Ysbrydoli myfyrwyr trwy gysylltiadau rhyngwladol
Pam Bydd Barod?
Trwy Raglen Ysbrydoliaeth Rhyngwladol roedd partneriaeth waith lwyddiannus eisoes wedi cael ei sefydlu gydag ysgol yn India. Gan edrych y tu hwnt i gysylltiadau gohebu traddodiadol, rhoddwyd cyfle rhyfeddol i fyfyrwyr o'r ddwy ysgol ymweld â gwledydd ei gilydd!
Roedd ymuno â Bydd Barod yn golygu cael cyfle i rannu yn y stori ryngwladol hon wrth iddi barhau i ddatblygu, ennill ysbrydoliaeth i ddatblygu meysydd eraill y cwricwlwm ymhellach a chyflwyno hyd yn oed mwy o chwaraeon a gweithgareddau. Roedd Christ College (Swydd Gaerloyw, De-orllewin Lloegr) eisiau i fyfyrwyr brofi cyn gymaint â phosibl o weithgareddau Olympaidd a Pharalympaidd, trwy sesiynnau blasu a gweithgareddau paratoi cyn, yn ystod ac ar ôl y Gemau.
Y Daith Hyd Yma
Mae myfyrwyr Christ College wedi cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn amryw weithgareddau yn cynnwys rhaglen Top Link ar thema Indiaidd, dyddiau a gwasanaethau ar thema aml-ddiwylliant.
Mae plant o ysgolion cynradd bwydo wedi bod yn rhan o'r gweithgareddau gyda dros 600 o blant cynradd wedi cael eu cyflwyno i Kabaddi, Kho Kho a Rangoli. Ar draws y byd mae eu cyfoedion mewn ysgolion pentref yn India o gwmpas y brif ysgol gyswllt wedi cael eu cyflwyno i Rygbi Tag a Rownderi.
Rhoddwyd pwyslais mawr ar arweiniad gan fyfyrwyr gyda myfyrwyr yn arwain gwasanaethau gan ddangos pa effaith mae eu cyfranogiad wedi ei gael er eu meddyliau a'u teimladau am y byd.
Gwerthoedd Positif
Mae myfyrwyr Christ College wedi cofleidio'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd ac wedi dangos mwy o barch a goddefgarwch tuag at ei gilydd, a chafwyd dylanwad positif ar ymddygiad yn yr ysgol ac o'i chwmpas. Yn y gwersi a thu hwnt, mae myfyrwyr wedi delio â rhwystrau gyda dewrder a phenderfyniad, yn ymdrechu mewn tasgau yn bositif gyda dyhead i fynd y tu hwnt i'w gorau.
Mae cyfranogi mewn cyfleoedd i arwain wedi bod yn amlwg gyda phob myfyriwr ym mlwyddyn 10 wedi ennill gwobr arwain; arweiniodd hyn at greu cyfleoedd dysgu, cyfranogi a chystadlu i blant cynradd a phlant o ysgolion arbennig.
A'r uchafbwynt i'r myfyrwyr?
Mae myfyrwyr wedi cael eu hysbrydoli gan faint y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, yr effaith a gânt ar fywydau cymaint o bobl, a'r ffordd y mae chwaraeon yn dod â phobl o bedwar ban byd at ei gilydd.
- "Mae'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd yn ein hatgoffa o'r ffordd y dylsem chwarae a'r hyn yw chwaraeon."
- "Gallwn weld a dysgu am gampau na chawn y cyfle i gymryd rhan ynddynt, fel deifio uchel."
- "Mae dod â phobl at ei gilydd ar gyfer chwaraeon yn dangos i ni ei fod yn rhan mor bwysig o fywyd."
Ymlaen at 2012
Pwysigrwydd mawr i Christ Collge yw datblygu yn y myfyrwyr ddealltwriaeth gwirioneddol o'r effaith gaiff y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd ar bobl ifanc ar hyd a lled y byd.
Eu nod eithaf yw ailadrodd ac adeiladu ar yr hyn sydd wedi ei gyflawni eisoes, gan alluogi ail grŵp o arweinwyr ifanc i brofi ymweliad ag India a chyfnewid trwy dderbyn myfyrwyr o'r ysgol bartner unwaith eto.
"Mesur o lwyddiant gwirioneddol fydd creu dyhead yn ein myfyrwyr i wneud hyn drwy raglen Bydd Barod."













