• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Cyfle i ennill taith o gwmpas Parc Olympaidd!

Argraff arlunydd o du mewn i Stadiwm Olympaidd Llundain 2012

Ymunwch â rhwydwaith Bydd Barod ac fe allech ennill taith o gwmpas y Parc Olympaidd!

Pob wythnos, bydd enwau pob ysgol a choleg sy'n rhan o rwydwaith Bydd Barod yn cael eu rhoi mewn raffl fawr i ennill taith o gwmpas y Parc Olympaidd!*

Bydd y daith yn rhoi cyfle i chi weld â'ch llygaid eich hun y gwaith sy'n mynd yn ei flaen yn Mharc Olympaidd Llundain, lle caiff y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd eu cynnal yn 2012. Cewch weld y prif leoliadau megis y Stadiwm Olympaidd a'r Ganolfan Chwaraeon Dŵr, a dysgu am y rhaglenni amgylcheddol a chymunedol gaiff eu cynnal yn y Parc Olympaidd.

Sut i gystadlu

Y cyfan sydd raid i chi ei wneud yw dod yn aelod o rwydwaith Bydd Barod. Cyflwynwch eich cais nawr!
Os ydych eisoes yn aelod o rwydwaith Bydd Barod, yna mae eich enw'n cael ei roi yn awtomatig i'r raffl fawr.

Ambell beth y dylech ei wybod

  • Mae teithiau yn gadael o ac yn dychwelyd i Pudding Mill Lane Station, Llundain
  • Arweinir y teithiau gan yr Olympic Delivery Authority ac maent yn para am awr
  • Rhaid i fyfyrwyr fod yn 8 oed o leiaf

Lawrlwythwch fap o'r Parc Olympaidd.
Map o'r Parc Olympaidd - 339.40kb

Lawrlwythwch daflen gweithgaredd y gallech ei defnyddio yn ystod eich ymweliad.
Bydd Barod i wneud diwrnod ohoni! - 1613.96kb

*Telerau ac amodau yn berthnasol