Darllenwch gwestiynnau cyffredin ac atebion ynglŷn â Ticketshare Llundain 2012.
Beth yw menter Ticketshare Llundain 2012?
Mae'n fenter gyffrous fydd yn dosbarthu tocynnau i'r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd i filoedd o bobl na fyddai fel arall yn gallu cael mynediad i'r Gemau. Ariennir y tocynnau drwy dreth ar becynnau lletygarwch Tocynnau Prestige Llundain 2012 drwy raglen Tocynnau Prestige. Y bobl a'r grwpiau fydd yn gymwys i dderbyn tocynnau yw: plant a phobl ifanc o Lundain ac ar hyd a lled y DU y mae eu hysgolion/colegau wedi gwneud cais i ymuno â rhwydwaith Bydd Barod cyn 16 Rhagfyr 2011, aelodau o'r fyddin a'u teuluoedd trwy Tickets for Troops, Cymdeithas Olympaidd Prydain, Cymdeithas Baralympaidd Prydain a Sport England. Mae cynllun Ticketshare yn ddibynol ar lwyddiant gwerthiant y tocynnau Prestige.
Faint o docynnau Ticketshare Llundain 2012 sydd ar gael?
Bydd hyd at 100,000 o docynnau Ticketshare Llundain 2012 yn cael eu dosbarthu i blant a phobl ifanc mewn ysgolion a cholegau ar hyd a lled y DU drwy raglen addysg Llundain 2012, Bydd Barod. Bydd 50,000 o'r tocynnau hyn yn mynd i ysgolion a cholegau yn Llundain, a bydd 50,000 yn mynd i ysgolion a cholegau yng ngweddill y DU.
Mewn partneriaeth â Phwyllgor Trefnu Llundain 2012, bydd Maer Llundain yn rhoi hyd at 75,000 o docynnau ychwanegol i Lundeinwyr ifanc, a bydd y rhain yn cael eu dosbarthu trwy rwydwaith Bydd Barod hefyd.
Bydd 25,000 o docynnau Ticketshare Llundain 2012 ychwanegol yn cael eu dosbarthu gan Gymdeithas Olympaidd Prydain, Cymdeithas Baralympaidd Prydain, Sport England a Tickets for Troops.
Pwy sy'n gymwys i dderbyn tocynnau Ticketshare Llundain 2012?
Gall unrhyw ysgol/coleg gyda myfyrwyr rhwng 10-18 oed a gyflwynodd gais i rwydwaith Bydd Barod cyn 16 Rhagfyr 2011 fod yn gymwys i dderbyn dyraniad o docynnau Ticketshare Llundain 2012 yn cynnwys: ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd, ysgolion canol, ysgolion arbennig, colegau AB, unedau cyfeirio disgyblion, ysgolion ysbyty, ysgolion annibynnol a cholegau 6ed dosbarth.
Sut mae ysgol yn cymhwyso i dderbyn dyraniad o docynnau Ticketshare Llundain 2012?
I sicrhau dyraniad o docynnau, mae'n rhaid i ysgol/coleg fod wedi dangos ymrwymiad i'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd a Gemau Llundain 2012 trwy ymuno â rhwydwaith Bydd Barod cyn 16 Rhagfyr 2011.
Ar gyfer pa gampau fydd y tocynnau?
Bydd rhaglen Ticketshare Llundain yn gofalu y bydd tocynnau ar gyfer sesiynnau pob un o'r 26 camp Olympaidd a'r 20 camp Paralympaidd.
A allwn ddewis y chwaraeon y byddwn yn eu mynychu?
Bydd holl docynnau Ticketshare Llundain 2012 yn cael eu dyranu i ysgolion/colegau gan ddefnyddio proses ddethol awtomatig ar hap. Bydd hyn yn sicrhau bod y broses docynnu yn deg a chyfiawn.
Pryd fyddwn yn cael gwybod pa docynnau fyddwn yn eu derbyn?
Byddwn yn cadarnhau nifer y tocynnau fydd eich ysgol/coleg yn eu derbyn ym mis Ionawr 2012. Byddwch yn cael rhagor o wybodaeth am eich dyraniad o docynnau, yn cynnwys y chwaraeon, lleoliad ac amser y sesiwn ym mis Mawrth 2012.
Ym mis Mawrth 2012 byddwn hefyd yn rhoi gwybodaeth ychwanegol i'ch helpu i gynllunio'ch taith i'r Gemau yn cynnwys arweiniad ar beth i ddo gyda chi ar y diwrnod, sut i gynllunio'ch taith a ble i ganfod mwy o wybodaeth ar y gamp y byddwch yn ei gwylio.
A allwn gyfnewid, dychwelyd neu werthu'r tocynnau fyddwn yn eu derbyn?
Gwaherddir yn bendant gwerthu tocynnau Ticketshare Llundain 2012. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael ym mis Ionawr 2012 am p'un a allwch gyfnewid neu ddychwelyd eich tocynnau.
Mae fy ysgol/coleg yn Llundain, faint o docynnau fyddwn yn eu derbyn? A fydd pob ysgol a choleg yn cael yr un nifer o docynnau?
