• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Cynghorion gorau ar gyfer ymaelodi

Yma gallwch ganfod beth sydd angen i chi ei wneud i gyflwyno cais a beth mae tîm Bydd Barod yn chwilio amdano

Cyflwyno cais i rwydwaith Bydd Barod

Mae ffurflen gais rhwydwaith Bydd Barod yn fyr ac yn hawdd i'w llenwi. Dim ond tri chwestiwn sydd raid i chi ei ateb:

  1. Mewn dim mwy na 200 o eiriau, dywedwch wrthym pam y bu i chi ddechrau ymwneud â Bydd Barod
  2. Mewn dim mwy na 200 o eiriau crynhowch beth yr ydych chi a'ch myfyrwyr wedi ei wneud/yn ei wneud i ddangos ymrwymiad i'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd,
  3. Mewn dim mwy na 200 o eiriau, dywedwch wrthym pa gynlluniau sydd gennych i barhau â'r gwaith hwn yn y dyfodol.

Beth sy'n gwneud cais llwyddiannus?

Mae tîm Bydd Barod yn chwilio am geisiadau sy'n dangos tri pheth:

  1. Sut ydych yn defnyddio'r Gemau i ychwanegu gwerth i fywyd yr ysgol/coleg
  2. Ymrwymiad i'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd
  3. Lefelau uchel o gyfranogiad dysgwyr yn natblygiad a chyflawni eich mentrau a phrosiectau sy'n seiliedig ar y Gwerthoeddd.

Darllenwch enghreifftiau o geisiadau i rwydwaith Bydd Barod

Ysgol feithrin
Ysgol gynradd
Ysgol uwchradd
Ysgol ysbyty
Ysgol arbennig

Lawrlwythwch becyn rhwydwaith Bydd Barod

Defnyddiwch y cyflwyniad hwn i arwain eich cais i ymuno â rhwydwaith Bydd Barod neu ei ddefnyddio i annog eraill i gyflwyno cais ar ran eu hysgol neu goleg.

Pecyn - Meithrin a Babannod - 1291.00kb
Pecyn - Cynradd - 1401.50kb
Pecyn - Ysgolion Uwchradd - 1398.00kb
Pecyn - Ysgolion Arbennig - 1399.50kbPecyn - Unedau Cyfeirio Disgyblion - 1363.50kb
Pecyn - Rhwydwaith Cyffredinol - 1381.00kb

Beth sydd angen i ni ei wneud?

Cewch cyfle i lanlwytho tystiolaeth ychwanegol i gefnogi eich cais megis cynllun dayblygu ysgol swyddogol os dymunwch wneud hynny. Dylai'r ddogfen hon ei gwneud yn eglur iawn sut mae eich sefydliad yn cynllunio i barhau i ddefnyddio Gemau Llundain 2012 a'r Gwerthoedd i adeiladu ar y gwaith yr ydych eisoes yn ei gynllunio.

Gall y cynllun datblygu hwn fod ar gyfer yr ysgol gyfan, un adran benodol, neu gall hyd yn oed dargedu grwpiau penodol megis plant ag anghenion addysgol arbennig, ffoaduriaid neu rai â Saesneg fel iaith ychwanegol - chi sydd i benderfynu, a bydd yn dibynnu ar sut ydych chi a'ch myfyrwyr wedi penderfynu arddangos ymrwymiad i'r Gwerthoedd.