Bydd Gemau Llundain 2012 yn wahanol iawn i'r Hen Gemau Olympaidd.
Yr Hen Gemau
Bryd hynny roedd yna lai o gystadlaethau chwaraeon a rhoddwyd caniatâd i athletwyr gystadlu ond yn unig os oeddynt yn ddynion ac yn siarad Groeg, nid oedd merched yn cael caniatâd.
Yn union fel y Gemau Modern, roedd yr Hen Gemau yn dod â'r athletwyr gorau at ei gilydd i gystadlu, ond rhoddid hefyd wobrau i feirdd, llenorion a cherddorion. Cynhaliwyd yr Hen Gemau bob amser yng Ngwlad Groeg, ac nid oeddynt yn symud o wlad i wlad fel y maent heddiw.
Y Gemau Olympaidd a'r Gemau Paralympaidd modern
Heddiw, mae'r Gemau yn wahanol iawn. Cynhelir Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yr Haf a'r Gaeaf mewn gwlad wahanol bob pedair blynedd. Daw athletwyr gwrywaidd a benywaidd o bedwar ban byd i gymryd rhan yn y Gemau hyn, ac fe gânt eu gwobrwyo â medalau aur, arian ac efydd.
Yn 2012, bydd mwy na 10,000 o athletwyr o 205 o wahanol wledydd yn cymryd rhan.
Enghreifftiau o chwaraeon yr Hen Gemau Olympaidd
- Bocsio
- Rasio Cerbydau Rhyfel
- Marchogaeth
- Pancration (cyfuniad o Focsio a Reslo)
- Pentathlon (pum camp yn cynnwys Disgen, Gwaywffon, Neidio, Rhedeg a Reslo)
- Rhedeg
- Reslo
Chwaraeon Olympaidd modern
- Chwaraeon Dŵr
- Saethyddiaeth
- Athletau
- Badminton
- Pêl-fasged
- Bocsio
- Canŵ/Caiac
- Seiclo
- Marchogol
- Cleddyfa
- Pêl-droed
- Gymnasteg
- Pêl-law
- Hoci
- Jwdo
- Pentathlon Modern
- Rhwyfo
- Hwylio
- Saethu
- Tennis Bwrdd
- Taecwondo
- Tennis
- Triathlon
- Pêl-foli
- Codi Pwysau
- Reslo
Chwaraeon Paralympaidd modern
- Saethyddiaeth
- Athletau
- Boccia
- Seiclo
- Marchogol
- Pêl-droed (pum-yr-ochr)
- Pêl-droed (saith-yr-ochr)
- Pêl-gôl
- Jwdo
- Pŵer-godi
- Rhwyfo
- Hwylio
- Saethu
- Nofio
- Tennis Bwrdd
- Pêl-foli (eistedd)
- Pêl-fasged Cadair Olwyn
- Cleddyfa Cadair Olwyn
- Rygbi Cadair Olwyn
- Tennis Cadair Olwyn
Mae'r gwahaniaethau yn y ffordd yr oedd athletwyr yn cystadlu bryd hynny a heddiw yn cynnwys y ffaith bod athletwyr yn cystadlu'n noeth yn yr hen amser. Nid oeddynt yn cystalu fel rhan o dîm cenedlaethol - dim ond fel unigolion - a rhoddid i'r enillwyr goron o ddail yn hytrach na medalau.













