• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Churchmead C of E VA School

Gwobrwyo'r Gwerthoedd yn yr ysgol gyfan

Pam Bydd Barod?

Roedd ymuno â Bydd Barod yn gyfle i Churchmead School (Bwrdeistref Brenhinol Windsor a Maidenhead, De Ddwyrain Lloegr) hyrwyddo'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd a chysylltu ag ysgolion eraill mewn prosiectau cysylltiedig â'r Gemau. Roedd hi eisiau annog myfyrwyr i fod yn ddysgwyr gydol oes oedd yn defnyddio'r Gwerthoedd, gan weld hyn yn rhan hanfodol o waddol llundain 2012.

Y Daith Hyd Yma

Mae pwyllgor Olympaidd y myfyrwyr wedi mynychu cyrsiau, ymweld ag ysgolion eraill, cynnal gwasanaethau, cyflwyniadau a nosweithiau rhieni, dylunio arddangosiadau a threfnu cystadlaethau. Mae bathodynnau a chrysau T arbennig wedi cael eu gwneud i'r pwyllgor ac mae aelodau'r pwyllgor wedi bod yn blogio'n ddyfal. Hefyd sefydlwyd rhaglen Llysgenhadon Ifanc.

Mae Churchmead wedi trawsnewid ei system wobrwyo, grwpiau bugeiliol a gweddau o'r cwricwlwm yn llwyr
er mwyn serio'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd. Mae dyddiaduron myfyrwyr nawr yn cynnwys tudalen ar gyfer cyfrif pwyntiau tai a enillwyd am arddangos un o'r Gwerthoedd ac mae grwpiau tai yn cynrychioli gwledydd sy'n cystadlu yn y Gemau. Mae blynyddoedd unigol yn cystadlu mewn 'ras' tai gan deithio o Beijing i Lundain gan ennill 'milltiroedd' drwy gystadlu mewn amrywiaeth o wahanol ddigwyddiadau.

Bu i seremoni agor arbennig nodi bod Fflam Olympaidd Bwrdeistref Brenhinol Windsor a Maidenhead wedi cyrraedd a chynhaliwyd y digwyddiad gan y Pwyllgor Olympaidd a'r nofwraig Karen Pickering. Roedd y seremoni yn lansio pum wythnos o gynlluniau gwaith ar thema Olympaidd, ac yn dilyn hynny roedd y fflam yn symud i ysgol arall yn y bwrdeistref.

Gwerthoedd Positif

Mae'r Gwerthoedd wedi bod yn sail i bolisi ymddygiad a dysgu'r ysgol. Mae'r myfyrwyr yn dyheu at ennill pwyntiau a roir am arddangos y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd mewn unrhyw wedd o fywyd ysgol. Gellid arddangos hyn drwy ymddygiad, perfformiad academaidd neu ymarferol.

Mae'r canlyniadau wedi bod yn rhyfeddol, a'r effeithiau yn amlwg yn mhob gwedd o fywyd yr ysgol. Mae'r system yn gymharol newydd i staff a myfyrwyr ond mae ymgysylltu â dysgu wedi gwella'n fawr yn barod ac mae myfyrwyr wedi mabwysiadu dull positif iawn o arddangos nifer o'r Gwerthoedd mewn gwersi.

A'r uchafbwynt i'r myfyrwyr?

caiff y myfyrwyr eu hysbrydoli gan y Gemau oherwydd gallant uniaethu â'r syniad o weithio tuag at ganlyniad yn y pen draw. Mae poaratoadau athletwr yn adlewyrchu sut y mae myfyrwyr llwyddiannus yn paratoi ar gyfer TGAU.

'Mae'r disgyblion wedi cofleidio'r heriau ac mae cyffro'r Milltiroedd Olympaidd yn lledu drwy'r ysgol.'

Ymlaen at 2012

Mae cyfranogiad Churchmead yn rhan o gynllun tymor hir fydd yn ymestyn y tu hwnt i 2012, ac mae'n bwriadu parhau i ddefnyddio'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd fel cynhwysyn craidd y system gofal bugeiliol a'r polisi gwobrwyo; mae'n anelu at waddol o fyfyrwyr yn arddangos y Gwerthoedd yn eu bywydau bob dydd ac i'r polisi gwobrwyo fod yn gyrru myfyrwyr i lwyddo.

Erbyn Llundain 2012 bydd gan fyfyrwyr fwy o wybodaeth am hanes y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd. Mae Churchmead yn anelu at gynyddu cymhelliant a chyfranogiad mewn nifer o chwaraeon am flynyddoedd i ddod, gan weld fod y Gemau yn ysbrydoli gwaddol o lwyddiant athletaidd.