Darllenwch enghraifft o gais i ymuno â rhwydwaith Bydd Barod a gyflwynwyd gan ysgol uwchradd.
Mewn dim mwy na 200 o eiriau dywedwch wrthym pam yr hoffech ymuno â rhwydwaith Bydd Barod.
Gyda Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain 2012 yn prysur agosau a rhai myfyrwyr heb syniad o anferthedd y digwyddiad, mae'n amser gweithredu! Buasem yn hoffi ymuno â rhwydwaith Bydd Barod fel y gallwn gael mynediad i adnoddau am ddim a diweddariadau. Buasem yn hoffi defnyddio Bydd Barod i hyrwyddo'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd ymysg ein myfyrwyr ac ennill cydnabyddiaeth am y gwaith positif yr ydym yn ei wneud mewn perthynas â Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012.
Rydym wedi sefydlu ein Pwyllgor Olympaidd a Pharalympaidd ein hunain er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn yr ysgol a'r gymuned ehangach. Aeth y pwyllgor myfyrwyr i Gynhadledd Olympaidd Ymddiriedolaeth Ysgolion Arbennig ac Academiau a chael eu hysbrydoli i ledaenu'r gair.
Mewn dim mwy na 200 o eiriau crynhowch beth yr ydych chi a'ch myfyrwyr wedi ei wneud/yn ei wneud i ddangos ymrwymiad i un neu ragor o'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd,
Mae Llysgenhadon Ifanc wedi arwain gwasanaethau ar gyfer myfyrwyr iau yn seiliedig ar y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd gan ddefnyddio fideo hyrwyddo ac adnoddau Llundain 2012 ar wefan Bydd Barod. Mae'r Llysgenhadon Ifanc hefyd wedi gweithio gyda disgyblion mewn ysgolion cynradd sy'n bartneriaid i greu baner Gwerthoedd a Llw Olympaidd i'w defnyddio mewn gŵyl Gemau bach Blwyddyn 4.
Sefydlwyd cyswllt ag ysgol yn Vancouver cyn Gemau'r Gaeaf yn 2010 i alluogi'r myfyrwyr i wneud ffrindiau newydd! Hefyd cafodd ein myfyrwyr ofyn cwestiynau i athletwyr Paralympaidd wrth wylio darllediad gwe byw o Ganada.
Fel rhan o wythnos amrywiaeth yn yr ysgol, bu'r myfyrwyr yn meddwl am y Gwerthoedd yn ystod eu gwersi AG a chreu posteri yn seiliedig arnynt. Dewisodd yr adran AG y posteri buddugol i'w defnyddio fel sail i arddangosfa drawiadol yn amlinellu'r Gwerthoedd.
Rydym hefyd wedi cynnal gweithdai thematig yn canolbwyntio ar fenter Llundain 2012. Mae myfyrwyr wedi bod yn dysgu am gynllunio cynnyrch a hysbysebu yng nghyd-destun Llundain 2012.
Mewn dim mwy na 200 o eiriau, dywedwch wrthym pa gynlluniau sydd gennych i barhau â'r gwaith hwn yn y dyfodol.
Rydym yn benderfynol o gynnal y momentwm hyd at Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012. Rydym yn bwriadu cynnal gweithgareddau dinasyddiaeth cyffrous yn gysylltiedig â'r Gemau. Rydym yn edrych ymlaen at gynnal Wythnos Ffocws Menter arall ar thema Olympaidd, gan obeithio y bydd myfyrwyr yn cael blas ar 'Haint Olympaidd' yn ystod yr wythnos honno hyd yn oed os nad ydynt wedi cael hynny cyn hynny! Hoffem gynyddu diddordeb a chyfranogiad mewn chwaraeon yn cynnwys mwy o themau Olympaidd a Pharalympaidd mewn gwersi AG. Byddwn hefyd yn gweithio gydag phartner-ysgol i greu bwrdd arddangos ar Gemau Llundain 2012.













