• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Telerau ac amodau

Telerau ac Amodau Ticketshare Llundain 2012

1. Cyfeirir atom ni, Pwyllgor Trefnu'r Gemau Olympaidd a'r Gemau Paralympaidd yn Llundain Cyfyngedig, isod fel "LOCOG", "Ni" neu "Ein".

Rheolau cyffredinol

2. Trwy wneud cais am a defnyddio Tocynnau trwy gynllun Ticketshare Llundain 2012 ("Ticketshare") rydych chi ("Chi") yn derbyn Telerau ac Amodau Prynu Tocynnau Llundain 2012 ("Telerau ac Amodau"), sydd ar gael yn y wefan www.tickets.london2012.com, ac o bob swyddfa docynnau swyddogol. Bydd i bob gair mewn prif lythrennau yr ystyr a nodir yn y Telerau ac Amodau. Darllenwch y Telerau ac Amodau yn ofalus os gwelwch yn dda. Trwy wneud cais am Docyn rydych yn tystio eich bod wedi darllen, deall a derbyn y Telerau ac Amodau ac yn cytuno i'w dwyn i sylw eraill. Trwy dderbyn, dal neu ddefnyddio Tocyn, mae Deiliad Tocyn yn tystio ei fod ef neu hi wedi darllen, deall a derbyn y telerau ac Amodau yn cynnwys, yn arbennig, y canlynol:

2.1 Mae Tocyn yn gwarantu hawl personol i gael mynediad i Leoliad i fynychu a meddiannu sedd yn ystod Sesiwn. Dylai pob Deiliad Tocyn gadw ei Docyn gydag ef/hi bob amser. Bydd y Tocynnau yn parhau'n eiddo i LOCOG.

2.2 Ac eithrio gydag awdurdod unswydd LOCOG, mae Tocynnau yn HOLLOL ANHROSGLWYDDADWY, ac NI CHANIATEIR EU GWERTHU (yn cynnwys drwy arwerthiant) na'u hysbysebu i'w gwerthu. Ni chaniateir defnyddio Tocynnau at bwrpas hysbysebu, hyrwyddo, codi arian neu farchnata (yn cynnwys mewn cystadlaethau a swîps)

2.3 Bydd Tocynnau a brynir neu a geir gan neu drwy Bersonau heblaw am yn uniongyrchol gan LOCOG (neu gan Berson gydag awdurdod LOCOG) ac mewn modd nad yw'n unol â'r Telerau ac Amodau yn ANNILYS a gellir eu HATAFAELU neu eu DILEU HEB AD-DALIAD NEU FYNEDIAD I SESIWN. Gall y bydd unrhyw Berson y bydd yn ceisio defnyddio Tocyn a geir yn groes i'r Telerau ac Amodau er mwyn cael mynediad i neu er mwyn aros mewn Sesiwn yn cael ei ystyried fel tresmaswr, yn cael ei fwrw allan a gall wynebu achos cyfreithiol;

2.4 Mae pob Deiliad Tocyn yn cydnabod y gall y bydd oedi, ymyryd, aildrefnu, gohirio neu ganslo Sesiynau (hy peidio eu cynnal o gwbl). Dylid cyfeirio at y Telerau ac Amodau am hawliau ad-daliad a'r weithdrefn. Ni fydd dim ad-daliadau ar leoliad (yn cynnwys swyddfeydd tocynnau swyddogol LOCOG). Ac eithrio'r hyn sy'n ofynol yn ôl y gyfraith, ni fydd gan unrhyw un o LOGOC, unrhyw Adwerthwr Tocynnau Awdurdodedig (ATA), unrhyw Gyrff y Gemau neu unrhyw Berson arall sy'n ymwneud â threfnu'r Gemau unrhyw atebolrwydd pellach i Ddeiliad Tocyn y tu hwnt i wynebwerth y Tocyn a brynwyd;

2.5 Rydych yn cydnabod ac yn derbyn y risgiau a'r peryglon sy'n perhtyn i fynychu Sesiwn. Rydych Chi yn gyfrifol am eich eiddo Chi eich hun a'ch diogelwch Chi eich hun ac rydych Chi yn gyfrifol am ddiogelwch, ymddygiad a gweithredoedd unrhyw blant, pobl ifanc neu bersonau bregus 18 oed neu iau cysylltiedig Mae gan Ddeiliaid Tocynnau gyfrifoldeb i gydymffurfio â'r Telerau ac Amodau hyn ac mae LOCOG yn cadw'r hawl anghyfyngedig i derfynu'r trwydded a ganiateir gan Docyn.

