Bydd Teithiau Cyfnewid Fflam Llundain 2012 yn lledaenu neges Gemau Llundain 2012, gan ysbrydoli pawb wrth i ni edrych ymlaen at y Seremoni Agor.
Cyfnewid y Fflam Olympaidd
Y Fflam Olympaidd yw un o symbolau parhaus y Gemau Olympaidd, sy'n cynrychioli heddwch, undod a chyfeillgarwch. Wrth iddi gael ei chario o gwmpas y DU ar Daith Gyfnewid Fflam Olympaidd Llundain 2012 bydd yn trosglwyddo ysbryd y Gemau i bawb.
Wedi ei chynnau yn Olympia, Gwlad Groeg, mewn seremoni draddodiadol, bydd y Fflam Olympaidd yn mynd ar daith gyfnewid fer yng Ngwlad Groeg cyn cyrraedd y DU ar 18 Mai 2012.
Yna bydd y Fflam yn mynd ar daith 70 diwrnod ar draws y DU, yn cael ei chario gan 8000 o Gludwyr y Fflam. Bydd y Daith Gyfnewid yn creu cyffro wrth iddi fynd ar ei ffordd i Lundain a Seremoni Agor y Gemau. Bydd y Fflam yn dod o fewn taith un awr i 95 y cant o boblogaeth y DU - gydag adloniant, sioeau a chyngherddau yn nodi ei chyrhaeddiad ym mhob cyrchfan.
Bydd y Daith Gyfnewid yn rhoi sylw i'r pethau gorau yn y DU - o ardaloedd trefol a dinesig i fannau o harddwch naturiol eithriadol, yn ogystal â thirnodau chwaraeon a diwylliannol.
Dewch i weld ble fydd y Daith Gyfnewid Olympaidd yn aros dros nos
Lawrlwythwch ffeil ffeithiau ynglŷn â hanes Taith Gyfnewid y Fflam Olympaidd a dysgu am Dortsh Gemau Olympaidd Llundain 2012!
Ffeil ffeithiau Taith Gyfnewid y Fflam ar gyfer ysgolion cynradd - 2910.76kb
Ffeil ffeithiau Taith Gyfnewid y Fflam ar gyfer ysgolion uwchradd - 2594.49kb
Dewch i ganfod syniadau am weithgareddau cyffrous ynglŷn â Thaith Gyfnewid Fflam Olympaidd Llundain 2012
Dewch i weld adnoddau ar gyfer rhai 3-5 oed
Dewch i weld adnoddau ar gyfer rhai 5-7 oed
Dewch i weld adnoddau ar gyfer rhai 7-11 oed
Dewch i weld adnoddau ar gyfer rhai 11-14 oed
Dewch i weld adnoddau ar gyfer rhai 14-16 oed
Cludwyr y Fflam - cario'r Fflam Olympaidd
Bydd cario'r Fflam Olympaidd ar Daith Gyfnewid Fflam Olympaidd Llundain 2012 yn gyfle unwaith-mewn-oes. Bydd mwy na hanner Cludwyr Fflam Llundain 2012 yn bobl ifanc yn y DU sy'n haeddu cael ennyd i ddisgleirio. Y Cludwyr Fflam hyn fydd ein pobl ifanc mwyaf ysbrydoledig, ein harwyr a'n arwresau tawel.
Taith Gyfnewid y Fflam Baralympaidd
Bydd y paratoi tuag at y Gemau Paralympaiddd hefyd yn cael ei nodi gan Daith Gyfnewid y Fflam Baralympaidd ar hyd a lled y DU yn 2012 a bydd yn cynnwys amrywiaeth o ddathliadau a digwyddiadau. Bydd y cynlluniau'n cael eu datgelu yn hwyr yn 2011.













