Adeiladau diwydiannol segur a mannau a esgeuluswyd oedd y rhan fwyaf o safle'r cae brown a drawsnewidiwyd gan yr ODA i fod yn barc dinesig gyda chyleusterau chwaraeon safon byd ar safle'r Parc Olympaidd. Bu cynaliadwyedd wrth galon y broses.
Ceir pum thema yn sail i dargedau cynaliadwyedd Llundain 2012:
- newid hinsawdd
- gwastraff
- bioamrywiaeth
- cynhwysiad
- byw'n iach.
John Armitt (Cadeirydd ODA):
'O ddechrau'r prosiect, gosododd y Parc Olympaidd safonau newydd mewn cynaliadwyedd, yn cynnwys darparu lleoliadau ysgafn, ailgylchu neu ailddefnyddio deunyddiau gwastraff, defnyddio concrid gyda chynnwys ailgylchiedig uchel ynddo, a chludo deunyddiau ar reilffordd neu ddŵr. Cyflawnasom safonau newydd ar gyfer prosiect o'r raddfa a'r maint yma ac rydym wedi codi'r safon ar gyfer y diwydiant.'
Penawdau cynaliadwyedd
- Danfonwyd 60% mewn pwysau o ddeunyddiau adeiladu trwy gludiant rheilffordd neu ddŵr. Lleihaodd hyn symudiad cerbydau a'r allyriadau carbon dilynol.
- Gwyrwyd 90% o wastraff adeiladu oddi wrth dirlenwi ac yn hytrach fe'i ailddefnyddiwyd neu fe'i ailgylchwyd.
- I ailddylunio'r Greenway, ffordd cerdded a seiclo allweddol, defnyddiwyd deunyddiau yn cynnwys briciau, cerrig palmantu, coblau, cloriau tyllau caead, sliperi coed a theiliau a arbedwyd o'r camau dymchwel a chlirio'r safle.
- Glanhawyd ac ailddefnyddiwyd cannoedd o filoedd o dunelli o bridd a fyddai fel arall wedi ei gludo o'r safle. Symudwyd pob math o ddifwynwyr mewn proses a elwir yn feddyginiaeth.
Camau cynaliadwyedd yn y lleoliadau
- Stadiwm Olympaidd - y Stadiwm Olympaidd ysgafnaf hyd yma, yn lleihau y defnydd o ddur. Gwnaed trawstiau'r to o bibellau nwy diddefnydd, a defnyddiwyd gwenithfaen wedi ei ailgylchu o ddociau King George V ar gyfer glannau afon y Stadiwm.
- Felodrom - wedi'i awyru'n naturiol bron 100%. Cesglir dŵr glaw oddi ar y to ar gyfer fflysio'r toiledau a dyfrhau.
- Canolfan Chwaraeon Dŵr - mae gan y concrid yn sylfaen y lleoliad gynnwys uchel ailgylchol ac fe ailgylchir y dŵr a ddefnyddir i lanhau hidlyddion y pwll nofio ar gyfer fflysio'r toiledau.
- Fel cyfanswm, bydd lleoliadau'r chwaraeon yn defnyddio o leiaf 40% yn llai o ddŵr nag adeiladau cyfatebol oherwydd mentrau fel toiledau fflysio isel a chynaeafu dŵr glaw.
- Mae gan lawer o'r lleoliadau a'r pontydd lefydd byw gwag wedi eu hymgorffori i'r muriau a'r toeau,
Yn y Parcdir
- Risg o lifogydd wedi ei lleihau â chamau fel lledu'r afon, cryfhau amddiffynfeydd rhag llif a draenio trefor cynaliadwy.
- Plannwyd mwy na 4,000 o goed, 60,000 o fylbiau a 300,000 o blanhigion gwlyptir i greu lle gwag agored a gwyrdd newydd i Lundain.
- Crewyd 45 hectar o gynefinoedd bywyd gwyllt yn cynnwys gwelyau hesg, glaswelltir, pyllau, coetiroedd, 525 blwch adar, 150 blwch ystlumod a gwalau artiffisial i ddyfrgwn.
- Atgyweiriwyd dyfrffyrdd trwy'r Parc Olympaidd gyda rhaglen carthu gwerth miliynau lawer o bunnau a wellodd ansawdd y dŵr a chreu cynefin mwy hygyrch i fywyd gwyllt.
Ynni gwyrdd
- Canolfan Ynni yn cynhyrchu ynni i'r safle trwy foeler biomas sy'n defnyddio tanwydd sglodion pren.
- Cyfarpar Combined Cooling Heat & Power (CCHP) yn dal y gwres a gynhyrchir fel sgil-gynnyrch cynhyrchu trydan ac mae hyd at 30% yn fwy ynni-effeithiol na chynhyrchu traddodiadol.
Yn ystod y Gemau
- Cynlluniau teithio gwyrdd ar gyfer gwylwyr â thocynnau a'r gweithlu
- Anogir seiclo a cherdded trwy'r Rhaglen Teithio Egniol
- Fflamau Olympaidd a Pharalympaidd carbon-isel/dim
- Dim gwastraff i dirlenwi yn ystod y Gemau.