2.6 Rydych yn rhyddhau LOCOG, Adwerthwyr Tocynnau Awdurdodedig, perchnogion Lleoliadau a Chyrff y Gemau o unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod i eiddo personol y gallech ei ddioddef mewn perthyas â mynychu Lleoliad.

2.7 Mae Deiliaid Tocynnau yn cytuno i ufuddhau i Bolisi Gwylwyr LOCOG, yn cynnwys y rhestr o eitemau gwaharddedig a chyfyngedig na ellir mynd â hwy i Leoliad a'r rhestr o ymddygiad gwaharddedig. Rydych yn caniatau tynnu eich llun, eich ffilmio neu eich recordio gan LOCOG, yr IOC, neu drydydd partion a benodir neu a awdurdodir ganddynt. Bydd gan LOCOG, yr IOC neu drydydd partion a benodir neu a awdurdodir ganddynt, heb ofyniad iddynt dalu arian neu unrhyw fath arall o bris, hawl i ddarlledu, cyhoeddi, trwyddedu a defnyddio unrhyw luniau, ffilmiau neu recordiadau o'r fath ohonoch chi hyd byth; a

2.8 Mae pob Deiliad Tocyn yn cytuno y gall y bydd ef neu hi yn destun archwiliad diogelwch er mwyn sicrhau diogelwch mewn Sesiwn.

Ceisiadau Ticketshare Bydd Barod

4. I wneud cais am neu/a dosbarthu Tocynnau drwy Ticketshare, mae'n rhaid i'ch ysgol/coleg Chi fod yn aelod o rwydwaith Bydd Barod Llundain 2012. Trwy dderbyn telerau ac amodau Ticketshare Llundain 2012, rydych Chi yn gwneud cais am Docynnau Ticketshare, ac rydych Chi yn cadarnhau ac yn gwarantu bod rhieni/gwarcheidwaid pob plentyn wedi caniatau a/neu yn mynd i ganiatau i Chi wneud cais am a/neu ddefnyddio'r Tocynnau a'u bod wedi darllen, deall a derbyn y rheolau hyn a'r Telerau ac Amodau, yn cynnwys y ddarpariaeth mewn perthynas â chyfrifoldeb am blant, oedolion ifanc a phersonau bregus. Os gwneir cais gennym, byddwch Chi yn darparu tystiolaeth o oedran y plant i ni.

5. Dim ond un cais gan bob ysgol a ganiateir a bydd unrhyw geisiadau lluosog neu dilynnol yn annilys.

6. Gallwch wneud cais am Docynnau fel ysgol unigol yn unig. Bydd unrhyw gynnig a fydd yn ein barn Ni wedi cael ei wneud trwy gymryd rhan mewn syndicâd yn cael ei ddiarddel. Ni fydd cynigion ar ran person arall yn cael eu derbyn ac ni chaniateir cyd-gynigion.

7. Wrth wneud cais am Docynnau Ticketshare, rydych Chi yn ymrwymo i ddosbarthu Tocynnau i fyfyrwyr ac oedolion cysylltiedig mewn ffordd resymol, deg a thryloyw, yn unol â'r canllawiau Ticketshare [hyperlink] a ddarperir gennym Ni. Bwriedir i gynllun Ticketshare Llundain 2012 sicrhau bod plant a phobl ifanc rhwng 10-18 oed yn eich ysgol Chi yn derbyn Tocynnau Ticketshare. Byddwn yn caniatau i nifer rhesymol o oedolion cysylltiedig fynychu. Fodd bynnag, wrth wneud cais am Docynnau Ticketshare rydych Chi yn ymrwymo i sicrhau y bydd, fel blaenoriaeth, gymaint â phosibl o blant a phobl ifanc rhwng 10-18 oed yn eich ysgol Chi yn derbyn Tocynnau Ticketshare. Rydym yn cadw'r hawl i wirio hawl pob cais ac i ofyn am wybodaeth am bwy y caiff y Tocynnau eu dosbarthu iddynt, yn cynnwys enwau'r plant. Rydych yn cydnabod ymhellach mai Ni yw unig gyflenwr Tocynnau i'r Gemau a bod gennym yr hawl i benderfynu, yn ôl ein doethineb llwyr Ni, ar nifer y Tocynnau a dosbarthiad Tocynnau ar gyfer pob Sesiwn. Os ydym Ni, yn ôl ein doethineb llwyr Ni, yn ystyried nad yw Tocynnau Ticketshare yn cael eu rhoi i blant neu bobl ifanc rhwng 10-18 oed yn eich ysgol Chi, rydym yn cadw'r hawl i wrthod mynediad.
8. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am Ticketshare Llundain 2012 yw dydd Gwener 16 Rhagfyr 2011. Ni fydd ceisiadau a dderbynir ar ôl y dyddiad cau hwnnw yn cael eu hystyried.
Rhai rheolau eraill
9. Trwy wneud cais am Docynnau trwy Ticketshare rydych Chi yn cytuno i gymryd rhan neu i gydweithredu mewn nifer rhesymol o weithgareddau cyhoeddusrwydd neu hyrwyddo ac yn cytuno y gallwn Ni gyhoeddi enw eich ysgol Chi a'r cyfeiriad, ac unrhyw luniau, ffilmiau a/neu recordiadau a wneir gennym Ni neu ar ein rhan Ni fydd yn eich cynnwys Chi a'ch/neu'ch Cais Chi.
10. Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw geisiadau aiff ar goll, gaiff eu gohirio, eu camgyfeirio neu sy'n anghyflawn neu na ellir eu hanfon neu eu cynnwys am unrhyw resymau technegol neu fel arall. Nid yw prawf o anfon y cais at rwydwaith Bydd Barod yn brawf o'i dderbyn.
11. Cadwn yr hawl ar unrhyw adeg ac o dro i dro i addasu neu derfynu, dros dro neu'n barhaol, gynllun Ticketshare gyda neu heb rybudd ymlaen llaw o ganlyniad i resymau y tu hwnt i'n rheolaeth (yn cynnwys, heb gyfyngu, mewn achos o dwyll a ddisgwylir, a amheuir neu a ddigwydd). Mae ein penderfyniad ar bob mater dan ein rheolaeth yn derfynol ac yn rhwymedig.
12. Ni fyddwn Ni yn atebol am unrhyw fethiant i gydymffurfio â'i rwymedigaethau pan fo'r methiant wedi ei achosi gan rywbeth y tu hwnt i'n reolaeth rhesymol. Bydd amgylchiadau o'r fath yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, amodau tywydd, tân, llifogydd, corwynt, streic, anghydfod diwydiannol, rhyfel, gelyniaethau, aflonyddwch gwleidyddol, terfysg, cynnwrf sifil, damweiniau anochel, deddfwriaeth arddyfodedig neu unrhyw amgylchiadau eraill fyddai'n enghraifft o force majeure
13. Byddwn yn cadw'ch manylion personol Chi am amser rhesymol, fel y gallwn gynnal y cynllun Ticketshare a gwirio y cydymffurfiwyd â'r Telerau ac Amodau, yn ogystal ag at bwrpasau cyfrifo. Gall y byddwn yn trosglwyddo'ch manylion Chi i'n darparwyr gwasanaethau ac asiantau i hwyluso'ch cyfranogiad Chi yn Ticketshare. Bydd unrhyw ddata personol amdanoch Chi yn cael ei ddefnyddio ond yn unig yn unol â deddfwriaeth diogelu data cyfredol y DU ac yn unol â'n Polisi Preifatrwydd Tocynnu [hyperlink].
14. Bydd y rheolau yn cael ei rheoli dan gyfraith Lloegr. Rydych yn eich cyflwyno'ch hun yn ddi-droi'n-ôl i awdurdod egsglwsif llysoedd Cymru a Lloegr