Mae yna nifer o ffeithiau a ffigyrau trawiadol ynglŷn â'r Parc Olympaidd.
Stadiwm Olympaidd
- Bydd y Stadiwm Olympaidd yn dal cyfanswm o 80,000 yn ystod y Gemau
- Hwn yw'r Stadiwm Olympaidd ysgafnaf i gael ei adeiladu erioed
- Mae angen y pedwar tŵr goleuo ar ddeg oherwydd dyma'r Gemau Olympaidd cyntaf erioed fydd yn cael eu darlledu gyda thechnoleg HD ffram-rewi fydd yn hanfodol er mwyn dangos y cyffro'n ei gyfanrwydd
- Mae rhan o strwythur cynnal y to wedi ei ffurfio o 2,500 tunnel o diwbiau dur gafodd eu hailgylchu o hen bibellau nwy
Canolfan Chwaraeon Dŵr
- Daw y dur a ddefnyddiwyd i adeiladu'r Ganolfan Chwaraeon Dŵr o Gasnewydd yng Nghymru
- Mae to siap ton y Ganolfan Chwaraeon Dŵr yn 12,000 metr sgwar, sy'n un a hanner gwaith gymaint â chae pêl-droed Wembley
- Roedd cyfanswm y deunydd fu'n rhaid ei gloddio er mwyn adeiladu'r Ganolfan Chwaraeon Dŵr yn cyfateb i 160,000 tunnell o bridd
Felodrom
- Y Felodrom yw un o leoliadau mwyaf cynaliadwy y Parc Olympaidd. Mae'r to ysgafn yn pwyso hanner yr hyn sy'n gorchuddio unrhyw Felodrom arall, sy'n helpu i greu adeilad effeithlon iawn
- Mae to 'Cable-net' y Felodrom wedi ei wneud o 17 km o wifrau dur. Mae hynny'n fwy na 10 milltir o wifrau dur, dwywaith uwch na Mynydd Everest
- Mae dylunwyr ac adeiladwyr Felodrom Llundain 2012 yn amcanu at iddo fod y trac seiclo dan do cyflymaf yn y byd
Canolfan Ddarlledu Ryngwladol/Prif Ganolfan y Wasg
- Bydd y Ganolfan Ddarlledu Ryngwladol yn ganolfan gyfryngau 24 awr ar gyfer 20,000 o ddarlledwyr, ffotograffwyr a newyddiadurwyr fydd yn dod â'r Gemau i odduetu bedwar biliwn o bobl ar draws y byd
- Mae'r un maint â chwe chae pêl-droed maint llawn
- Defnyddiwyd y wagen fforch godi fwyaf yn y wlad wrth godi'r ffram ddur













