• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Maricourt Catholic High School

Cadw'r fflam Olympaidd ynghyn am flynyddoedd i ddod

Pam Bydd Barod?

Roedd Maricourt (Sefton, Gogledd Orllewin Lloegr) yn amcanu at gyfoethogi'r cwricwlwm trwy ymgorffori'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd i mewn i ddysgu ac addysgu dyddiol ac ysbrydoli ac ysgogi plant yn yr ysgol a thu allan.

Byddai ymuno â Bydd Barod yn helpu i ddatblygu awyrgylch Olympaidd yng nghymuned yr ysgol ac yn gwella gwybodaeth a dealltwriaeth am y Gemau Olympaidd.

Y Daith Hyd Yma

Mae arweinwyr chwaraeon ifanc wedi cynnal digwyddiadau aml-sgiliau Olympaidd ar gyfer ysgolion cynradd y dalgylch gan hyrwyddo cystadlu iach, gwaith tîm a chyfeillgarwch; bu i arweinwyr a'r rhai a gymerodd ran fwynhau eu hunain fel ei gilydd.

Bydd llwyddiannau'n cael eu dathlu mewn gwasanaethau Olympaidd arbennig sy'n hyrwyddo'r Gwerthoedd. Bydd pob gwasanaeth yn cynnwys cynhyrchiad dawns yn seiliedig ar y Gemau Olympaidd er mwyn efelychu seremoni agor a chyfoethogi'r profiad i'r staff a'r myfyrwyr. Mae polisi asesu newydd yn cysylltu llwyddiannau'r Cwricwlwm Cenedlaethol â medalau efydd, arian ac aur.

Fel ymdrech i ddathlu sêr chwaraeon mwyaf talentog Maricourt mae oriel yr anfarwolion wedi cael ei sefydlu gyda lluniau o fyfyrwyr a'u llwyddiannau. Dyluniwyd byrddau arddangos lliwgar i hyrwyddo'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd ac i ddathlu'r gwaddol Olympaidd llwyddiannus. Crewyd coeden addewidion Olympaidd o ddail addewidion wedi cael eu hysgrifennu gan myfyrwyr unigol.

Gwerthoedd Positif

Mae polisi asesu newydd Maricourt wedi datblygu i fod yn offeryn positif a defnyddiol sy'n galluogi myfyrwyr i ddilyn eu datblygiad eu hunain mewn AG. Mae myfyrwyr yn cymryd mwy o ran yn eu hasesiad a'u datblygiad a bu effaith bositif ar lwydddiant. Mae oriel yr anfarwolion hefyd wedi bod yn llwyddiannus iawn a bydd yn parhau i gael ei ddefnyddio fel ffordd o hyrwyddo a dathlu rhagoriaeth.

Mae myfyrwyr yn cael eu hysbrydoli gan benderfyniad athletwyr a thrwy weld sut mae'r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn galluogi pobl o wahanol alluoedd a chefndiroedd i gystadlu'n erbyn ei gilydd a llwyddo yn fyd-eang.

A'r uchafbwynt i'r myfyrwyr?

  • "Mae'r Gemau'n fy ysbrydoli i beidio ag ildio ac i wthio fy hun i gyflawni'r hyn y gallaf ei wneud"
  • "Mae'r athletwyr yn parchu ei gilydd ac yn gwneud ffrindiau newydd"
  • "Mae'r Gemau yn fy ysbrydoli i weithio mor galed ag y gallaf yn yr ysgol, a pharhau i lwyddo yn ddiweddarach mewn bywyd"
  • "Mae'r Gemau Paralympaidd yn fy ysbrydoli oherwydd hyd yn oed os ydych yn anabl gallwch ddal wireddu'ch breuddwydion a gweithio i ennill medal aur."

Ymlaen at 2012

Bydd digwyddiadau aml-sgiliau Olympaidd ar gyfer ysgolion cynradd yn cael eu cynnal yn flynyddol yn ogystal â gwasanaethau Olympaidd dan arweiniad myfyrwyr fydd yn dathlu llwyddiant chwaraeon drwy gydol y flwyddyn. Bydd yna thema Olympaidd i'r diwrnod chwaraeon a bydd yn cael ei gysylltu ag Addysg Bersonol, Gymdeithasol a Iechyd gyda myfyrwyr yn dysgu am wledydd sy'n cymryd rhan yn y Gemau. Bydd myfyrwyr yn cael rhagor o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau arwain ac i berchnogi eu haddysgu.

Gobeithir y bydd Llundain 2012 yn ysbrydoli athletwyr elît Maricourt i barhau i ymarfer yn galed ac y bydd yr holl fyfyrwyr yn cael eu hysbrydoli i gyflwani eu hamcanion eu hunain a gwireddu eu breuddwydion.

Mae Maricourt yn edrych ymlaen at baratoadau cyffrous Llundain 2012 a rhai myfyrwyr efallai hyd yn oed yn cael profi'r awyrgylch Olympaidd cyflawn drostynt eu hunain trwy fynychu'r Gemau.