• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Dosbarthu eich tocynnau i fyfyrwyr

Sut fyddwch chi'n penderfynu pa fyfyrwyr fydd yn cael eich tocynnau Ticketshare Llundain 2012? Parhewch i ddarllen ar rai syniadau...

O'ch dyraniad Ticketshare Llundain 2012, bydd angen i chi benderfynu'n bendant pwy fydd yn cael y tocynnau. Sut ydych am benderfynu?

Gan weithio gydag amrywiaeth o athrawon mae tîm Bydd Barod wedi dyfeisio canllawiau a syniadau i'ch helpu chi i siapio'ch cynlluniau dosbarthu Ticketchare Llundain 2012.

Cofiwch, mae'n rhaid i bob myfyriwr fydd yn derbyn tocyn fod rhwng 10 a 18 oed ar 31 Awst 2012.

Ein canllawiau

Yn unol ag amcanion trosfwaol Bydd Barod hoffem i'ch cynlluniau dosbarthu Ticketshare Llundain 2012:

  • Gydnabod a gwobrwyo myfyrwyr sy'n byw yn ôl y Gwerthoedd Olympaidd a/neu Baralympaidd.
  • Fod wedi cael eu dyfeisio gyda mewnbwn gan eich myfyrwyr
  • Roi cyfle i'r nifer mwyaf posibl o fyfyrwyr gael cyfle i ennill tocyn.

Cofiwch feddwl am yr holl fyfyrwyr, nid y rhai arferol yn unig - a oes gennych fyfyrwyr sydd mewn gofal fyddai'n gallu manteisio ar y cyfle hwn? Neu efallai bod rhai o'ch myfyrwyr yn ofalwyr ifanc eu hunain ac yn haeddu gwobr am eu hymroddiad.

Ar ôl hynny...chi a'ch myfyrwyr fydd yn gyfrifol am ddyfeisio'ch cynlluniau. Dyma rai syniadau i'ch cael i roi cychwyn arni:

Gweithio gyda myfyrwyr i gynllunio sut i ddosbarthu'ch tocynnau:

  • Gall aelodau o gyngor yr ysgol, areinwyr ifanc a llysgenhadon ifanc arwain o ran holi barn o gwmpas yr ysgol er mwyn i chi seilio'ch penderfyniadau ar y system ddosbarthu tocynnau decaf a mwyaf priodol. Ceisiwch gynnwys pob aelod o gymuned yr ysgol yn y gwaith ymchwil yn cynnwys athrawon, staff cefnogi, rhieni a llywodraethwyr.
  • Ceisiwch gymorth myfyrwyr hŷn er mwyn dweud wrth eraill yn yr ysgol neu'r gymuned leol ynglŷn â menter Ticketchare Llundain 2012 a gofyn am eu syniadau a'u barn.
  • Gofynnwch i arweinwyr ifanc roi cyflwyniad i'r ysgol neu grŵp blwyddyn ynglŷn â'r syniadau a'r safbwyntiau y maent wedi eu derbyn.

Cysylltu'r dosbarthu tocynnau â mentrau presennol yr ysgol/coleg:

  • Cynhwyswch elfen o Ticketshare Llundain 2012 mewn gweithgareddau, rhaglenni a/neu ddigwyddiadau Llundain 2012 arbennig yr ydych eisoes wedi eu cynllunio. Er enghraifft, fel rhan o AG, neu raglenni iechyd a datblygiad personol, gallai myfyrwyr osod targed newydd i'w hunain - neu ymgymryd â her newydd - a dangos dros gyfnod o amser parhaol eu bod yn gweithio'n benderfynol i gyrraedd y nod hwnnw.
  • Gweithiwch gyda myfyrwyr i ychwanegu dimensiwn Ticketshare i'ch cyfranogiad yn un o raglenni Bydd Barod+, a gynhelir gan ein partneriaid. Er enghraifft, gweithio gydag amcanion ffyrdd o fyw'n iach ac egnïol Small Steps For Life neu sefydlu cyfeillgarwch a chyfnewid syniadau gydag ysgol-bartner ryngwladol.

Cyflwyno mentrau newydd:

  • Cyflwynwch 'basport' Ticketshare Llundain 2012. Bydd myfyrwyr yn derbyn stamp neu lofnod i gofnodi eu bod wedi dangos ymrwymiad i'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd. Bydd y sgoriau yn cael eu cyfrif dros gyfnod penodol o amser a gall y prif sgorwyr gael eu rhoi ar restr fer neu eu henwau yn cael eu rhoi mewn het.
  • Sefydlwch 'Gyfrifydd Gwerthoedd'. Dychmygwch fusurydd fel y gwelwch yn aml mewn cymunedau sy'n codi arian tuag adnodd newydd megis pwll nofio neu do newydd i'r eglwys. Gallech gael cyfrifydd Gwerthoedd yn yr ysgol fydd yn annog pob disgybl i gael eu cydnabod am eu cyfraniad e.e. bod yn ffrind gwych i rywun, ysbrydoli eu cyfoedion i roi cynnig ar rywbeth newydd neu ddangos dewrder etc. Sicrhewch eich bod yn gosod y cyfrifydd Ticketshare Llundain 2012 mewn man amlwg yn yr ysgol/coleg a chofnodi enwau unigol o dan pob un o'r tri Gwerth Olympaidd a'r pedwar Gwerth Paralympaidd. Bob tro y bydd myfyriwr unigol yn dangos ymrwymiad i Werth bydd ei enw yn dringo'r ystol. Gallech hyd yn oed fynd â'ch cyfrifydd Ticketshare Llundain 2012 allan i'r gymuned? Efallai y gallai'r llyfrgell leol neu neuadd y dre ei arddangos, a gallai'r papur lleol ysgrifennu erthygl amdano.
  • Her grŵp blwyddyn Ticketshare Llundain 2012! Rhowch un Gwerth penodol i bob dosbarth neu grŵp tiwtor ganolbwyntio arno am aser penodol. Rhowch dystysgrifau Gwerthoedd i unigolion neu i ddosbarth cyfan am eu hymrwymiad i'r Gwerth a rhowch eu henwau ar restr fer o enillwyr tocynnau Ticketshare Llundain 2012 posibl

Integreiddio Ticketshare Llundain 2012 ar draws y cwricwlwm.

  • Ysgrifennwch neu cyflwynwch ddadl gref ynglŷn â'r system decaf ar gyfer penderfynu sut y dylai tocynnau gael eu rhoi i grwpiau o bobl neu i unigolion.
  • Dyluniwch boster neu daflen yn gwahodd myfyrwyr i fynegi eu barn ynglŷn â sut y dylid rhannu'r tocynnau.
  • Trefnwch gystadleuaeth Ticketshare Llundain 2012 ar gyfer yr ysgol/coleg cyfan i bawb gael y cyfle i ennill tocynnau Ticketshare Llundain 2012 e.e. dyluniwch logo i gynrychioli un o'r Gwerthoedd a gofyn i lywodraethwr neu fusnes lleol fod yn feirniad, neu cynhaliwch drafodaeth gyda myfyrwyr yn cyflwyno dadleuon o blaid ac yn erbyn y cynnig canlynol:

'Rydym yn credu mai'r ffordd decaf o rannu tocynnau Tocketshare i fyfyrwyr yn yr ysgol hon fyddai rhoi enw pawb mewn het.'

  • Gofynnwch i bartner-ysgol, naill ai yn y DU neu dramor, am eu barn ar sut y dylid rhannu tocynnau Ticketshare Llundain 2012 yn deg. Efallai bod ganddynt brofiad i'w rannu gyda chi.