Mae Llundain yn un brif ddinasoedd diwylliannol mwya'r byd, a bydd Gemau 2012 yn gyfle i ddangos hynny.
Yr Hen Wlad Groeg a'i diwylliant
Roedd y Gemau Olympaidd yn bwysig ac enwog iawn yn yr Hen Wlad Groeg, ac roeddynt yn cael eu cynnal bob pedair blynedd. Roedd yr athletwyr gorau yn dod at ei gilydd i gystadlu ochr yn ochr â llenorion, beirdd, cerddorion ac artistiaid eraill oedd yn awyddus i ddangos eu talentau. Cynhaliwyd y Gemau yn Olympia, oedd yn ganolfan ar gyfer popeth ym myd chwaraeon a diwylliant. Yn yr Hen Wlad Groeg perfformiwyd celfyddyd a chwaraeon yn aml gyda'i gilydd.
Diwylliant a'r Gemau modern
Pan gychwynodd Pierre de Coubertin y Gemau modern ym 1896, sicrhaodd fod celfyddyd a diwylliant yn rhan bwysig o'r Gemau yn ogystal â chwaraeon. Mewn gwirionedd, cafwyd cystadlaethau peintio, cerflunio a cherddoriaeth hyd at 1948!
Heddiw mae diwylliant yn dal i fod yn rhan hanfodol o'r Gemau gyda digwyddiadau megis gwyliau, arddangosfeydd a chyngherddau yn cael eu cynnal wrth arwain at, ac yn ystod, y Gemau.

Diwylliant a Llundain 2012
Bydd y Gemau yn 2012 yn dod â chwaraeon, diwylliant ac addysg at ei gilydd yn yr Olympiad Diwylliannol.

Mae'r Olympiad Diwylliannol yn rhan wirioneddol bwysig o weledigaeth Llundain 2012 - bydd yn caniatáu i bobl gymryd rhan mewn digwyddiadau a dathliadau diwylliannol ym mhob cymuned yn Llundain ac yn y DU drwyddi draw - gan helpu i greu un o'r dathliadau mwyaf yn hanes y DU.
Mae'r Olympiad Diwylliannol yn cychwyn yn swyddogol yn nhymor yr Hydref 2008 ac yn para hyd at Gemau Llundain 2012.
Gwerthoedd
Bydd tri o werthoedd yn gyffredin i pob prosiect yn yr Olympiad Diwylliannol:
- Dathlu bod Llundain a'r DU gyfan yn croesawu'r byd
- Ysbrydoli a chynnwys pobl ifanc
- Creu etifeddiaeth bositif
Yn ogystal â'r gwerthoedd cyffredin hyn, bydd i bob prosiect sy'n ymwneud â'r Olympiad Diwylliannol nifer o themâu hefyd, yn cynnwys:
- dod â diwylliant a chwaraeon ynghyd
- defnyddio diwylliant a chwaraeon i godi materion cynaladwyedd amgylcheddol, iechyd a lles.
- parchu a rhannu'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd
- gwella dysg, sgiliau a datblygiad personol pobl ifanc trwy gysylltu â'r rhaglen addysg.
Prosiectau
Ceir tri math gwahanol o brosiectau Olympiad Diwylliannol:
- Seremonïau - yn cynnwys y Seremonïau Trosglwyddo yng Ngemau Beijing yn 2008, y Seremonïau Agor a Chloi yn 2012, y Seremonïau Medalau a Thaith Gyfnewid y Dortsh. Bydd y rhain yn ddigwyddiadau gweledol byw rhyfeddol fydd yn cael eu gwylio ar deledu gan filiynau o bobl o gwmpas y byd. Dysgwch fwy am Seremonïau Olympaidd a Pharalympaidd.
- Prosiectau mawr - deg o brosiectau diwylliannol mawr ar hyd y DU y mae Llundain 2012 yn ymroddedig i'w cynnal, yn cynnwys gŵyl ar eich cyfer chi bobl ifanc yn unig, prosiect celfyddydol a chwaraeon i bobl anabl, prosiect ffilm a fideo a llawer mwy.
- Gŵyl Ddiwylliannol y DU - cyfle i filoedd o ddigwyddiadau lleol a rhanbarthol gymryd rhan yn y dathlu cenedlaethol.
Bydd y Gemau hefyd yn gyfle gwych i ddysgu mwy am ddiwylliannau eraill a'r gwledydd eraill sy'n cystadlu a bydd llawer o weithgareddau ar gael fydd yn galluogi pobl ifanc i wneud yr union bethau hynny.
Lawrlwythwch y dudalen hon fel taflen ffeithiau
Diwylliant a Llundain 2012 (920.34 kb)













