• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Sut mae gwneud cais?

Mae gwneud cais i ymuno â rhwydwaith Bydd Barod yn hawdd, rydym yn addo!

Beth sydd angen ei wneud?

Gwyliwch y ffilm hon a gweld sut y gall eich ysgol neu eich coleg chi ymuno â rhwydwaith Bydd Barod.

Mae cyflwyno cais i ymuno â rhwydwaith Bydd Barod yn hawdd. Gallwch gyflwyno'ch cais unrhyw dro.

Dilynwch y camau syml hyn:

  1. Cofrestrwch gyda Bydd Barod
  2. Meddyliwch am sut mae eich ysgol neu goleg eisoes yn 'byw' yn ôl un neu ragor o'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd
  3. Gweithiwch gyda myfyrwyr a chydweithwyr i gynllunio sut yr ydych am adeiladu ar yr ymrwymiad sy'n bodoli eisoes i Gemau Llundain 2012 a'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd sydd i ddod - hon fydd eich 'ffordd i 2012'
  4. Cyfeiriwch at eich ymrwymiad i Gemau Llundain 2012 a'r Gwerthoedd yn eich ffurflen gais. Os dymunwch lanlwytho tystiolaeth ychwanegol megis dogfen ddatblygu ysgol/coleg swyddogol neu ddogfen cynllunio gwelliannau swyddogol, bydd cyfle gennych i wneud hynny.
  5. Defnyddiwch blog Bydd Barod eich ysgol neu goleg i gofnodi'ch syniadau a'ch cynnydd
  6. Pan fyddwch yn barod, cyflwynwch ffurflen gais rhwydwaith Bydd Barod trwy'r blog.

Mwy am y ffurflen gais

Sut asesir ein cais?

Wedi i chi gyflwyno'ch ffurflen gais, fe'i hasesir gan dîm Bydd Barod a fydd yn eich e-bostio i'ch hysbysu am y canlyniad. Bydd y broses gyfan yn cymryd llai na chwe wythnos.

Dewch i ganfod beth mae tîm Bydd Barod yn ei chwilio amdano a chael cynghorion ar gyflwyno cais.