Dysgwch y cyfan am y symbolau sy'n gwneud y Gemau Olympaidd a'r Gemau Paralympaidd yn enwog.
Dysgwch y cyfan am:
- Y Fflam Olympaidd a Pharalympaidd
- Y Cylchoedd Olympaidd a'r Symbol Paralympaidd
- Y Baneri Olympaidd a Pharalympaidd
- Yr Arwyddeiriau Olympaidd a Pharalympaidd
- Y Credo Olympaidd a'r Weledigaeth Baralympaidd
- Mascotiaid
Y Fflamau Olympaidd a Pharalympaidd

Mae'r Fflam Olympaidd yn aros ynghyn drwy gydol y Gemau. Cychwynwyd y traddodiad hwn gan yr Hen Roegwyr a ddefnyddiodd fflam a gynhaewyd gan belydrau'r haul yn Olympia, lleoliad y Gemau cyntaf. Mae'r fflam yn dal i gael ei chynnau gan belydrau'r haul yn Olympia, gaiff wedyn ei defnyddio ar Daith Gyfnewid y Dortsh. Pan fydd yn cyrraedd y stadiwm, caiff y Pair Olympaidd ei gynnau. Mae'r fflam yn aros ynghyn drwy gydol y Gemau.
Yn wahanol i'r Fflam Olympaidd a'i chysylltiadau ag Olympia yng Ngwlad Groeg, nid oes gan y Fflam Baralympaidd gartref hanesyddol, felly gall pob Dinas Cynnal ddewis man cynnau sy'n bwysig i'w gwlad.
Yn Awstralia, cafodd y fflam ei chynnau o flaen Tŷ'r Senedd yn Canberra. Yna aeth y Fflam Baralympaidd ar daith o gwmpas prif ddinasoedd Awstralia hyd oni chyrhaeddodd Stadiwm Awstralia ar gyfer y Seremoni Agor.
Y Cylchoedd Olympaidd
Mae'r Cylchoedd Olympaidd yn cynrychioli'r pum prif gyfandir sy'n dod at ei gilydd ar gyfer y Gemau. Y rhain yw Affrica, America, Asia, Awstralia ac Ewrop. Maent wedi eu cysylltu i gynrychioli athletwyr y byd sy'n cyfarfod yn y Gemau.
Cynlluniwyd y pum Cylch Olympaidd ym 1913.
Y Symbol Paralympaidd
Y coch, glas a'r gwyrdd yn y symbol hwn yw'r rhai a ddefnyddir amlaf ar faneri o gwmpas y byd. Mae'r symbol yn symud, o gwmpas pwynt canolog.
Mae'r IPC yn y canol yn dynodi'r Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol (International Paralympic Committe) sy'n dod ag athletwyr at ei gilydd o gwmpas y byd. Mae'r symbol hefyd yn dangos athletwyr Paralympaidd yn symud ymlaen a byth yn ildio.
Codir y Baneri Olympaidd a Pharalympaidd yn Seremonïau Agor y Gemau.
Mae'r Seremoni Agor yn digwydd ar ddiwrnod cyntaf y Gemau ac mae'r stadiwm chwaraeon yn llawn cerddoriaeth, canu a dawnsio. Tynnir y faner i lawr yn y Seremoni Gloi ar ddiwedd y Gemau.
Ar y Faner Olympaidd, gwelir y cylchoedd ar gefndir gwyn. Mae yna chwe lliw, yn cynnwys y gwyn, ar y faner, Pan gynlluniwyd y faner ym 1913, roedd y lliwiau hyn yn cynrychioli pob lliw ar bob baner y gwledydd oedd yn rhan o'r Mudiad Olympaidd.
Ar y Faner Baralympaidd, y coch, y glas a'r gwyrdd yn y symbol hwn yw'r rhai a ddefnyddir amlaf ar faneri o gwmpas y byd.
Ar ddiwedd y Gemau Paralympaidd neu'r Gemau Paralympaidd, mae Maer y ddinas a'u trefnodd yn dychwelyd y faner i Lywydd y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol neu'r Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol, sydd wedyn yn ei rhoi i Faer y ddinas nesaf fydd yn cynnal y Gemau bedair blynedd yn ddiweddarach. Caiff y seremoni hon ei hadnabod fel 'Seremoni Antwerp' oherwydd mai yma y dechreuodd y traddodiad.

Yr Arwyddair Olympaidd
Yr arwyddair Olympaidd yw 'Citius, Altius, Fortius'. Lladin yw hyn am 'Cyflymach, Uwch, Cryfach'.
Yr Arwyddair Paralympaidd
Yr arwyddair Paralympaidd yw 'Spirit in motion'.
Y Credo Olympaidd
Credo yw set o gredoau sy'n effeithio ar weithredoedd rhywun. Mae'r Credo Olympaidd yn dweud:
'Y peth pwysicaf yn y Gemau Olympaidd yw cymryd rhan ac nid ennill, yn union fel mai'r peth pwysicaf mewn bywyd yw'r ymdrech ac nid y gorchfygu. Y peth hanfodol yw brwydro'n dda ac nid concro.'

Y Weledigaeth Baralympaidd
'I alluogi athletwyr Paralympaidd i gyrraedd rhagoriaeth mewn chwaraeon ac i ysbrydoli a chyffroi'r byd.'
Mascotiaid
Ers Gemau Gaeaf 1968 yn Grenoble, Ffrainc, mae pob un o'r Gemau wedi cael mascot. Gall hwn fod yn anifail cynhenid i'r wlad neu'n ffigwr dynol sy'n cynrychioli diwylliant y wlad honno. Dyma rai esiamplau o fascotiaid o Gemau diweddar.
Mascotiaid Olympaidd
Fuwa, Beijing 2008
Pump o blant yn lliwiau'r cylchoedd Olympaidd, yn cynrychioli nodweddion pedwar anifail cenedlaethol China - y Pysgodyn, y Panda, yr Antelop Tibetaidd a'r Wennol. Mae eu henwau gyda'i gilydd, Bei Jing Huan Ying Ni, yn sillafu "Croeso i Beijing"

Mascotiaid Paralympaidd
Fu Niu Lele
Mascot swyddogol Gemau Paralympaidd Beijing 2008. Mae'r fuwch egnïol yn cynrychioli cyfeillgarwch a phenderfyniad Paralympiaid.

Lawrlwythwch y dudalen hon fel taflen ffeithiau
Symbolau a mascotiaid y Gemau (2072.22 kb)













