Mae Llundain yn un o'r dinasoedd mwyaf amrywiol yn y byd.
Oeddet ti'n gwybod?
- Mae yna fwy na saith miliwn o bobl yn byw yn Llundain. Mae hynny yn ei gwneud yn ddinas fwyaf Gorllewin Ewrop.
- Caiff dros 300 o ieithoedd eu siarad yn Llundain drwyddi draw gan blant ysgol - yn achos mwy na thraean o'r plant hyn, nid Saesneg yw'r iaith y maent yn ei siarad yn y cartref.
- Yr ieithoedd mwyaf cyffredin yw: Saesneg, Bengaleg a Silheteg, Panjabeg, Gujerateg a Hindi neu Wrdw.
- Mae yna 200 o gymunedau ethnig gwahanol yn Llundain.
Hanes Llundain a'i hamrywiaeth

Mae Llundain wedi bod yn brif ddinas Lloegr ers y 12fed ganrif. Y Rhufeiniaid greodd dref gyntaf Llundain yn 50 OC a symudodd pobl i'r ddinas o'r Ymerodraeth Rufeinig, yn cynnwys pobl o'r Eidal, Gwlad Groeg, Ffrainc a'r Almaen.
Yna daeth yr Eingl-Sacsoniaid, y Llychlynwyr a'r Normaniaid.
Yng nghyfnod y Tuduriaid (1485-1603), daeth y farchnad gaethweision ag Affricaniaid i Loegr yn erbyn eu hewyllys. Tua'r cyfnod yma hefyd y setlodd llawer o fasnachwyr o'r Iseldiroedd ac Iddewon yn Llundain.
Erbyn canol y 18fed ganrif, roedd y boblogaeth ddu wedi tyfu ac roedd y boblogaeth o dde Asia yn tyfu hefyd. Diddymwyd y fasnach gaethweision, ac erbyn 1870 daeth dwyrain Llundain yn gartref i Iddewon oedd yn dianc o Ddwyrain Ewrop, pobl o Tsieina a llawer mwy.
Ar ôl yr Ail Ryfel Byd roedd prinder gweithwyr yn Llundain, felly daeth llawer o bobl o Ewrop, India ac India'r Gorllewin i lenwi'r swyddi hyn.
Ers hynny, mae Llundain yn aml wedi rhoi cartref i'r rhai hynny sy'n ceisio dianc rhag helyntion gwleidyddol neu drafferthion eraill. Mae'r bobl yma i gyd wedi dod â sgiliau gwahanol i Lundain ac wedi ei gwneud yn ddinas mor amrywiol ac amlddiwylliannol.
Cynnal y Gemau
Gyda chymaint o ieithoedd yn cael eu siarad yn Llundain a thrwy'r DU, bydd llawer o'r gwledydd a'u cefnogwyr fydd yn ymweld yn canfod eraill sydd eisoes yma sydd yn gymaint o gefnogwyr â hwy, yn cefnogi eu gwlad.
Mae Fforwm Llundain 2012, sy'n debyg i gyngor ysgol, eisoes wedi cael ei roi at ei gilydd, i sicrhau bod y gwahanol gymunedau yn Llundain yn cael cyfranu at gynlluniau'r Gemau.
Dywedodd Nelson Mandela, cyn Arlywydd De Affrica, am Lundain:
"Fedra i ddim meddwl am unrhyw le gwell na Llundain i gynnal digwyddiad sy'n uno'r byd."
Lawrlwythwch y dudalen hon fel taflen ffeithiau
Llundain - dinas y byd (881.38 kb)













