Mae yna lwythi o resymau da dros fod yn aelod o rwydwaith Bydd Barod!
Yn ogystal â chreu cyfleon i blant a phobl ifanc gymryd rhan yng nghyffro Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012, mae aelodau rhwydwaith Bydd Barod yn cael mynediad at wobrau a chyfleon egsglwsif.
Gwyliwch y ffilm hon a dysgu mwy.
Logo addysg Llundain 2012
Mae aelodau'r rhwydwaith yn cael yr hawl i ddefnyddio Logo Addysg Llundain 2012 ar:
- arwydd eu hysgol/coleg
- papur pennawd
- gwefan
- cylchlythyr
HEFYD maent yn cael plac a thystysgrif
Cyfleoedd egsglwsif
Mae aelodau'r rhwydwaith hefyd yn cael mynediad i gyfleoedd egsglwsif - cânt y cynnig cyntaf i dderbyn yr holl bethau gwych sydd gan Lundain 2012 i'w gynnig i blant a phobl ifanc.
Mae rhai aelodau o rwydwaith Bydd Barod wedi:
- Cyfarfod ag Archesgob Desmond Tutu!
- Bod ar deithiau o gwmpas y Parc Olympaidd
- Cael ymweliadau gan Olympiaid a Pharalympiaid
- Cael cyfle i gymryd rhan mewn peilota mentrau newydd sbon Llundain 2012
- Cael cymryd rhan mewn rafflau mawr i ennill nwyddau megis camerâu digidol!
Trwy ymuno â rhwydwaith Bydd Barod rydych hefyd yn rhag-gymhwyso eich ysgol neu goleg i ddyraniad o docynnau Ticketshare Llundain 2012 i Gemau Llundain 2012!













