Mae seremonïau megis y rhai hynny sy'n nodi agor a chloi Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn adegau cofiadwy iawn.
Digwyddiadau mawr cyntaf Llundain 2012 oedd y Seremonïau Trosglwyddo a ddigwyddodd yn ystod Seremonïau Cloi Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Beijing 2008. Yn ystod y Seremonïau hyn, daeth Llundain yn swyddogol i fod y Ddinas Cynnal nesaf.
Gallwch ddarganfod mwy am y Seremonïau Trosglwyddo a thraddodiadau Olympaidd a Pharalympaidd eraill isod:
Seremonïau Trosglwyddo
Mae Seremoni Drosglwyddo yn digwydd yn ystod y Seremoni Gloi yn y Gemau Olympaidd a'r Gemau Paralympaidd. Mae'r Trosglwyddo fel rheol yn para am tua chwarter awr. Ar ddechrau'r Trosglwyddo, caiff y Faner Olympaidd neu Baralympaidd ei thynnu i lawr yn y stadiwm a'i rhoi i Faer y Ddinas Cynnal nesaf. Wedi hynny, mae'r Ddinas Cynnal newydd yn rhoi perfformiad diwylliannol sydd wedi ei chynllunio i ddangos i'r byd pa mor gyffrous fydd y Gemau nesaf.
Y Seremonïau Agor a Chloi
Yn draddodiadol, mae'r Seremonïau hyn yn nodi dechrau a diwedd y Gemau. Ceir digwyddiadau ar wahân ar gyfer y Gemau Olympaidd a'r Gemau Paralympaidd. Mae'r Seremoni Agor yn dilyn trefn o ddigwyddiadau sy'n cynnwys croesawu'r athletwyr, areithiau, codi'r faner, cynnau'r dortsh ac yna adloniant o safon byd-eang i ddathlu dechrau'r Gemau.
Mae'r Seremoni Gloi hefyd yn dilyn trefn, pan fo anthemau'n cael eu chwarae, y faner yn cael ei rhoi i Faer y Ddinas Cynnal nesaf a'r fflam yn cael ei diffodd. Yna mae'r parti'n dechrau - gydag athletwyr, gwylwyr a swyddogion yn dathlu diwedd Gemau llwyddiannus. Nid yw'r cynlluniau wedi cael eu cadarnhau ar gyfer 2012 ac fe fyddant yn aros yn gyfrinachol.
Teithiau Cyfnewid y Dortsh
Mae Taith Gyfnewid y Dortsh Olympaidd a Thaith Gyfnewid y Dortsh Baralympaidd yn nodi dechrau pob un o'r Gemau. Mae fflam Taith Gyfnewid y Dortsh Olympaidd yn cychwyn ei thaith yn Olympia, Gwlad Groeg, ac yn 2012 bydd yn teithio drwy drefi a dinasoedd ar hyd a lled y DU i'r Stadiwm Olympaidd yn Llundain.
Dewch i gael mwy o wybodaeth am Daith Gyfnewid Fflam Olympaidd Llundain 2012
Dewch i gael mwy o wybodaeth am Daith Gyfnewid Fflam Baralympaidd Llundain 2012
Mae fflam Taith Gyfnewid y Dortsh Baralympaidd yn cychwyn ei thaith mewn mannau gwahanol ar gyfer pob un o'r Gemau ac fel rheol yn dilyn llwybr gwahanol. Nid oes penderfyniad wedi ei wneud eto ynglŷn â lle gaiff y Fflam Baralympaidd ei chynnau yn 2012.
Pan fydd y Fflam yn teithio o wlad i wlad mae'n mynd ar drên neu awyren, ond pan fydd yn cyrraedd dinas fydd yn cymryd rhan yn y Daith Gyfnewid, caiff ei chario gan gariwr tortsh sy'n rhedeg neu'n teithio gan ddal y Fflam i fyny'n uchel.
Yr eiliad pan fo'r Dortsh yn cyrraedd y stadiwm yw uchafbwynt y Seremoni Agor. Ym mhob un o'r Gemau, caiff un person ei ddewis i fod y cariwr tortsh olaf, sydd yn ddyletswydd pwysig iawn. Mae'r cariwr tortsh olaf yn gwneud lap yn y Stadiwm ac yna'n defnyddio'r Fflam i gynnau'r Pair. Mae'r Fflam yn aros ynghyn hyd at y Seremoni Gloi.
Yng Ngemau Olympaidd Beijing 2008, cafodd y Pair ei gynnau gan y Gymnastwr Olympaidd, Li Ning, ac fe gafodd y Pair Paralympaidd ei gynnau gan y neidiwr triphlyg, Hou Bin.
Seremonïau Medalau
Mae'r seremoni fedalau yn digwydd yn fuan ar ôl i gystadleuaeth orffen. Mae'r athletwyr a ddaeth yn gyntaf, ail a thrydydd yn sefyll ar bodiwm, gyda'r enillydd yn y canol.
Cyhoeddir eu henwau a rhoddir y medalau iddyn nhw gan swyddog. Codir baneri gwledydd yr athletwyr ac fe gaiff anthem genedlaethol gwlad enillydd y fedal aur ei chwarae.
Mae yna fedal aur, arian ac efydd i'r athletwyr. Mae'n rhaid i'r medalau gael diamedr o o leiaf 60mm a thrwch o 3mm. Mae cynlluniau'r medalau yn wahanol ar gyfer pob un o'r Gemau.
Lawrlwythwch y dudalen hon fel taflen ffeithiau
Ceremonies and Torch Relays - 3051.32kb













