrwyddo diwylliant gwahanol gyda'r myfyrwyr yn profi cerddoriaeth, gweithgareddau diwylliannol a bwydydd o bedwar ban byd.
Gwerthoedd Positif
Mae Hartlepool wedi canfod bod y Gwerthoedd yn foddion defnyddiol i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth drwy'r coleg ac yn effeithiol yn codi safonau myfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau chwaraeon BTEC.
Mae awyrgylch flaengar yn datblygu drwy'r coleg gan ysbrydoli myfyrwyr i gyrraedd rhagoriaeth.
A'r uchafbwynt i'r myfyrwyr?
- "I mi mae'n ymwneud â phawb yn dod ynghyd i wylio athletwyr gorau'r byd"
- I weld yn y cnawd pobl yn gorchfygu caledi boed yn anabledd, anaf, trechiad a dychwelyd i gyflawni'r lefel uchaf o berfformiad"
- "I weld y gwaith caled wnaed gan yr holl athletwyr."
Ymlaen at 2012
Mesur gwirioneddol o lwyddiant Coleg Chweched Dosbarth Hartlepool fyddai ymwneud cynyddol myfyrwyr mewn campau Olympaidd a Pharalympaidd yn y coleg a thrwy'r rhanbarth; bwriada gael y coleg cyfan i ddathlu Llundain 2012. Mae hefyd yn bwriadu datblygu cyfleoedd i wirfoddoli ac i ymestyn y cysylltiadau rhwng y Coleg a'r gymuned cyn, yn ystod ar ar ôl y Gemau.
Mae Hartlepool yn anelu at gael ei fyfyrwyr i sylweddoli y gallant fyw y Gwerthoedd yn y coleg a'r tu allan bob dydd ac nid pan yn chwarae yn unig. Mae am i fyfyrwyr barhau i gael eu hysbrydoli gan fentrau megis gwobrau chwaraeon a gobeithia ymgorffori ymweliadau gan athletwyr Olympaidd a Pharalympaidd i ddangos y gellid cymhwyso ethig gwaith yr athletwyr i bob gwedd o fywyd coleg.













