Defnyddio'r Gwerthoedd i godi dyheadau.
Pam Bydd Barod?
Roedd Bridgemary eisiau ysbrydoli ei holl fyfyrwyr i lwyddo i gyrraedd eu 'gorau glas' trwy ei rhaglen 2012 a rhannu arfer da gydag ysgolion a cholegau eraill trwy Bydd Barod. Gellid gadael gwaddol arwyddocaol fyddai'n helpu Bridgemary o ran ei hathroniaeth 'Fit for Life'.
Roedd Bridgemary eisoes yn defnyddio'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd fel sail i'w gwerthoedd PRIDE ei hun, ac roedd wedi ymrwymo i'r rhain fel dull o annog myfyrwyr i godi eu dyheadau, datblygu hunan-gred a newid meddylfryd o ran yr hyn sy'n bosibl.
Y Daith Hyd Yma
Sefydlodd Bridgemary system tai newydd gyda phob tŷ yn cael ei enwi ar ôl athletwr Prydeinig elît a'r myfyrwyr yn pleisleisio am yr enwau terfynol. Addawodd y myfyrwyr a'r staff i ymrwymo i'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd gydag addewidion yn cael eu dangos ar fyrddau ym mhrif iard y coleg.
Mae Wythnosau Her i'r Tai wedi cael eu seilio ar Werthoedd penodol; mae myfyrwyr wedi cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn cystadlaethau rhyng-dai ac mewn ystod eang o weithgareddau ar draws gwahanol feysydd pwnc. Mae tlws tai wedi cael ei gyflwyno ar ddiwedd pob wythnos her.
O gwmpas y coleg gwelir arddangosfeydd sy'n cynnwys mapiau o ddigwyddiadau a chyfleusterau, cyfrif i lawr yn wythnosol at gychwyn Llundain 2012, a gwybodaeth am 'arwyr lleol' sy'n gobeithio am lwyddiant yn 2012.
Mae chwaraeon Olympaidd megis BMX a phêl-law wedi cael eu cyflwyno i'r cwricwlwm. Mae hyd yn oed ffreutur y coleg wedi cael ei ailwampio, ac erbyn hyn mae'n Café Olympaidd gyda symbolau chwaraeon, cylchoedd Olympaidd a wal fideo!
Gwerthoedd Positif
Mae'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd wedi cael eu serio ar draws y cwricwlwm cyfan ac maent yn rhan allweddol o fywyd y coleg. Mae Bridgemary yn teimlo bod hyn wedi dod â'r coleg cyfan yn agosach at ei gilydd, a'i fod wedi helpu i gefnogi safonau academaidd ac ymddygiad.
Enillodd Bridgemary wobr cydnabyddiaeth rhwydwaith Bydd Barod yn y Gynhadledd Colegau Chwaraeon am ei waith eithriadol yn defnyddio'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd i yrru cyfranogiad yr ysgol gyfan.
A'r uchafbwynt i'r myfyrwyr?
- "Y ffaith mai hon yw ein gwlad ni ein hunain ac y byddwn yn cael y cyfle i brofi'r awyrgylch"
- "Penderfyniad yr athletwyr, a'r ffordd y gallwn ddefnyddio hyn a dyheu i fod y gorau y gallwn fod yn ein bywydau"
- "Mae'n ein hysbrydoli i gymryd rhan mewn cyn gymaint o gyfleoedd ag y gallwn"
- "Rydym yn cael cyfle i weld rhai o'r athletwyr yr ydym wedi bod yn gweithio gyda hwy ac wedi eu cefnogi."
Ymlaen at 2012
Bydd Bridgemary yn parhau i gynnig ystod o gyfleoedd i fyfyrwyr trwy Wythnosau Her i'r Tai a bydd myfyrwyr yn arwain wrth ysbrydoli plant cynradd trwy weithgareddau wedi eu seilio ar y Gwerthoedd. Mae'r coleg eisiau cael mynediad i gyn gymaint o fentrau'r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd â phosibl er mwyn cynnal momentwm wrth nesau at Lundain 2012.
Mesur eithaf o lwyddiant fyddai gweld gwir angerdd yn y myfyrwyr tuag at y Gemau a sylweddoliad bod y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd yn hyn y gallant ddyheu amdanynt yn eu bywydau eu hunain wrth iddynt fynd drwy'r ysgol a thu hwnt.













