Darllenwch enghraifft o gais i ymuno â rhwydwaith Bydd Barod gan ysgol ysbyty.
Mewn dim mwy na 200 o eiriau dywedwch wrthym pam yr hoffech ymuno â rhwydwaith Bydd Barod.
Fel ysgol ysbyty mae'n fraint i ni gael gweithio gyda phlant a phobl ifanc o bedwar ban byd. Nid yw'n dalgylch wedi ei bennu gan ffiniau awdurdod lleol ond gan enw da, sgil ac arbenigedd y llawfeddygon, meddygon a'r nyrsus sy'n gweithio i'r Ymddiriedolaeth. Fel ysgol rydym eisiau gallu manteisio ar gyfoeth ac amrywiaeth Gemau Olympaidd 2012 fel y gallwn greu atgofion parhaol a chyfleoedd ar gyfer ein disgyblion, cleifion a theuluoedd. Mae hwn yn gyfle unwaith mewn oes na ellir ei golli!
Mewn dim mwy na 200 o eiriau crynhowch beth yr ydych chi a'ch myfyrwyr wedi ei wneud/yn ei wneud i ddangos ymrwymiad i un neu ragor o'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd,
Rydym eisoes yn gweithio'n agos gyda sefydliadau chwaraeon ac yn wythnosol rydym yn cymryd rhan mewn gemau cynhwysol ac AG sy'n addas ar gyfer amgylchedd ysbyty. Mae pob plentyn rhwng 5 a 18+ oed yn cael eu cynnwys beth bynnag fo'r angen. Mae rhai myfyrwyr yn cymryd rhan yn ystafelloedd yr ysgol, ar y wardiau, ac eraill drwy gysylltiad fideo o'u gwelyau. I nifer i blant ac afiechydon cronig dyma'r tro cyntaf iddynt lwyddo i gymryd rhan mewn gemau ac AG. Mae ein hyfforddwyr chwaraeon yn ymgorffori'r Gwerthoedd Olympaidd o ran cyfeillgarwch, parch a rhagoriaeth wrth gynnal diddordeb a sbarduno plant a phobl ifanc gydag afiechydon cronig. Nid yw eu rhagoriaeth, cyfeillgarwch na'u parch yn pylu ac maent yn gyson yn cynnal gwerthoedd craidd y Mudiad Olympaidd ac ar yr un pryd yn sylwgar bob amser i anghenion y plentyn a'r teulu. Maent wedi cychwyn gwau dylanwadau o'r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd i'w sesiynau hyfforddi.
Mewn dim mwy na 200 o eiriau, dywedwch wrthym pa gynlluniau sydd gennych i barhau â'r gwaith hwn yn y dyfodol.
Mae'n ein sesiynau gemau wythnosol holl gynhwysfawr ar gyfer rhai 5-18+ oed bellach wedi cael eu gosod yn gadarn yng nghwricwlwm ac amserlen yr Ysgol. Yn ddiweddar rydym wedi cychwyn defnyddio consolau gemau ar-lein fel y gall plant sydd wedi eu hynysu ymuno â'r hwyl o'u cuddyglau cyfforddus eu hunain. Rydym hefyd yn gweithio â nifer o sefydliadau i sicrhau bod y gemau hyn yn hygyrch i blant a phobl ifanc sy'n dioddef o ystod o afiechydon ac anableddau. Mae ein sesiynau AG a chwaraeon wedi bod mor llwyddiannus fel bod ysgolion ysbytai eraill erbyn hyn yn datblygu eu digwyddiadau Gemau eu hunain. Rydym yn gobeithio ymestyn yr agwedd hon o'r cwricwlwm trwy ddarparu Datblygiad Proffisiynol Parhaus a hyfforddiant i ysgolion eraill sydd â diddordeb. Rydym hefyd yn bwriadu cynnal mwy o ddigwyddiadau rhyngwladol sy'n canolbwyntio ar Lundain 2012.













