• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Ysgol feithrin

Darllenwch enghraifft o gais i ymuno â rhwydwaith Bydd Barod gan ysgol feithrin.

Mewn dim mwy na 200 o eiriau dywedwch wrthym pam yr hoffech ymuno â rhwydwaith Bydd Barod.

Hoffem ymuno â rhwydwaith Bydd Barod fel y gallwn gyfoethogi a chryfhau ethos yr ysgol ymhellach trwy serio'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd. Byddwn yn defnyddio'r Gwerthoedd i ysbrydoli a sbarduno'n disgyblion wrth i Lundain 2012 agosau.
Eisoes mae gan yr ysgol ddiwylliant chwaraeon positif, ac mae hi wedi ennill gwobrau am ddarparu 120 munud o amser cwricwlwm AG bob wythnos a defnyddio amser ar wahan i amser dysgu i helpu plant i ddeall eu cyrff ac i fod yn egniol, gyda disgyblion yn cael cyfle i fod yn rhan o ystod eang o glybiau chwaraeon a ffyrdd o fyw all-gwricwlaidd er mwyn eu hysbrydoli i ddewis ffyrdd o fyw iach. Rydym yn credu y bydd Bydd Barod yn ein helpu i adeiladu ar y seiliau cadarn hyn er mwyn hyrwyddo'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd a chael plant nad ydynt efallai wedi cymryd rhan mewn clybiau neu grwpiau i gymryd rhan. Rydym eisoes wedi dechrau targedu'r plant yma a serio'r Gwerthoedd trwy ein clybiau chwaraeon a'n grwpiau hunan-les amser cinio.

Mewn dim mwy na 200 o eiriau crynhowch beth yr ydych chi a'ch myfyrwyr wedi ei wneud/yn ei wneud i ddangos ymrwymiad i un neu ragor o'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd,

Cychwynwyd ar ein prosiect trwy ddyfeisio cynllun i helpu hyrwyddo'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd yn yr ysgol, a rhannu'r cynlluniau yma gyda'r myfyrwyr. Mae'r myfyrwyr wedi eu cyffroi gymaint fel eu bod wedi cyfrannu ato ac wedi siapio'r gweithgareddau sy'n cael eu cyflwyno.
Rydym eisoes wedi cynnal 'Wythnos Olympaidd' gan ddefnyddio'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd mewn ystod o ddosbarthiadau fel ffordd o annog cyfranogiad plant. Rydym wedi creu arddangosfa i atgoffa'r plant beth yw ystyr y Gwerthoedd ac rydym yn rhoi tystysgrifau i fyfyrwyr sy'n byw yn ôl o leiaf un o'r Gwerthoedd Olympaidd neu Baralympaidd.
Mae myfyrwyr wedi bod yn defnyddio'r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd fel ysbrydoliaeth yn ystod gwersi celf a drama gan ganolbwyntio ar bwnc 'bywyd fel athletwr'.

Mewn dim mwy na 200 o eiriau, dywedwch wrthym pa gynlluniau sydd gennych i barhau â'r gwaith hwn yn y dyfodol.

Rydym am gyflwyno cynllun gwobrwyo a chydnabod yn seiliedig ar y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd. Bydd pob wythnos yn canolbwyntio ar Werth gwahanol gan ddechrau gyda'r Gwerth Olympaidd, Cyfeillgarwch. Rydym yn bwriadu cynnal ein ras gyfnewid tortsh fach ein hunain a chynnal wythnos arall ar thema Olympaidd a Pharalympaidd yn dilyn hyn. Byddwn yn edrych ar hanes y Gemau Olympaidd, arwyr chwaraeon, masgotiaid a heriau chwaraeon.
Rydym ar hyn o bryd yn cynnal diwrnodau diwylliannol, ond wrth i'r Gemau agosau byddwn yn canolbwyntio ar wledydd sy'n cymryd rhan yn Llundain 2012. Byddwn yn canolbwyntio ar yr arwyddair '5 cylch, 1 byd'.
Bydd i'n Gwyliau Teuluol, yn cynnwys chwaraeon a dawns, thema Olympaidd wrth i ni agosau at 2012 ac rydym yn cynllunio Gemau Bychain yng Ngorffennaf 2012. Bydd yna ffocws ar ddisgyblion yn llwyddo i gyrraedd eu gorau glas. Rydym yn bwriadu creu cerflun yng ngardd yr ysgol fel gwaddol barhaol.