• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Ynglŷn â'r Gemau Paralympaidd

Tîm Pêl-droed Paralympaidd yn dathlu eu llwyddiant mewn pêl-droed 5 yr ochr

Mae gwreiddiau'r Gemau Paralympaidd yn perthyn i gyfnod yn y DU yn syth ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Oeddet ti'n gwybod?

Mae'r enw 'Paralympaidd' yn dod o'r gair Groegaidd 'para' sy'n golygu 'yn ymyl' neu 'ochr yn ochr'? Mae'r enw yn golygu cystadleuaeth sy'n cael ei chynnal yn gyfochrog â'r Gemau Olympaidd.

Hanes y Gemau Paralympaidd

Ym 1944 roedd meddyg o'r enw Sir Ludwig Guttmann yn gweithio ar gyn-filwyr rhyfel gydag anafiadau cefn pan y dechreuodd feddwl am ddefnyddio chwaraeon i'w helpu. Roedd yn argyhoeddiedig y byddai bod yn fwy egnïol yn help i'w ail-ysgogi ar ôl anafiadau difrifol.

Felly, yr un pryd â Gemau Olympaidd Llundain ym 1948, fe drefnodd y Gemau cadair olwyn cyntaf yn Ysbyty Stoke Mandeville yn Swydd Buckingham. Bedair blynedd yn ddiweddarach dechreuodd cystadleuwyr rhyngwladol ddod i'r gystadleuaeth a chynyddodd y diddordeb. Erbyn 1984, roedd mwy na 1,000 o athletwyr o 41 o wledydd yn cystadlu mewn 14 o gampau.

Gydag amser, enillodd y Gemau deitl swyddogol y Gemau Paralympaidd ac fe'u trefnwyd i ddigwydd yr un adeg â'r Gemau Olympaidd yn Rhufain a Tokyo. Erbyn hyn mae'r Gemau Paralympaidd bob amser yn digwydd yn yr un flwyddyn â'r Gemau Olympaidd, ond er 1988 yn unig y maent hefyd wedi defynddio'r un lleoliadau, megis stadiymau a chyfleusterau eraill.

Mae'r Gemau Paralympaidd yn dod adref

Bydd Gemau Paralympaidd Llundain yn dechrau ar 29 Awst 2012, pan fydd athletwyr gydag anabledd yn cystadlu mewn 20 o wahanol gampau.

Bydd cynnal y Gemau Olympaidd a'r Gemau Paralympaidd yn brofiad rhyfeddol i Lundain.

Dywedodd Phil Lane, Prif Weithredwr Cymdeithas Baralympaidd Prydain:

"Mae'r DU yn llawn angerdd tuag at chwaraeon Paralympaidd. Cafodd y mudiad ei eni yma, yn Stoke Mandeville, felly mae'n teimlo fel petai'r Gemau Paralympaidd yn dod adref."

Gwyliwch fideo am y Gemau Paralympaidd

Tanni Grey Thompson a bws Sioe Deithiol Llundain 2012

Lawrlwythwch y dudalen hon fel taflen ffeithiau

Lawrlwytho Ynglŷn â'r Gemau Paralympaidd (869.30 kb)