• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Parc Olympaidd gwyrdd

Amgylcheddwyr yn glanhau afon yn y Parc Olympaidd

Mae Llundain 2012 yn gobeithio mai rhain fydd y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd gwyrddaf erioed.

Mae'r Olympic Delivery Authority, sy'n gyfrifol am adeiladu'r Parc Olympaidd, yn gwybod y gall gwaith adeiladu effeithio'n fawr ar yr amgylchedd, a dyna pam eu bod yn gwneud popeth y gallan nhw i leihau effeithiau eu gwaith adeiladu ar y bobl sy'n byw, gweithio a chwarae gyfagos.

Lawrlwythwch daflen ffeithiau i ganfod mwy am sut y mae Llundain yn adeiladu'r Parc Olympaidd mewn modd cynaladwy ac ecogyfeillgar.
Cynaladwyedd criw adeiladu - 4577.74kb

Lawrlwythwch boster 'Bod yn Wyrddach'
Poster Bod yn Wyrddach - 1942.07kb

Eisiau dysgu mwy am gynaladwyedd a'r amgylchedd?

Beth am lunio proffil o anifail neu blanhigyn a geir yn y Parc Olympaidd?

Dewiswch ac yna archwilio anifail neu blanhigyn a geir yn y Parc Olympaidd, yna crëwch broffil un dudalen ohono, yn cynnwys ei enw, llun, disgrifiad, hoff gynefin, nodweddion a chylch bywyd.

Lawrlwythwch restr o anifeiliaid a phlanhigion a geir yn y Parc Olympaidd
Rhestr o anifeiliaid a phlanhigion a geir yn y Parc Olympaidd. - 14.59kb

Beth am greu lleoliad Parc Olympaidd o ddeunyddiau gwastraff?

Dewiswch leoliad Parc Olympaidd a chreu model ohono gan greu deunyddiau gwastraff. Meddyliwch am ba fathau o ddeunyddiau gwastraff allwch eu casglu gartef ac yn yr ysgol a sut y byddant yn eich helpu i greu model diddorol.

Sicrhewch eich bod yn cofnodi pob cam o'r adeiladu fel bod gennych gofnod o gynllunio, adnoddau, adeiladu, ac agor y lleoliad.

Beth am lunio rhestr o ymrwymiadau arbed ynni?

Meddylich am beth yw 'ynni', a rhestru yr holl fathau o ynni a geir (adnewyddadwy neu anadnewyddadwy).

Yna dyluniwch log fel y gallwch gofnodi pa ynni a ddefnyddir yn yr ysgol ac yn y cartref am bythefnos.

Meddyliwch am yr hyn y gallech chi ei wneud i leihau'r ynni a ddefnyddir a pham fod hyn yn bwysig (er enghraifft, helpu'r amgylchedd ac arbed arian). Gweithiwch gyda'ch gilydd i gytuno ar restr a ymrwymiadau fydd yn eich helpu i arbed ynni yn yr ysgol a'r cartref. Yna gallech arddangos eich ymrwymiadau o gwmpas yr ysgol neu gynnal gwasanaeth i gael pawb yn yr ysgol yn rhan ohono!

Gallech hefyd ddylunio holiadur i gasglu mwy o wybodaeth gan eich rhieni, gofalwyr a ffrindiau. Gallan nhw feddwl am awgrymiadau am beth allan nhw ei wneud i arbed ynni hefyd.

Beth am ysgrifennu erthygl ar gyfer papur yr ysgol neu'r papur lleol ynglŷn â'r hyn ydych wedi ei ganfod, pam fod arbed ynni'n bwysig, a pha ymrwymiadau yr ydych wedi cytuno iddynt?

Mae Y Pod EDF Energy yn cynnwys gweithgareddau gwych fydd yn help i chi gyda'r gweithgareddau uchod.
Dewch i ganfod mwy am ynni yn Y Pod