• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Ynglŷn â'r Gemau Olympaidd

Y Faner Olympaidd

Dysgwch y cyfan am hanes y Gemau Olympaidd.

Oeddet ti'n gwybod?

Yn ôl y llyfrau hanes, cynhaliwyd y Gemau Olympaidd cyntaf yn 776 CC!

Hanes y Gemau Olympaidd

Cynhaliwyd yr Hen Gemau Olympaidd yn Olympia, Gwlad Groeg, filoedd o flynyddoedd yn ôl. Bryd hynny, cynhaliwyd y Gemau er clod i'r Duw Zeus. Nod y Gemau oedd dangos rhinweddau corfforol yr athletwyr oedd yn cystadlu ac annog cysylltiadau da rhwng dinasoedd ar draws Gwlad Groeg.

Ar y cychwyn, am un diwrnod yn unig yr oedd yr Hen Gemau Olympaidd yn para, ac un gystadleuaeth yn unig a gynhaliwyd - ras redeg. Dros y blynyddoedd, estynwyd y Gemau i bara am hyd at bum diwrnod. Dynion yn unig oedd yn cael cystadlu a dim ond merched di-briod oedd yn cael gwylio yn y stadiwm. Roedd rhai merched mor awyddus i wylio'r gystadleuaeth fel iddynt wisgo fel dynion a sleifio i mewn i'r stadiwm!

Roedd yr enillwyr yn yr Hen Gemau yn cael dwy seremoni ddathlu. Yn y seremoni gyntaf roeddynt yn derbyn cangen balmwydd, a chlymwyd rhubanau coch o gwmpas eu dwylo a'u pennau. Yn yr ail seremoni, gosodwyd torch olewydden ar ben yr enillydd.

Yn ôl y llyfrau hanes, gwaharddwyd yr Hen Gemau gan yr Ymerawdwr Theodosius yn 393OC oherwydd nad oedd yn credu eu bod yn addas ar gyfer ymerodraeth Gristnogol.

Y Gemau Olympaidd Modern

Sut gychwynodd y Gemau?

Dros 1500 o flynyddoedd yn ddiweddarach, penderfynodd Ffrancwr ifanc o'r enw Baron Pierre de Coubertin greu'r Gemau Olympaidd Modern. Roedd o'n credu y dylai'r Gemau Olympaidd ddod â chwaraeon, diwylliant ac addysg at ei gilydd.

Pierre de Coubertin

Ym 1894, sefydlodd y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol, a gyda'i gilydd fe ddechreuon nhw drefnu Gemau Olympaidd cyntaf y cyfnod modern.

Dwy flynedd yn unig yn ddiweddarach, ym 1896, cynhaliwyd y Gemau Olympaidd modern cyntaf yn Athen, Gwlad Groeg. Bu i gyfanswm o 241 o athletwyr o 14 o wledydd gymryd rhan, a derbyniodd yr enillwyr fedal arian a changen olewydden.

Pryd oedd y tro cyntaf i ferched gymryd rhan?

O hyd, ni chafwyd merched yn cystadlu'n y Gemau Olympaidd modern cyntaf - mewn gwirionedd ni chafwyd merched yn cystadlu nes y Gemau Olympaidd nesaf, a ddigwyddodd bedair blynedd yn ddiweddarach ym Mharis.

Y Gemau Olympaidd heddiw

Mae'r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol yn dal i oruchwylio trefnu'r Gemau Olympaidd, ond erbyn hyn mae Gemau'r haf yn cael eu cynnal mewn dinas wahanol bob pedair blynedd. Roedd y Gemau Olympaidd diweddaraf yn Beijing, Tsieina, yn Awst 2008.

Mae'r Gemau heddiw yn llawer mwy nag oeddent yn arfer bod, ac maent yn para llawer hirach - yn Beijing roeddynt yn para am 16 diwrnod gydag athletwyr yn cystadlu mewn 28 o wahanol gampau!

Yn yr Hen Wlad Groeg, talwyd am y Gemau gan y Llywodraeth a gan ddinasyddion cyfoethog ac enwog yng Ngwlad Groeg. Heddiw, mae'r Gemau yn costio llawer mwy o arian ac mae ganddynt noddwyr mwy, neu gwmnïau sy'n talu i fod yn rhan o'r Gemau. Mae'r cwmnïau hyn yn helpu i dalu am gostau'r Gemau.

Er 1968, mae pob un o Gemau Olympaidd yr Haf wedi cael eu dilyn gan Gemau Paralympaidd ar gyfer athletwyr anabl.

Dysgwch fwy am y Gemau Paralympaidd

Beth am Gemau Olympaidd y Gaeaf?

Pan ddechreuodd y Gemau Olympaidd modern, dim ond chwaraeon yr haf oedd yn cael eu cynnwys. Yn ystod y 1920au daeth chwaraeon eira a rhew yn boblogaidd, ac felly, ym 1924, penderfynodd y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol gynnal Gemau Olympaidd y Gaeaf am y tro cyntaf yn Chamonix, Ffrainc. Roedd y Gemau'n boblogaidd, gyda 258 o athletwyr o 16 o wledydd yn cymryd rhan.

Erbyn hyn mae Gemau Olympaidd y Gaeaf yn digwydd bob pedair blynedd. Roedd y Gemau diweddaraf yn Nhiwrin, Yr Eidal yn 2006 - roedd yna dros 2500 o athletwyr yn cystadlu, yn cynrychioli 80 o wledydd yn cynnwys Madagasgar, Brasil a Gwlad Thai!

Eirafyrddiwr yn croesi'r llinell

Lawrlwythwch y dudalen hon fel taflen ffeithiau
Ynglyn a'r Gemau Olympaidd - 1892.43kb