Mae'r Parc Olympaidd yn Nwyrain Llundain. Mae'n croesi 5 o Fwrdeistrefi Llundain - Hackney, Newham, Tower Hamlets, Greenwich a Waltham Forest.
Archeoleg a hanes y Parc Olympaidd
Yr Olympic Delivery Authority yw'r sefydliad sy'n gyfrifol am adeiladu'r Parc Olympaidd. Fel rhan o'u gwaith adeiladu maent wedi llunio rhaglen archeolegol er mwyn dysgu mwy am yr ardal a'i hanes.
Lawrlwythwch daflen ffeithiau sy'n dweud mwy wrthych am yr hyn wnaethon nhw ei ddarganfod.
Taflen Hanes Archeoleg ODA - 1699.21kb
Eisiau dysgu mwy am archeoleg?
Beth am wneud llinell amser?
Casglwch luniau pobl a digwyddiadau o gyfnodau cynhanesyddol hyd at y presennol. Gallech hyd yn oed roi thema i'r lluniau a gasglwch, er enghraifft chwiliwch am luniau o'ch ardal leol.
Crewch linell amser gyda'ch lluniau a'i dangos yn eich dosbarth neu neuadd ysgol. Gallech hyd yn oed anodi'r lluniau gyda digwyddiadau a dyddiadau.
Beth am feddwl am sut mae ysbwriel yn newid dros amser?
Casglwch eitemau o ysbwriel o amrywiol ddeunyddiau, pethau y gallech eu canfod ar safle adeiladu neu yn eich ysgol megis papur, croen banana, metel, plastig, crochenwaith, pren, gwydir, lledr a ffabrig.
Cofnodwch gyflwr yr eitem o ysbwriel gan ddefnyddio lluniau, disgrifiadau a ffotograffau. Claddwch yr ysbwriel mewn pridd y tu allan, nodwch y safle a'i adael yno am o leiaf mis. Yn ystod yr amser yma sicrhewch bod eich eitemau yn cael eu gwlychu (os nad yw'n glawio, dyfrhewch y tir!)
Dadorchuddiwch yr eitemau ac edrychwch ar sut maent wedi newid. Pa eitemau sydd wedi newid fwyaf? Sut maent wedi newid?
Trafodwch beth allai fod wedi achosi i'r deunyddiau newid. Pam fod rhai wedi newid yn fwy nag eraill? Beth allai archeolegwyr yn y dyfodol feddwl amdanom ni petaent yn edrych ar y pethau y taflwn i ffwrdd?
Beth am feddwl am beth fyddai archeolegwyr y dyfodol yn ei ddysgu am Barc Olympaidd Llundain 2012?
Dychmygwch eich bod yn archeolegydd yn 2012 a'ch bod wedi darganfod gweddillion gorsaf danddaearol y Parc Olympaidd. Dinistriwyd y Parc Olympaidd miloedd ar filoedd o flynyddoedd yn ôl a'r cyfan sydd ar ôl yw'r sylfeini a rhai cliwiau a gladdwyd yn ddwfn dan y ddaear.
Lluniwch gynllun o'r Parc Olympaidd gan ddangos safleoedd y lleoliadau a labelu gwahanol rannau'r Parc. Trafodwch pa gliwiau a all fod ar ôl i archeolegwyr y dyfodol ar gyfer dehongli at ba bwrpas y defnyddiwyd y Parc yn 2012.













