• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

All Saints Academy

Newid o fod yn Goleg Cymunedol i fod yn Academi

Pam Bydd Barod?

Roedd All Saints Academy (Plymouth, De Orllewin Lloegr) eisiau i'w disgyblion deimlo eu bod yn rhan o'r Gemau er gwaethaf eu pellter o Lundain. Roedd Bydd Barod yn llwyfan i helpu i hyrwyddo'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd a galluogi staff i gynllunio gweithgareddau creadigol drwy gydol y flwyddyn.

Gwelwyd bod thema ysbrydoledig y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn hynod bwysig ac yn ffordd ragorol i helpu gyda'r newid o fod yn Goleg Cymunedol i fod yn Academi. Gallai myfyrwr gael eu hnnog i anelu'n uwch o ran eu dyheadau a'u gweithrediadau.

Roedd All Saints eisiau dangos i fyfyrwyr nad athletwyr Olympaidd a Pharalympaidd yn unig all arddangos y Gwerthoedd, ond y gallan nhw hefyd fyw yn ôl y Gwerthoedd yn eu bywydau bob dydd.

Y Daith Hyd Yma

Bu i seremoni agor Olympaidd a Pharalympaidd ac ystod o ddigwyddiadau cysylltiedig helpu All Saints i ddathlu bod yn Academi, tra'n codi ymwybyddiaeth o'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd a dod â'r Gemau'n fyw.

Roedd y gweithgareddau'n cynnwys:

  • Ymweliad gan y ddeifwraig Olympaidd Tonia Couch
  • Gweithgareddau menter ac adeiladu tîm
  • Chwaraeon traddodiadol a chyfoes
  • Gorymdaith wedi ei harwain gan gariwr baner All Saints Acamemy
  • Creu cylchoedd Olympaidd ar y cae.

Yn ogystal â chyfleoedd i ennill medalau, roedd myfyrwyr yn cael eu gwobrwyo am arddangos y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd. Cyflwynwyd 'Cwpan Academi' newydd i'r tîm oedd â'r pwyntiau uchaf.

Bydd myfyrwyr yr academi yn arwain mewn:

  • Cynnal digwyddiadau ysgolion cynradd
  • Cyflwyno gwasnaethau i ddisgyblion eraill
  • Creu bwrdd arddangos i hyrwyddo'r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd a'r Gwerthoedd.

Gwerthoedd Positif

Mae canolbwyntio ar y Gwerthoedd wedi cyfoethogi ethos a gweledigaeth yr Academi newydd. Teimlwyd bod seremoni agor wedi helpu i ddatblygu perthynas rhwng staff a myfyrwyr a arweiniodd at agor yr academi yn llwyddiannus a gwell ymddygiad o gwmpas y campws.

Mae staff wedi sylwi bod cyflwyno tystysgrifau Gwerthoedd Bydd Barod wedi bod yn ddefnyddiol wrth hyrwyddo ystyr y Gwerthoedd.

A'r uchafbwynt i'r myfyrwyr?

  • "Pawb yn ceisio'u gorau glas"
  • "Rydych yn dod i glywed am straeon am faint o waith maent wedi ei wneud a faint maent wedi dyfalbarhau"
  • "Yr holl wledydd yn dod at ei gilydd i arddangos eu talentau"
  • "Mae'n dangos bod yr amhosibl yn bosibl."

Ymlaen at 2012

Mesur o lwyddiant i All Saints fyddai gweld cymuned yr ysgol gyfan yn cymryd diddordeb mewn ystod eang o ddigwyddiadau'r Gemau a'r myfyrwyr yn credu mewn anelu at ragoriaeth a cheisio gwireddu eu hangerdd neu freuddwyd.

Mae All Saints eisiau i fyfyrwyr gael blas ar gystadlu, cyfranogi ac ennill mewn chwaraeon yn union fel mae athletwyr yn ei flasu yn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd. Bydd cyfleoedd mewn ystod eang o weithgareddau'n cael eu cynnig i fyfyrwyr, gan anelu at adeiladu ar waith tîm, datrys problemau a serio'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd.