Gosod Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd wrth galon bywyd ysgol.
Pam Bydd Barod?
Mae Alfriston School (Swydd Buckingham, De Ddwyrain Lloegr) eisoes wedi cyflwyno'r Gwerthoedd trwy arddangos posteri drwy'r ysgol. Sefydlwyd Cyngor Chwaraeon gyda chynrychiolwyr o bob grŵp blwyddyn a chynhaliwyd diwrnod llwyddiannus ar thema'r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd.
Roedd ymuno â rhwydwaith Bydd Barod yn ffordd o ddatblygu a rhannu gwaith ac o serio'r Gwerthoedd ar bob agwedd o fywyd yr ysgol. Roedd Alfriston, ysgol arbennig ar gyfer merched gydag anhawsterau dysgu canolig, eisiau gwneud y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd yn rhan ganolog o fywyd ysgol.
Y Daith Hyd Yma
Cafodd myfyrwyr brofi'r cyffro o gyfarfod ag athletwyr oedd ar ymweliad. Siaradodd y rhwyfwraig Baralympaidd, Naomi Riches am ei hyfforddiant a rhoi arddangosiad rhwyfo tra bu'r Olympiad Roald Bradstock yn gweithio gyda disgyblion i gynhyrchu darn o gelfyddyd trawiadol ar thema chwaraeon.
Cyflwynir tystysgrifau i ddisgyblion sy'n arddangos Gwerthoedd penodol gyda Chyngor Chwaraeon yr ysgol yn trafod y posibilrwydd o gyflwyno band arddwrn arbennig fel gwobr i ddisgyblion sy'n arddangos pob un o'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd. Mae tystysgrifau Gwerthoedd am bresenoldeb mewn clybiau amser cinio hefyd wedi cael eu cyflwyno i fyfyrwyr.
Cynllunir diwrnod thema arall i'w gynnal yn ystod Wythnos Chwaraeon Ysgol Cenedlaethol gyda gweithgareddau o amryw o feysydd y cwricwlwm yn cael eu cysylltu â'r Gwerthoedd. Mae tîm cyfryngau yn cynhyrchu fideo sy'n dangos beth mae'r Gwerthoedd yn eu golygu yn yr ysgol ac mae pob maes pwnc yn cynllunio modiwl o waith dilynol ar sail y Gwerthoedd.
Gwerthoedd Positif
Roedd posteri o gwmpas yr ysgol yn golygu bod myfyrwyr a staff yn fwy ymwybodol o sut mae'r Gwerthoedd an cael eu cysylltu â gweithgareddau a bywyd ysgol. Mae mwy o ddisgyblion wedi bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau amser cinio trwy gyfrwng y tystysgrifau presenoldeb.
Mae system wobrwyo a chosbi drwy'r ysgol gyfan ar sail y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd yn cael ei drafod.
A'r uchafbwynt i'r myfyrwyr?
Mae'r myfyrwyr wedi cael eu hysbrydoli gan gyfarfod ag athletwyr. Yn dilyn ymweliad Naomi Riches mae'r ysgol wedi prynu dau beiriant rhwyfo ac mae nifer o fyfyrwyr wedi cychwyn rhwyfo. Mae myfyrwyr wedi mynychu cystadleuaeth rwyfo gydag ysgolion prif ffrwd lleol yn Dorney Lake, Lleoliad rhwyfo Llundain 2012. Cafodd un myfyrwraig o Alfriston a darpar Baralympiad y dyfodol o bosibl ei hysbrydloi'n fawr gan fod y Gemau'n cael eu cynnal yn Lloegr:
"Rwyf wrth fy modd y bydd hyn yn digwydd yn Llundain ac mae wedi fy ysbrydoli ym mhob sesiwn ymarfer nofio - dim ond wrth feddwl y gall y byddaf yn cystadlu rhyw ddydd. Fy mhrif nod yw Rio - ond mae Llundain gam yn agosach. . . pwy a ŵyr?"
Ymlaen at 2012
Mae Alfriston yn amcanu at barhau i serio'r Gwerthoedd i ethos yr ysgol gyfan ac i 'fyw yn ôl y Gwerthoedd' cyn, yn ystod ac ar ôl Llundain 2012. Mesur o lwyddiant fyddai gweld yr holl ddisgyblion a'r staff yn deall sut mae'r Gwerthoedd yn cysylltu â'r Gemau a bywyd ysgol.
Mae Alfriston eisiau i fyfyrwyr gyfarfod a mwy o athletwyr, profi mwy o chwaraeon Olympaidd a Pharalympaidd yn yr ysgol, a gwybod pryd a ble y mae gwahanol weithgareddau sy'n gysylltiedig â'r Gemau yn cael eu cynnal. Mae'n fwriad hyrwyddo gweddau diwylliannol, logistaidd a thwristaidd Llundain 2012.













