Swydd Efrog a Humber
Rhwng nawr a 2012 bydd llawer o gyfleon i bobl ifainc yn Sir Efrog a Humber i ymwneud â Llundain 2012. Dewch i ganfod mwy ar y dudalen hon.
Spirit Alive
Defnyddio ysbrydoliaeth Llundain 2012 i ddatblygu a chynnal digwyddiadau chwaraeon bychain.
Spirit Alive
Mwy am y rhaglen
Gwahoddir myfyrwyr i ddatblygu a chynnal eu ‘Gemau bychain’ eu hunain ac yn y broses yn dysgu sut i weithio fel tîm i wireddu eu hamcanion. Chwaraeon neu beidio, mae gan bawb ran i’w chwarae i wneud y Gemau yn llwyddiant. Mae’r ‘Gemau bychain’ yn cynnwys seremonïau agor a chloi ac ystod eang o weithgareddau chwaraeon a chorfforol.
Ar gyfer pwy mae hyn?
Ysgolion cynradd ac uwchradd ar draws Leeds, Gorllewin Sir Efrog.
http://www.yorkshire-gold.com/inspire/projects/spirit-alive
Playing for Gold
Defnyddio Llundain 2012 fel bachyn i archwilio hanes a Gwerthoedd y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd.
Playing for Gold
Mwy am y rhaglen
Mae Playing for Gold yn caniatau plant a phobl ifanc i ymddiddori mewn a dysgu am hanes a Gwerthoedd y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd. Gan ddefnyddio gweithgareddau chwarae ac addysgol, bydd plant yn gwneud cysylltiad â‘r Gemau ac yn cael llawer o hwyl yn y broses. Bydd y rhaglen yn cael ei chynnal drwy Gymunedau Lleol Bradford, mewn ysgolion cynradd ac mewn clybiau gwyliau ysgolion yn ystod paratoadau Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012.
Ar gyfer pwy mae hyn?
Pobl ifanc 8-14 oed yn ardal Bradford.