Bydd ysgolion a cholegau yn Llundain yn derbyn tocynnau ar gyfer 1 o bob 8 o'u myfyrwyr rhwng 10 a 18 oed, yn ogystal â dyraniad o docynnau ar gyfer oedolion cysylltiedig.
Mae fy ysgol/coleg y tu allan i Llundain, faint o docynnau fyddwn yn eu derbyn? A fydd pob ysgol a choleg yn cael yr un nifer o docynnau?
Ar hyn o bryd nid ydym yn gallu dweud faint yn union o docynnau fydd yn mynd i bob ysgol neu goleg y tu allan i Lundain, ond fel esiampl dangosol, gall ysgol uwchradd ddisgwyl derbyn chwe thocyn, yn cynnwys un tocyn ar gyfer oedolyn cysylltiedig.
Pwy fydd yn talu am gostau teithio i'r Gemau?
Ni fydd ysgolion a cholegau yn gorfod talu am y tocynnau, ond bydd angen iddynt dalu am gostau teithio i ac o'r lleoliadau. Bydd tocynnau i leoliadau yn Llundain yn cynnwys Cerdyn Teithio'r Gemau. Bydd Tocyn Teithio'r Gemau yn rhoi hawl i chi deithio ym mharthau 1-9 ar rwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus Llundain trwy gydol diwrnod eich cystadleuaeth.
A fydd yr holl docynnau a dderbyniwn ar gyfer yr un gamp, lleoliad ac amser sesiwn? A fydd pawb o'n hysgol yn eistedd gyda'i gilydd?
Os yw eich ysgol y tu allan i Lundain, bydd eich holl docynnau ar gyfer yr un gamp, lleoliad a'r un sesiwn. Byddwch i gyd yn eistedd gyda'ch gilydd.
Os yw eich ysgol yn Llundain, gall y byddwch yn cael tocynnau ar gyfer amywiaeth o wahanol chwaraeon, lleoliadau a sesiynnau. Bydd myfyrwyr a'r oedolion cysylltiedig yn eistedd gyda'i gilydd.
A oes yna drefniadau arbennig petawn eisiau rhoi ein tocynnau i fyfyrwyr anabl?
Bydd trefniadau arbennig yn cael eu cynnig i ysgolion fydd yn dod â disgyblion ag anghenion hygyrchedd. Bydd mwy o wybodaeth ar gael o fis Mawrth 2012.
 phwy allaf gysylltu os oes gennyf ymholiad ynglŷn â Ticketshare 2012 a/neu rhwydwaith Bydd Barod?
Mae tîm Bydd Barod ar gael i ateb unrhyw gwestiynau a fo gennych. E-bostiwch education@london2012.com neu ffoniwch 01634 729877, 9am - 5pm, Llun-Gwener
A allwn brynu tocynnau Gemau Llundain 2012 ychwanegol ar gyfer myfyrwyr eraill?
Gallwch, wrth gwrs! Ewch i wefan Llundain 2012 am fwy o wybodaeth (www.london2012.com/tickets)
Ni allwn warantu y bydd myfyrwyr fydd yn defnyddio tocynnau y talwyd amdanynt yn cael eistedd gyda myfyrwyr fydd yn defnyddio tocynnau Ticketshare Llundain 2012.
Rwyf eisoes wedi gwneud cais am docynnau i Gemau Olympaidd Llundain 2012 i fy myfyrwyr, a fydd cyfranogi ym menter Ticketshare Llundain 2012 yn effeithio ar fy nghais?
Na fydd. Ni fydd cyfranogiad eich ysgol/coleg ym menter Ticketshare Llundain 2012 yn effeithio ar eich cais am docynnau i'r Gemau Olympaidd.
Mae ein ysgol/coleg wedi ei lleoli ymhell o'r lleoliadau, a fydd llety yn cael ei ddarparu?
Bydd ysgolion/colegau yn gyfrifol am gludo myfyrwyr ac oedolion cysylltiedig i ac o'r lleoliadau; ni fydd llety yn cael ei ddarparu.
A all pob myfyriwr yn ein ysgol/coleg ddefnyddio un o'r tocynnau?
Mae'n rhaid i bob myfyriwr fydd yn derbyn tocyn fod rhwng 10 a 18 oed ar 31 Awst 2012.
Pa fyfyrwyr yn ein hysgol fydd yn cael defnyddio'r tocynnau?
Bydd pob ysgol/coleg yn penderfynu sut i ddosbarthu eu tocynnau i fyfyrwyr. Mae Pwyllgor Trefnu Llundain 2012 wedi cyhoeddi rhai canllawiau i'ch helpu gyda hyn.
Mae'n rhaid i bob myfyriwr fydd yn derbyn tocyn fod rhwng 10 a 18 oed ar 31 Awst 2012.
Gall myfyrwyr dderbyn tocyn Ticketshare Llundain 2012 gan un o'n sefydliadau rhanddeiliaid/partner. Pe digwydd hyn, ni fydd ganddynt hawl i dderbyn ail docyn gan eu hysgol/coleg.













