• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Buddion eraill

Dewch i weld beth sydd gan athrawon a myfyrwyr i'w ddweud am fod yn rhan o rwydwaith Bydd Barod.

Yn ogystal â'r holl wobrau a chyfleon egsglwsif y gallwch eu cael drwy fod yn rhan o rwydwaith Bydd Barod, mae athrawon yn nodi'r tri rheswm canlynol fel y prif fuddion.

  • Teimlo'n rhan o'r Gemau
  • Mae'n rhoi cyfle i ddefnyddio'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd i gefnogi ethos yr ysgol gyfan
  • Mae'r rhaglen yn darparu cyfle gwych i ysgogi diddordeb disgyblion ac athrawon mewn cyfle unwaith-mewn-oes.

Dyma beth sydd gan athrawon i'w ddweud am fod yn rhan o rwydwaith Bydd Barod.

"Mae wedi bod yn wirioneddol wych! Mae myfyrwyr a staff yn ein hysgol eisoes wedi ennill llawer o fod yn rhan o rwydwaith Bydd Barod." (Athro)

"Mae pawb yn ei gefnogi, mae'r ysbryd wedi newid. Mae hyd yn oed yr athrawon a'r plant mwyaf cyndyn yn cael gwefr o'r hyn sy'n digwydd" (Athro)

Roedd y canlyniadau hyn yn rhan o ymchwil annibynnol a gynhaliwyd yn ystod Mai 2010 a Gorffennaf 2010 oedd yn cynnwys ymchwil ansoddol a meintiol. Dewch i ddarganfod mwy.