Yr Alban
Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol Bank of Scotland
Gall ysgolion yr Alban gofrestru ar gyfer cymryd rhan yn Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol Bank of Scotland ar 7-11 Mehefin 2010!
Mae Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol Bank of Scotland, a gynhelir mewn partneriaeth â sportscotland, yn defnyddio egni Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 i ysbrydoli pobl ifainc i gymryd rhan mewn wythnos o ddathlu chwaraeon a gweithgaredd corfforol mewn ysgolion.
Yn rhan o'r digwyddiad chwaraeon ysgol mwyaf yn y DU, cynhelir y rhaglen ochr yn ochr ag Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol Lloyds TSB yng Nghymru a Lloegr. Crewyd y cysyniad gan yr Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid ac yn 2009 cymerwyd rhan gan dros 10,500 o ysgolion a thair miliwn o blant.
Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol Bank of Scotland
Defnyddio grym Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 i ysbrydoli mwy o bobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon a deall eu gwerth
Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol Bank of Scotland
Mwy am y rhaglen
Mae’r wythnos yn ysbrydoli ysgolion i ddefnyddio ysbrydoliaeth Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 a’r Gwerthoedd i ddenu diddordeb eu disgyblion a’u cymunedau mewn wythnos sy’n dathlu llwyddiant mewn chwaraeon a gweithgaredd corfforol.
Ar gyfer pwy mae hyn?
rhai 3-19 oed yn Yr Alban
Dewch i ddarganfod mwy
Gwyliwch ffilm am yr wythnos
http://www.schoolsportweekscotland.org/
Human Race
Defnyddio Llundain 2012 i ysbrydoli dylunio cynnyrch.
Human Race
Mwy am y rhaglen
Gwahoddir myfyrwyr Celf a Dylunio ar draws Yr Alban i ddylunio cynnyrch chwaraeon ar gyfer athletwr. Byddant yn cael cyfle i arddangos eu gwaith i bobl broffesiynnol ym myd chwaraeon, dylunio, ffasiwn a chelfyddyd. Bydd y cynnig buddugol yn rhan allweddol o arddangosfa deithiol yn y DU yn 2012 a bydd yr enillydd yn cael gwahoddiad VIP i’r agoriad yng Nghaeredin yng Nghanolfan Gelfyddyd y Ddinas ym mis Awst 2012. Bydd holl ddyluniadau’r rhai oedd yn agos i’r brig hefyd yn rhan o’r arddangosfa.
Mae’r gystadleuaeth yn agored o 1 Medi 2010 hyd at hanner nos 8 Ebrill 2011.
Ar gyfer pwy mae hyn?
Myfyrwyr Celf a Dylunio a Dylunio Cynnyrch Uwch mewn addysg llawn amser yn Yr Alban
Dewch i ddarganfod mwy nawr
http://scotlandandmedicinehumanrace.com/competition













