Serio'r Gwerthoedd ar draws y cwricwlwm.
Pam Bydd Barod?
Roedd King Alfred eisiau pob myfyriwr i gael mynediad at y Gemau mewn rhyw fodd a chael eu hysbrydoli gan gyffro cynnal Gemau Llundain 2012.
Fel coleg chwaraeon arbenigol mae gan King Alfred raglen chwaraeon ffyniannus ar gyfer pawb. Mae ganddo nifer fawr o glybiau all-gwricwlaidd yn cynnwys clwb sylfeini. Mae o eisioes wedi trefnu diwrnod Olympaidd pryd y dysgir am y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd trwy gyfrwng ystod o weithgareddau traws-gwricwlaidd, ymarferol a damcaniaethol.
Roedd ymuno â Bydd Barod yn rhoi cyfle i ddefnyddio Gwerthoedd y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd i fwyhau dysgu ac addysgu. Byddai hyn yn effeithio ar ystod o bynciau, yn datblygu cysylltiadau traws-gwricwlaidd ac yn caniatau i syniadau gael eu rhannu gydag ysgolion eraill o gwmpas y wlad.
Y Daith Hyd Yma
Mae grwpiau tiwtor wedi cynnal gwasanaethau Gwerthoedd ar ffurf fideos, dramâu, storiau a chyflwyniadau rhyngweithiol. Mewn ysgol haf o ddoniau a thalentau cyflwynodd yr adran AG amrywiaeth o sesiynnau arwain, a chyflwynwyd tystysgrifau Gwerthoedd mewn Gala Nofio Cynradd.
Yn Activ8, clwb i rai ag anableddau corfforol a dysgu, mae myfyrwyr wedi bod yn gwisgo pedofesuryddion ac maent yn amcanu at 'gerdded' i'r Parc Olympaidd!
Mae gweithgareddau eraill gyda ffocws chwaraeon ac AG wedi cynnwys:
- Uned Iechyd ac Ymarfer Corff sy'n canolbwyntio ar baratoi athletwyr ar gyfer cystadlaethau penodol.
- Thema dawns wedi ei hysbrydoli gan y Gemau Olympaidd yn ymwneud â'r seremoni agor.
- Her 'Codi Gen' wedi ei hysbrydoli gan gymnastwyr yn perfformio ar y cylchoedd.
- Cyfarfod a rasio yn erbyn y nofiwr rhyngwladol, Craig Gibbons.
Hefyd, mae cyfres o gyfleoedd siarad a gwrando wedi cael eu trefnu gan yr adran Saesneg i gyd-fynd â thestun Cyfryngau Chwaraeon. Mae myfyrwyr wedi rhoi cyflwyniadau ar Chwaraeon Olympaidd, trafod manteision dinasoedd gwahanol yn cynnal y Gemau, a 'chyfweld' ag athletwyr.
Gwerthoedd Positif
Cynyddwyd dealltwriaeth o'r Gwerthoedd gan wasanaethau'r grwpiau tiwtor. Sefydlwyd grŵp myfyrwyr Bydd Barod i hyrwyddo'r Gwerthoedd ymhellach. Mae gwaith wedi dechrau ar 'Be The Best You Can Be', prosiect yn ymwneud â dyheadau am y dyfodol.
Bu i'r myfyrwyr yn yr ysgol haf ganfod pam bod y Gwerthoedd yn bwysig ym myd chwaraeon a sut y gallant eu mabwysiadu mewn gwersi a thimau yn ôl yn eu hysgolion a'u clybiau.
Mae'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd wedi dod yn rhan allweddol o King Alfred ac mae'n cyd-fynd â'r syniad o ddatblygu dysgwyr am oes fydd yn gwella y gymuned maent yn byw ynddi.
A'r uchafbwynt i'r myfyrwyr?
'Mae'r Gemau Olympaidd yn ddigwyddiad ysbrydoledig sy'n ein ysgogi ac yn ein herio i ymwneud â a mwynhau chwaraeon. Rydym yn gwneud llawer yn yr ysgol i sicrhau y gall pawb wneud y mwyaf o'r cyfle gwych hwn - mae'r tystysgrifau mewn AG wedi gweithio yn dda iawn' (Myfyriwr Bl 10).
'Y peth gorau yr ydym wedi ei wneud yn yr ysgol yw cael pawb i ymwneud â Llun dain 2012 ym mhob gwedd o fywyd coleg' (Myfyriwr Bl 9)
Ymlaen at 2012
Mae King Alfred eisiau parhau i serio'r Gwerthoedd, adeiladu mwy o gysylltiadau traws-gwricwlaidd a rhoi cyfleoedd i'r holl fyfyrwyr brofi cyffro'r Gemau. Mae King Alfred yn amcanu at ymgorffori'r Gwerthoedd yn niwylliant, cwricwlwm ac amgylchedd y coleg.
Y nod eithaf fyddai creu gwaddol barhaol fydd yn arwain at Lundain 2012 a thu hwnt, a gweld y myfyrwyr yn arddangos y Gwerrthoedd ym mhob gwedd ar fywyd.













