Darllenwch enghraifft o gais i ymuno â rhwydwaith Bydd Barod gan ysgol gynradd.
Mewn dim mwy na 200 o eiriau dywedwch wrthym pam yr hoffech ymuno â rhwydwaith Bydd Barod.
Hoffem ymuno â rhwydwaith Bydd Barod fel y gallwn godi ymwybyddiaeth y plant o Lundain 2012, gan godi eu brwdfrydedd am y digwyddiad hanesyddol hwn. Buasem yn hoffi canolbwyntio ar y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd ac athletwyr presennol er mwyn sbarduno'r myfyrwyr ymhellach i fod y gorau y gallant fod. Bydd hefyd yn creu cyfleoedd i annog plant a'u teuluoedd i gyfranogi mewn ystod ehangach o chwaraeon yn fwy rheolaidd.
Buasem yn hoffi defnyddio rhwydwaith Bydd Barod i rannu adnoddau a syniadau gydag ysgolion eraill ac ennill cefnogaeth i gydlynu prosiect Ewropeaidd uchelgeisiol yn seiliedig ar y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd. Rydym yn gobeithio cyrraedd lefel o gydlyniad byd-eang trwy ein gweithgareddau Olympaidd a Pharalympaidd.
Mewn dim mwy na 200 o eiriau crynhowch beth yr ydych chi a'ch myfyrwyr wedi ei wneud/yn ei wneud i ddangos ymrwymiad i un neu ragor o'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd,
Rydym wedi defnyddio gwasanaeth ar wefan Bydd Barod er mwyn cyflwyno'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd i'n myfyrwyr. Rydym yn gwobrwyo myfyrwyr gyda medalau aur am fyw yn ôl y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd. Mae rhai o'n myfyrwyr wedi cael eu hysbrydoli gan Usain Bolt, felly maent wedi creu ymgyrch hysbysebu i hyrwyddo rhedeg fel rhan o ffordd o fyw yn iach ac egniol. Bu un grŵp o fyfyrwyr yn ddigon ffodus o gael mynd i'r Cwpan y Byd Paralympaidd. Gyda nifer cyfyngedig o docynnau ar gael ar gyfer yr ymweliad, bu'n rhaid i'r plant ddefnyddio eu sgiliau ysgrifennu perswadiol gorau, gan egluro pam eu bod yn haeddu mynd a pha rai o'r Gwerthoedd maent wedi eu harddangos.
Rydym hyd yn oed wedi cael cyfle i gyflwyno'r gwaith yr ydym wedi bod yn ei wneud fel rhan o Bydd Barod i Seb Coe ynghyd ag ysgolion eraill yn Bradford sy'n aelodau o rwydwaith Bydd Barod. Mae rhai o'n myfyrwyr hyd yn oed wedi cystadlu mewn digwyddiad athletaidd ac enillydd medal aur go iawn yn gwylio!
Mewn dim mwy na 200 o eiriau, dywedwch wrthym pa gynlluniau sydd gennych i barhau â'r gwaith hwn yn y dyfodol.
Mae gennym gyngor ysgol ffyniannus dan arweiniad y disgyblion sy'n cynnwys cynrychiolwyr o bob dosbarth. Mae'r cyngor yn cyfarfod yn wythnosol, ac er bod y Pennaeth yn ei fynychu caiff ei redeg gan y disgyblion er gyfer y disgyblion. Bydd cyngor yr ysgol yn gerbyd gwych ar gyfer cynllunio, gwerthuso a lledaenu'n holl weithgareddau sydd wedi eu hysbrydoli gan Lundain 2012. Mae'r cyngor ysgol yn awyddus iawn i sefydlu cyfeillgarwch gydag ysgol sy'n agos i'r Parc Olympaidd. Maent wedi dweud 'Buasem yn hoffi ysgrifennu llythyrau ac e-bostiau ac anfon lluniau atynt o'r holl bethau yr ydym yn eu gwneud yma yng Nghernyw. Buasem wrth ein bodd petaent yn dod i ymweld â'n hysgol, a buasem yn mynd i Lundain i ymweld â hwy'.
Rydym yn cynllunio i greu dawns yn seiliedig ar y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd ac rydym yn edrych ymlaen at ymchwilio i rai o'r gwledydd fydd yn cystadlu yn Llundain 2012 er mwyn datblygu ymhellach y ffordd agored a chynhwyol y mae'n disgyblion yn edrych ar fywyd.













